Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•I gynorthwyo’r Cogydd â Gofal mewn paratoi bwyd syml, gweini bwyd, gosod y ffreutur a chlirio ar ôl cinio. Golchi offer a glanweithdra’r gegin.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer
Prif ddyletswyddau
•Gweithio dan gyfarwyddid y Cogydd â Gofal neu’r Dirpwy.
•Yn cynorthwyo mewn paratoi a gweini’r bwyd gan gynnwys coginio syml.
•Yn cadw holl adeiladau ag offer y gegin yn lân, gan gynnwys y ffreutur pan ddefnyddir yr ystafell honno fel ystafell fwyta yn unig.
•Pan ddefnyddir y ffreutur at fwy nag un pwrpas, glanhau’r llawr, symud pob tamaid o fwyd gan ddefnyddio mop tamp os bydd angen.
•Yn gwneud dyletswyddau cyffredinol yn y gegin a’r ffreutur, megis golchi llestri, gosod a chlirio dodrefn yn y ffreutur.
•Lle na bo Cogydd Cynorthwyol bydd y Cymhorthydd Cyffredinol yn cymryd gofal o’r gegin yn ystod absenoldeb y Cogydd ond am y tâl priodol.
•Cynnal safon uchel o lendid personol a gwisgo gwisg cegin lân briodol.
•Cydymffurfio a pholisiau Iechyd a Dioglewch a Diogelwch Bwyd Cyngor Gwynedd.
•Yn cyflawni unrhyw ddyletswyddau perthnasol yn ôl cais rhesymol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau arbennig
•Bydd amgylchiadau yn codi yn gofyn i’r unigolyn weithio i baratoi lluniaeth tu allan i oriau gwaith arferol e.e diwrnod hyfforddiant mewn swydd.