Pwrpas y swydd
•Darparu gwasanaeth iechyd galwedigaethol ymgynghorol mewnol i’r Cyngor a chleientiau allanol gan hyrwyddo a gweithredu cynlluniau dychwelyd i’r gwaith a chymryd cyfrifoldeb am ddarparu cyngor arbenigol a phroffesiynol ar absenoldebau salwch.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Gorychwyliaeth broffesiynol yn unig tros y Swyddog Iechyd Galwedigaethol
Prif ddyletswyddau
•Gweithio fel rhan o dim bychan i lunio, sgrinio cyfeiriadau a blaenoriaethu rhaglen waith yr Uned Iechyd Galwedigaethol gan sicrhau fod anghenion mewnol y Cyngor ynghyd a chytundebau allanol yn cael eu diwallu.
•Cyfrannu at asesu holl anghenion iechyd galwedigaethol y Cyngor ac unrhyw sefydliad arall sy’n derbyn gwasanaeth gan yr Uned gan ymgymryd a rol allweddol i gynllunio, gweithredu ac arfarnu’r trefniadau sydd mewn lle.
•Cynghori rheolwyr a staff ar bob lefel o fewn y sefydliad ar faterion iechyd galwedigaethol gan gyfeirio materion priodol i sylw’r Meddyg Iechyd Galwedigaethol.
•Gorchwylio elfennau clinigol (yn unig) o waith y Swyddog Iechyd Galwedigaethol.
•Ymgymryd ag asesiadau o gyflwr meddygol staff pan yn absennol o’r gwaith gan fonitro cynnydd yn rheolaidd.
•Cynorthwyo rheolwyr i ymgymryd ag asesiadau risg sy’n ymwneud a pheryglon iechyd galwedigaethol.
•Cynnal gwiriadau o holiaduron cyn-gyflogaeth er mwyn dod i gasgliadau ynglŷn a chyflwr iechyd darpar-staff.
•Cefnogi gweithwyr o fewn y gweithle neu ar ôl dychwelyd i’r gwaith gan gynghori unigolion a rheolwyr fel bo’n briodol, gan osgoi ceisio darparu gofal meddygol yr ymgymerir ag o yn arferol gan y Meddyg Teulu.
•Trefnu a gweithredu rhaglen wyliadwriaeth iechyd.
•Ymgymryd â phrofion gwyliadwriaeth iechyd penodol e.e. anadl, croen, clyw.
•Trefnu a gweithredu ar ymgyrchoedd hybu iechyd o fewn y Cyngor.
•Trefnu a darparu rhaglenni iechyd i ymateb i ymgyrchoedd iechyd cenedlaethol o fewn gweithlu’r Cyngor e.e. rhaglen brechu ffliw tymhorol.
•Cymryd cyfrifoldeb am bob cyngor proffesiynol a gynigir i reolwyr a staff unigol.
•Cymryd cyfrifoldeb am gymryd cofnodion priodol yng nghyswllt pob cyngor / prawf neu / driniaeth a roddir a fod y cofnodion hynny yn cael eu trin a’u cadw yn unol â gofynion y Ddeddf Diogelu Data.
•Datblygu polisiau a phrosiectau datblygol / rhagweithiol megis rhaglenni hyfforddiant sy’n ymwneud a iechyd gweithlu’r Cyngor.a / neu leihau absenoldebau
•Ymgynghori a chydweithio’n agos gyda Swyddogion Personel ac Ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch yn ogystal â Swyddogion Adnoddau Dynol er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r cwsmer.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisi a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
-