Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•I sicrhau diogelwch plant ysgol yn bennaf a hefyd aelodau eraill o’r cyhoedd i groesi'r ffordd mewn lleoliadau penodedig ar amseroedd penodedig.
•I gyflawni’r dyletswyddau heb niweidio lles defnyddwyr y ffordd eraill.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Gwisg ac Arwydd
Prif ddyletswyddau
•I weithredu’n unol a Polisi’r Cyngor ynglŷn â Gwasanaeth Croeswyr Plant Ysgol sy’n cynnwys trefniadau Iechyd a Diogelwch.
•I ddefnyddio'r Wisg Swyddogol a’r offer penodedig er diogelwch eich hun, y plant ac aelodau eraill o’r cyhoedd wrth ddarparu gwasanaeth croesi ac atal traffig.
•Cadw rheolaeth ar blant sy’n disgwyl cyfarwyddyd i groesi’r ffordd.
•Gweithredu goleuadau fflachio os yn briodol i’r safle.
•Cofnodi a hysbysu Arolygwr/wraig CPY o unrhyw broblemau neu anawsterau
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Oriau i’w gadarnhau