Swyddi ar lein
Peiriannydd Archwiliad Arolygiadau Arbenigol
£38,626 - £40,476 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27771
- Teitl swydd:
- Peiriannydd Archwiliad Arolygiadau Arbenigol
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Darparu ac Arolygu
- Dyddiad cau:
- 26/11/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £38,626 - £40,476 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS1
- Lleoliad(au):
- NMWTRA, Ladywell House, Park St, Newtown
Manylion
Hysbyseb Swydd
Peiriannydd Archwiliad, Archwiliadau Arbenigol
LLEOLIAD: Newtown
Arwain ar reoli archwiliadau arbenigol yn cynnwys Archwiliadau VRS Manwl, Draenio a Geodechnegol ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn unol â Llawlyfr Cynnal Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a gofynion System Wybodaeth Ffyrdd Integredig Llywodraeth Cymru (IRIS).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swyddi uchod, cysylltwch â James Bevan ar 07971 674587.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol a Saesneg yn hanfodol ar gyfyer y swydd yma
Dyddiad Cau: 10.00 AM, 26 Tachwedd 2024
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Nichola Helen ar 01286 685154
Rhagwelir cynnal cyfweliadau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 26/11/2024
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Gallu gweithio dan bwysau.Gallu ysgogi staff ar bob lefel.
Sgiliau trefnu da.
Dymunol
Gallu arwain a rheoli staff.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
HNC mewn pwnc peirianneg a phum mlynedd o brofiad yn y diwydiant NEU radd mewn Peirianneg
Dymunol
EngTech neu I Eng neu gymhwyster proffesiynol cyffelyb.
National Sector Scheme for Vehicle Restraint Systems (Goruchwyliwr
Archwilio)
Cymhwyster City and Guilds, neu gyfwerth, mewn Archwiliadau Diogelwch
Priffyrdd
Cymhwyster ECDL mewn TG.
National Sector Scheme 12D(M7)
Achrediad CSCS priodol
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o archwiliadau ac/neu gynnal a chadw priffyrdd.
Dymunol
Profiad o archwilio neu gynnal a chadw’r mathau o asedau a ganlyn:
•Systemau Atal Cerbydau
•Systemau Draenio
•Asedau Geo-dechnegol
•Mathau eraill o asedau priffyrdd
Profiad o reoli cyllidebau
Goruchwylio contractwyr, yn cynnwys prisiadau a chymeradwyo taliadau
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gallu gweithio ar ei liwt ei hun ac fel rhan o dîm.
Sgiliau cyfathrebu datblygedig iawn, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Sgiliau trefnu da.
Creadigrwydd a sgiliau datrys problemau
Gallu addasu’n gyflym i sefyllfaoedd sy’n newid.
Gwybodaeth am Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch berthnasol
Trwydded yrru gyfredol
Sgiliau TG, defnyddio rhaglenni Microsoft Office gan gynnwys Word ac Excel
Dymunol
Profiad o weithio o fewn deddfwriaeth berthnasol.Adnabod blaenoriaethau o fewn rhaglenni gwaith.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Rheoli rhaglen Archwiliadau Diogelwch a Chyflwr Asedau yn unol â gofynion Llawlyfr Cynnal Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru ar gyfer y mathau o asedau a ganlyn:
•Systemau Atal Cerbydau (VRS)
•Systemau draenio
•Asedau geodechnegol
•Asedau eraill fel y’u hadnabuwyd
•Rheoli gweithgareddau cynnal a chadw sy’n gysylltiedig â’r mathau o asedau uchod sydd wedi’u rhaglennu, sy’n arferol ac sy'n rhagweithiol
•Bodloni rhwymedigaethau ACGChC dan Adran 41, “Duty to maintain highways maintainable at public expense” ac Adran 58 “Special defence in action against a highway authority for damages for non-repair of Highway”, Deddf Priffyrdd 1980.
•Cynorthwyo’r Rheolwr Archwilio i weithredu gofynion Rheoliad 13 Endidau Archwilio o ran asedau priffyrdd dan Reoliadau Diogelwch Twneli Ffyrdd 2007 (fel y’u diwygiwyd yn 2009).
•Ymgymryd â’r swyddogaethau ar y ffordd ac yn y swyddfa sy’n gysylltiedig ag archwilio arbenigol asedau priffyrdd a swyddogaethau cynnal a chadw.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Yr holl offer, cerbydau a systemau sy’n berthnasol i’r dyletswyddau
•Rheoli staff i Archwilwyr Dechnegydd
•Rheoli cyllidebau Archwiliadau a chynnal a chadw cysylltiedig ar gyfer y mathau o asedau uchod.
Prif ddyletswyddau
Swyddogaeth Archwilio
•Arwain ar reoli archwiliadau arbenigol yn cynnwys Archwiliadau VRS Manwl, Draenio a Geodechnegol ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn unol â Llawlyfr Cynnal Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a gofynion System Wybodaeth Ffyrdd Integredig Llywodraeth Cymru (IRIS).
•Ble bo angen, cynorthwyo â neu chynnal archwiliadau diogelwch ar gyfer pob math o ased.
•Ennill arbenigedd mewn defnyddio’r system cyfeirio rhwydwaith drwy ddeall system a dogfennau link-section-node y System Rheoli Cynnal Ffyrdd (RMMS).
