Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Cynorthwyo arweinydd y Feithrinfa a Rheolwraig y Feithrinfa i drosglwyddo gofal o safon uchel ar gyfer pop plentyn sy’n mynychu miehtrinfa Plas Pawb, gan sicrhau bod eu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol, creadigol a datblygol yn cael eu cwrdd
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
•
Prif Ddyletswyddau.
• Cyfrannu tuag at gynllunio a gweithredu rhaglenni priodol o weithgaredd ar gyfer y plant mewn cydweithrediad a Rheolwr y Feithrinfa, arweinyddion y Feithrinfa a staff eraill, yn cynnwys myfyrwyr. Bydd rhaglenni gweithgaredd yn cael eu trosglwyddo trwy gyfrwng y Gymraeg.
• Dirprwyo i arweinydd neu dirprwy reolwr y Feithrinfa mewn trosglwyddo gofal o safon uchel, gan sicrhau bod anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol, creadigol a datblygol y plant yn cael eu cwrdd
• Agor a chau y feithrinfa a gweithredu fel dirprwy i’r arweinydd neu’r dirprwy reolwr yn ystod y cyfnodau ar ddechrau’r dydd/ diwedd dydd, amser brecs a cinio a phan mae arweinydd yn cael amser di gyswllt, ar hyfforddiant neu’n sal.
• Meddu at dealltwriaeth lawn o system y Feithrinfa o gadw cofnodion a chyfrannu tuag at arsylwi a chofnodi datblygiad plant unigol, gan ddefnyddio’r system gweithwyr allweddol.
• Cydweithio gyda’r arweinydd i roi proffiliau un tudalen mewn lle a gweithredu trefniadau ADY y plant o fewn yr ystafell gan cynnig cymorth a chefnogaeth briodol er mwyn sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael yr un cyfleoedd a’i gyfoedion i fwynhau ac elwa o weithgareddau’r feithrinfa. Cyfrifoldeb i gyfrannu i’r broses o asseu ac arsylwi ar blant a chofnodi eu cynnydd
• sicrhau bod plentyn ag anghenion ychwanegol yn cael ei gynnwys yn llawn ym mhob agwedd o waith y Feithrinfa, gan addasu’r adnoddau a’r gweithgareddau lle bo angen
• Sicrhau bod y mannau chwarae, boed dan do neu yn yr awyr agored, yn amgylcheddau diogel, hapus a gofalgar, sy’n cymell y plant i chwarae’n rhydd.
• Cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n cwrdd ag anghenion pob plentyn sy’n mynychu’r feithrinfa, gan sicrhau rhoddir ystyriaeth ddyledus i genedl, diwylliant, hil, crefydd, iaith ac anabledd.
• Gweithio ochr yn ochr â’r rheolwr a’r staff i sicrhau darpariaeth o ystod o offer gweithgareddau ac arddangosfeydd sy’n ysgogi, dan do ac yn yr awyr agored, sy’n berthnasol i oedrannau ac anghenion y plant.
• Bod mewn cyswllt a rhieni/gofalwyr ac annog iddynt fod a wnelo a lleoliad eu plentyn yn y feithrinfa a’u datblygiad.
• Parchu a dilyn trefniadau ar gyfer babanod a phlant bach sy’n mynychu’r feithrinfa fel yr amlinellir gan eu rhieni/gofalwyr.
• Cynorthwyo gyda gwasanaeth codi plant o’r ysgol a llefydd eraill.
• Cynorthwyo mewn darparu ymborth cytbwys iachus ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu’r feithrinfa, yn cynnwys paratoi bwyd, cynorthwyo gyda bwydo’r plant, sicrhau bod amseroedd prydau yn achlysuron cymdeithasol, a chlirio ar ôl amseroedd prydau.
• Dilyn polisïau a gweithdrefnau a nodir gan Cyngor Gwynedd a Meithrinfa Plas Pawb.
• Ymgyfarwyddo a dilyn Safonau Cenedlaethol gofal dydd llawn mae’n ofynnol eu Arolygaeth Gofal Cymru (CIW).
• Cydrannu’r cyfrifoldeb dros warchod a hyrwyddo lles pob plentyn yn y feithrinfa, fel y cynhwysir o fewn Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan.
• Sicrhau meddiant parhaus ar wybodaeth weithiol o egwyddorion ac amcanion y prosiect Dechrau’n Deg a’r Cynnig Gofal Plant
• Meithrin perthnasoedd gweithio da gydag a dealltwriaeth o asiantaethau allanol a phobl broffesiynol eraill sydd yn ymwneud a datblygiad a gofal plant unigol.
• Cymryd cyfrifoldeb am ddatblygiad personol parhaus, trwy fynychu cyrsiau hyfforddi perthnasol a dal i feddu ar y wybodaeth diweddaraf o ddeddfwriaeth a rheolau sy’n berthnasol i’r swydd.
• Mynychu cyfarfodydd wythnosol y tîm, a chymryd rhan mewn cyfarfodydd misol unigol ac arfarniadau blynyddol gyda Rheolwr neu Arweinydd y Feithrinfa.
• Cynorthwyo yn rheolaeth ddomestig ddyddiol y feithrinfa, gan gynnwys sicrhau y cedwir y feithrinfa yn ddiogel, saff a glan gydol yr amser.
• Sicrhau y cwblheir tasgau gofal plant penodol i’r sicrhau disgwyliedig, yn cynnwys helpu plant gyda bwydo, newid dillad a thoiledau, yn cynnwys newid cewynnau; cynnal safonau uchel o hylendid trwy’r amser; rhoi cysur a chynhesrwydd i blentyn gwael; a hysbysu ynghylch unrhyw arwyddion o salwch neu anaf, neu bryderon ynghylch cam-drin.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Gofyn gweithio ar rota hyblyg rhwng 8 y.b. a 6.y.h. Bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol o bryd i’w gilydd
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.