Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Trin defnyddiau ailgylchu yn barod i’w trosglwyddo i’r cam nesaf yn y broses.
Prif ddyletswyddau
•Ymgymryd yn unigol neu fel rhan o dim ddyletswyddau sydd yn gysylltiedig a gwaredu gwastraff ac ailgylchu o eiddo domestig a masnachol.
•Cyfrifoldebau i gynnwys:
•Agor a chau’r safle a chynnal gwyriadau dyddiol.
•Glanhau a chynnal gwyriadau dyddiol a chynnal peiriannau ac offer sydd yn cynnwys y “conveyor” ac adrodd am unrhyw ddiffyg yn syth.
•Defnyddio system gyfrifiadurol i rheoli’r gwaith y “conveyor” a blaenoriaethu pa eitemau sydd angen eu trin yn gyntaf.
•Gyrru cerbydau a pheiriannau sydd yn gysylltiedig â'r gwasanaeth e.e. cerbyd fforch godi, telehandler.
•Sicrhau fod y safle yn cael ei gadw yn lan ac yn daclus bob amser sydd yn cynnwys glanhau’r “interceptors”
•Derbyn cerbydau ailgylchu i mewn i’r safle, rheolaeth traffig a chydlynu’r drefn gwagio gywir.
•Cadw cysylltiad rheolaidd gyda’r bont bwyso.
•Tywys y cerbydau artic i’r safle a chydlynu’r trefniadau llwytho cywir.
•O bryd i’w gilydd, cynorthwyo gyda dyletswyddau gwaredu gwastraff yn y safle trosglwyddo.
•Dyletswyddau eraill yn cynnwys cyflenwi dros dro ar y safleoedd mwynderau trefol sydd yn cynnwys gyrru cerbyd “pick up” i wahanol safleoedd
•Ymdrin a gwaith papur sydd yn gysylltiedig ar gwaith e.e. nodyn trosglwyddo ayb yn yr iaith Gymraeg a’r Saesneg.
•Cyfrifoldeb am sicrhau diogelwch eich hun, cydweithwyr ac aelodau’r cyhoedd ar y safle.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Mae’r Gwasanaeth Safleoedd yn agored ar Wyliau’r Banc a bydd angen gweithio ar y diwrnodau hyn.
•Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd weithio shifftiau 12.33 awr dros chwe diwrnod bob yn ail wythnos.