Pwrpas y Swydd
Graddfa
ATEBOL I:
• Sicrhau bod plant a phobl dalgylch Ardudwy yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Ysgwyddo rôl arweiniol i weithredu gweledigaeth gynhwysol Ysgol Ardudwy.
• Cynnal a gwella ymddygiad grwpiau o ddisgyblion neu unigolion. - -
Cydlynydd ADYaCh
UDRh
• Gan weithio dan arweiniad: Ysgwyddo cyfrifoldeb am rhoi cefnogaeth i ddelio ag anghenion disgyblion sydd angen
help penodol i oresgyn rhwystrau i ddysgu.
PRIF DDYLETSWYDDAU
Prif Gyfrifoldebau
Cefnogi’r Disgyblion
• Rhoi cefnogaeth fugeiliol i ddisgyblion.
• Derbyn a goruchwylio disgyblion sydd wedi eu gwahardd o’r amserlen arferol, neu nad ydynt yn gweithio i’r amserlen
arferol.
• Cefnogi disgyblion wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol yn dilyn dychwelyd i’r ysgol ar ôl cyfnod allan o’r ysgol.
• Trin anghenion personol disgyblion a rhoi cyngor i gynorthwyo gyda datblygiad cymdeithasol, iechyd a glendid
• Cymryd rhan mewn asesiadau cynhwysfawr o ddisgyblion i ganfod y rhai sydd angen help penodol
• Cynorthwyo’r athro gyda datblygu a gweithredu Cynlluniau Addysg Unigol/Ymddygiad/Cefnogaeth/Mentora
• Cefnogi darpariaeth i ddisgyblion ag anghenion arbennig.
• Cefnogi disgyblion yn academaidd gan weithredu ymyraethau perthnasol.
• Sefydlu perthynas waith gynhyrchiol gyda disgyblion, gan weithredu fel delfryd ymddwyn
• Datblygu trefniadau mentora 1:1 gyda disgyblion.
• Hyrwyddo trosglwyddiad cyflym/effeithiol disgyblion ar draws cyfnodau/integreiddio’r rhai sydd wedi bod yn
absennol
• Rhoi gwybodaeth a chyngor i alluogi i ddisgyblion wneud dewisiadau ynglŷn â’u haddysg/ymddygiad/presenoldeb
• Herio a chymell disgyblion, hyrwyddo ac atgyfnerthu hunan-barch
• Rhoi adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd, cyflawniad, ymddygiad, presenoldeb ac ati.
Cefnogi’r Athro
• Cysylltu gydag ysgolion dalgylchol ac asiantaethau perthnasol eraill i gasglu gwybodaeth am ddisgyblion
• Cefnogi mynediad disgyblion i addysg trwy ddefnyddio strategaethau, adnoddau priodol ac ati
• Gweithio gyda staff arall wrth gynllunio, arfarnu ac addasu gweithgareddau dysgu fel y bo’n briodol
• Monitro ac arfarnu ymatebion a chynnydd disgyblion mewn perthynas â chynlluniau gweithredu trwy arsylwi a
chofnodi a gynlluniwyd
• Rhoi adborth gwrthrychol a chywir ac adroddiadau gofynnol i staff arall ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill yn
ymwneud â disgyblion, gan sicrhau bod y dystiolaeth briodol ar gael
• Bod yn gyfrifol am gadw a diweddaru cofnodion fel y cytunwyd gydag aelodau staff eraill, gan gyfrannu i adolygiadau
systemau/gofnodion yn ôl y gofyn
• Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu strategaethau rheoli ymddygiad priodol
• Sefydlu perthynas adeiladol gyda rhieni/ofalwyr, cyfnewid gwybodaeth, hwyluso eu cefnogaeth o ran presenoldeb eu
plentyn, mynediad a dysgu a chefnogi cysylltiadau rhwng y cartref a’r ysgol a’r gymuned
• Cynorthwyo gyda datblygu, gweithredu a monitro systemau presenoldeb ac integreiddio e.e. cofrestru, triwantiaeth,
systemau bugeiliol ac ati.
