Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo arweinyddion y Feithrinfa a Rheolwraig y Feithrinfa i drosglwyddo gofal o safon uchel ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu meithrinfa Plas Pawb, gan sicrhau bod eu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol, creadigol a datblygol yn cael eu cwrdd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•-
Prif ddyletswyddau
•Cyfrannu tuag at gynllunio a gweithredu rhaglenni priodol o weithgaredd ar gyfer y plant mewn cydweithrediad â Rheolwr y Feithrinfa, arweinyddion y Feithrinfa a staff eraill, yn cynnwys myfyrwyr. Bydd rhaglenni gweithgaredd yn cael eu trosglwyddo trwy gyfrwng y Gymraeg.
•Cynorthwyo arweinyddion y Feithrinfa i drosglwyddo gofal o safon uchel, gan sicrhau bod anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol, creadigol a datblygol y plant yn cael eu cwrdd.
•Meddu ar ddealltwriaeth lawn o system y Feithrinfa o gadw cofnodion a chyfrannu tuag at arsylwi a chofnodi datblygiad plant unigol, gan ddefnyddio’r system gweithwyr allweddol.
•Gweithio ochr yn ochr â’r rheolwr a’r staff i sicrhau darpariaeth o ystod o offer, gweithgareddau ac arddangosfeydd sy’n ysgogi, dan do ac yn yr awyr agored, sy’n berthnasol i oedrannau ac anghenion y plant.
•Sicrhau bod y mannau chwarae, boed dan do neu yn yr awyr agored, yn amgylcheddau diogel, hapus a gofalgar, sy’n cymell y plant i chwarae’n rhydd.
•Cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n cwrdd ag anghenion pob plentyn sy’n mynychu’r feithrinfa, gan sicrhau rhoddir ystyriaeth ddyledus i genedl, diwylliant, hîl, crefydd, iaith ac anabledd.
•Bod mewn cyswllt â rhieni/gofalwyr ac annog iddynt fod a wnelo â lleoliad eu plentyn yn y feithrinfa a’u datblygiad.
•Parchu a dilyn trefniadau ar gyfer babanod a phlant bach sy’n mynychu’r feithrinfa fel yr amlinellir gan eu rhieni/gofalwyr.
•Cynorthwyo gyda gwasanaeth codi plant o’r ysgol.
•Cynorthwyo mewn darparu ymborth cytbwys iachus ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu’r feithrinfa, yn cynnwys paratoi bwyd, cynorthwyo gyda bwydo’r plant, sicrhau bod amseroedd prydau yn achlysuron cymdeithasol, a chlirio ar ôl amseroedd prydau.
•Dilyn polisïau a gweithdrefnau a nodir gan Gyngor Gwynedd a Meithrinfa Plas Pawb.
•Ymgyfarwyddo â dilyn Safonau Cenedlaethol gofal dydd llawn mae’n ofynnol eu cyrraedd o leiaf, fel yr amlinellir o fewn canllawiau cofrestru Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW).
•Cydrannu’r cyfrifoldeb dros warchod a hyrwyddo lles pob plentyn yn y feithrinfa, fel y cynhwysir o fewn Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan
•Sicrhau meddiant parhaus ar wybodaeth weithiol o egwyddorion ac amcanion y prosiect Dechrau’n Deg.
•Meithrin perthnasoedd gweithio da gydag a dealltwriaeth o asiantaethau allanol a phobl broffesiynol eraill sydd yn ymwneud â datblygiad a gofal plant unigol.
•Cymryd cyfrifoldeb am ddatblygiad personol parhaus, trwy fynychu cyrsiau hyfforddi perthnasol a dal i feddu ar y wybodaeth ddiweddaraf o ddeddfwriaeth a rheolau sy’n berthnasol i’r swydd. Disgwylir i ddeiliad y swydd fod yn barod i weithio tuag at sicrhau cymhwyster galwedigaethol a gaiff ei gydnabod yn genedlaethol, e.e. NVQ 2/3.
•Mynychu cyfarfodydd wythnosol y tîm, a chymryd rhan mewn cyfarfodydd misol unigol ac arfarniadau blynyddol gyda Rheolwr neu Arweinydd y Feithrinfa.
•Cynorthwyo yn rheolaeth ddomestig ddyddiol y feithrinfa, gan gynnwys sicrhau y cedwir y feithrinfa yn ddiogel, saff a glân gydol yr amser.
•Sicrhau y cwblheir tasgau gofal plant penodol i’r safonau disgwyliedig, yn cynnwys helpu plant gyda bwydo, newid dillad a thoiledu, yn cynnwys newid cewynnau; cynnal safonau uchel o hylendid trwy’r amser; rhoi cysur a chynhesrwydd i blentyn gwael; a hysbysu ynghylch unrhyw arwyddion o salwch neu anaf, neu bryderon ynghylch cam-drin.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Oriau gwaith yw gadarnhau tuag at yr amser, ond gofynnir i weithio ar rota sy’n hyblyg o 8 y bore i 6 yn y nos.