•Adnabod, asesu risg a blaenoriaethu diffygion Llawlyfr Cynnal Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru.
•Cynnal archwiliadau perthnasol (wedi’u rhaglennu neu'n rhagweithiol)
•Hysbysu’r Rheolwyr Llwybr Cynorthwyol, y Swyddogion Traffig, ACGChC neu’r Gwasanaethau Brys fel y gellir ‘cywiro a diogelu’ diffygion Categori 1 cyn gynted ag y bo’n briodol gwneud hynny.
•Archwilio, adnabod a chodi diffygion Adran 81 Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd sy’n gysylltiedig ag ailosod gwasanaethau a chodi Archebion Gwaith am ddiffygion Categori 1 cysylltiedig i reolwyr drwy’r Rheolwyr Llwybrau Cynorthwyol / Awdurdodau Partner.
•Cysylltu â’r Rheolwyr Llwybrau Cynorthwyol ac/neu’r Awdurdodau Partner o ran cynnal archwiliadau a diogelu diffygion.
•Cynorthwyo’r Rheolwr Hawliadau Trydydd Parti a Rheolaeth Datblygu o ran ymdrin â hawliadau.
Swyddogaeth Cynnal a Chadw
•Rheoli comisiynu a gweithrediad swyddogaethau cynnal a chadw sy’n gysylltiedig â’r mathau o asedau uchod sydd wedi’u rhaglennu, sy’n arferol ac sy'n rhagweithiol.
•Creu gwybodaeth Archebion Gwaith am ddiffygion gydag amcan fesur fel sy’n ofynnol gan y meddalwedd cofnodi data archwilio yn system IRIS.
•Rheoli atgyweiriadau diffygion categori a swyddogaethau cynnal a chadw arferol o fewn cyllidebau sydd ar gael ac o fewn cyfyngiadau arwynebedd ffordd.
Swyddogaeth Rhestr Eiddo
•Cynnal arolygon i greu gwybodaeth rhestr eiddo asedau gan fanylu ar asedau priffyrdd newydd a phresennol yn unol â Llawlyfr Cynnal Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru. Mae data’r arolwg i gael ei gofnodi ar IRIS.
•Cyfrannu at gynnal a chadw’r system gyfeirio rhwydwaith, yn cynnwys addasu, diweddaru a chreu tudalennau’r dogfennau link-section-node. Adnabod ac adrodd am ddiffygion i’r ddogfennaeth neu’r system marcio ar y ffordd i’r Swyddog System Asedau.
Gweinyddiaeth Dechnegol RMMS (IRIS)
•Cofnodi, dilysu, golygu ac uwchlwytho data archwiliadau ac arolygon i mewn i’r system IRIS, yn cynnwys data archwiliadau arbenigol. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth atodol ar gyfer cynhyrchu Archebion Gwaith Categori 1 (e.e. ffotograffau a mesurau rhagarweiniol).
•Darparu’r Uned Weithredol ag adroddiadau “diffyg heb ei orffen” a gwybodaeth atodol arall yn ôl yr angen.
•Cynorthwyo’r Rheolwr Archwilio gydag Adroddiadau Gweithredol neu Adroddiadau Asedau ad hoc yn seiliedig ar brosiect o arolygon, IRIS neu gronfeydd data eraill ar gyfer yr Uned Cyflawni ac Archwilio, yr Uned Fusnes, yr Uned Weithredol, Llywodraeth Cymru ac eraill.
Cyffredinol
•Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a ymgymerir gan ddarparwyr gwasanaeth.
•Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ogystal â sefydliadau a chyrff allanol eraill.
•Ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol ar y safle neu yn y swyddfa.
•Cydweithredu a chysylltu â staff o Adrannau eraill o fewn y Cyngor, ac Awdurdodau Partner er mwyn hyrwyddo rheoli ACGChC yn effeithiol.
•Bod yn gyfrifol am hunanddatblygiad.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol a rhesymol eraill sy’n gymesur â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd ar gais y rheolwr llinell.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Iechyd a Diogelwch ac Amgylcheddol
•Cydymffurfio ag agweddau iechyd a diogelwch y tîm archwilio, yn cynnwys rheoli risg drwy gydymffurfio â systemau gwaith diogel wedi’u sefydlu ac asesiadau risg gweithredol er enghraifft.
•Sicrhau yr ystyrir prosesau asesu risg iechyd, diogelwch ac amgylcheddol yn llawn ym mhob agwedd o waith y Gwasanaeth Archwilio Asedau Priffyrdd megis rheoli traffig.
•Mae’n gyfrifoldeb ar bob gweithiwr yn yr Asiantaeth i gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiant.
•Sicrhau y cedwir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
•Cyfrifol am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
•Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn ymwybodol o’r gofynion e.e. deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a chydweithredu gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch y Cyngor er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion perthnasol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Y gofyn i weithio oriau y tu allan i oriau gwaith arferol yn ôl y gofyn, er enghraifft archwiliadau gyda’r nos neu ar benwythnosau o fewn rheoli traffig a Chau Twneli.
•Y gofyn i ymgymryd â hyfforddiant yn ôl yr angen gan roi ystyriaeth arbennig i faterion Iechyd a Diogelwch a hyfforddiant Archwilio Asedau Priffyrdd arbenigol.