• Cefnogaeth glerigol/weinyddol e.e. delio â gohebiaeth llunio/dadansoddi/adrodd ar, gwaharddiadau ac ati, gwneud
galwadau ffôn ac ati.
Cefnogi’r Cwricwlwm
• Darparu gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu a gytunwyd, addasu gweithgareddau yn ôl ymatebion/anghenion
disgyblion
• Bod yn ymwybodol o a gwerthfawrogi ystod o weithgareddau, cyrsiau, cyrff ac unigolion i roddi cefnogaeth i
ddisgyblion er mwyn ehangu a chyfoethogi eu haddysg
• Canfod yr angen am, paratoi a defnyddio offer arbenigol, cynlluniau ac adnoddau i gefnogi disgyblion
Cefnogi’r Ysgol
• Bod yn ymwybodol o a chydymffurfio gyda pholisïau a threfniadau sy’n ymwneud ag amddiffyn plant, iechyd,
diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, adrodd am unrhyw bryderon i'r person priodol
• Bod yn ymwybodol o a chefnogi gwahaniaeth a sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael yr un cyfle i ddysgu a datblygu
• Cyfrannu tuag at ethos/waith/amcanion cyffredinol yr Ysgol
• Sefydlu perthynas adeiladol a chyfathrebu gydag asiantaethau/weithwyr proffesiynol eraill, mewn cysylltiad â'r athro,
i gefnogi cyrhaeddiad a chynnydd disgyblion
• Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd rheolaidd
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill fel y bo gofyn
• Cydnabod eich cryfderau a’ch meysydd o arbenigedd a defnyddio’r rhain i gynghori a chefnogi eraill
• Cynorthwyo gyda goruchwylio, hyfforddi a datblygu staff
• Goruchwylio disgyblion y tu allan i oriau ysgol
• Goruchwylio disgyblion ar ymweliadau, teithiau ac mewn gweithgareddau y tu allan i’r ysgol fel y bo gofyn
Materion Amddiffyn Plant
• Cyfrifol am adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Materion eraill.
• Arolygu gwersi yn achlysurol mewn cyfod o absenoldebau dirybudd a chynlluniedig athrawon gan gynnwys :
▪ Gofrestru Dosbarthiadau pan fydd athrawon yn absennol.
▪ Arolygu gwaith sydd wedi’i osod ar gyfer dosbarthiadau.
▪ Ymateb i gwestiynau gan ddisgyblion ynglŷn â sut i gwblhau’r gwaith.
▪ Casglu gwaith a gwblhawyd yn ystod y wers a’i ddychwelyd i’r athro/athrawes priodol.
▪ Delio ag unrhyw broblemau neu ar gyfyngiadau sydd yn codi yn ystod yr arolygu gan ddefnyddio polisïau’r ysgol i
ymateb iddynt yn briodol.
▪ Rheoli ymddygiad plant wrth iddynt gwblhau’r gwaith er mwyn sicrhau awyrgylch priodol.
▪ Adrodd ar unrhyw gamymddwyn gan ddisgyblion yn ystod y cyfnod arolygu gan ddefnyddio cyfundrefn gyfeirio’r ysgol
fel sy’n briodol.
• Arolygu arholiadau mewnol ac allanol fel aelod o dîm gan sicrhau trefn briodol a darparu cymorth disgwyliedig o fewn
yr arholiadau, gan ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau gan y swyddog arholiadau.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad proffesiynol.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau iechyd a diogelwch yn y gweithle yn unol â`r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd
a Diogelwch yn y Gweithle.
• Gweithredu o fewn polisïau`r ysgol yng nghyswllt Cyfle Cyfartal a Chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau yr ysgol. Sicrhau fod gwybodaeth bersonol yn cael
ei thrin mewn cydymffurfiaeth â Deddfwriaeth Diogelu Data.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb
sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o
bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.