Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Gyrru a llwytho cerbydau casglu ysbwriel ac ailgylchu.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am y cerbyd, criw ‘ar offer.
Prif ddyletswyddau
Gyrru a bod yn gyfrifol am y criw a’r cerbyd a ddefnyddir. Casglu ysbwriel, ailgylchu, gwastraff gwyrdd, gwastraff masnachol a gwastraff clinigol yn unol a chyfarwyddiadau yn unol a’r rhaglen waith, cyfarwyddiadau a pholisiau perthnasol.
Gyrru
•Gyrru cerbydau LGV Dosbarth 2 mewn modd diogel a chwrtais yn unol â chyfyngiadau cyflymder y ffordd ac o fewn y gofynion y gyfraith.
•Ymgymryd ag asesiad risg dynamig o ran casglu gwastraff o nifer o bwyntiau casglu a phenderfynu ar y lleoliad mwyaf diogel i leoli’r cerbyd ar y ffordd tra mae’r casgliadau yn cymryd lle.
•Gweithredu systemau’r cerbyd sydd i gynnwys llwytho, gwasgu ac offer ansymudol, systemau yn y cab ar gyfer mordwyo ac adrodd. Hynny i gynnwys systemau tacograff a systemau pwyso’r cerbyd.
•Cyfrifoldeb am sicrhau fod modd bacio’r cerbyd yn ddiogel hynny i gynnwys cyfarwyddo cynorthwywyr bacio fel bod angen.
•Mynychu hyfforddiant CPC a sicrhau eich bod wedi cwblhau’r modiwlau perthnasol o fewn amserlen benodol.
Cerbyd
•Cydymffurfio gyda Thrwydded Weithredu’r Awdurdod, hynny i gynnwys cynnal archwiliadau dyddiol ar y cerbyd bob bore er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel i fod ar y ffordd. Cofnodi pob gwiriad ac adrodd ar unrhyw ddiffygion yn syth i’r modurdy. Cwblhau’r gwaith papur perthnasol hynny i gynnwys amserlenni gwaith a chofnodion pont bwyso.
•Cynnal a chadw arferol rheolaidd sydd i gynnwys gwirio lefelau olew a dŵr y cerbyd.
•Sicrhau fod y cerbyd yn cael ei gadw yn lan – Sicrhau fod y cerbyd yn cael ei lanhau i safon uchel, hynny i gynnwys corff y cerbyd, y cab, offer gwasgu, y “hopper” a’r platiau “ejector”.
•Gweithredu’r mecanwaith pŵer.
Cyfrifoldeb am y Criw
•Dyletswyddau a chyfrifoldebau mewn perthynas â goruchwylio gwaith y criw. Hynny i gynnwys arwain, ysgogi a goruchwylio’r criwiau casglu ar gylchdaith benodol mewn perthynas â chasglu, teithio a gwagio’r cerbyd.
•Cynorthwyo gyda’r broses o anwytho staff, hynny i gynnwys mentora aelodau newydd o’r ti,.
•Cymryd perchnogaeth a chyfrifoldeb am y cerbyd a’r criwiau casglu er mwyn sicrhau fod y gylchdaith ddyddiol yn cael ei chwblhau.
Tasg
•Casglu ysbwriel ac ailgylchu o nifer o leoliadau hynny i gynnwys gweithio mewn traffig byw, ardaloedd trefol, ardaloedd gwledig, ffyrdd cyflym a ffyrdd o fewn cyfyngiadau cyflymder cenedlaethol.
•Darllen map a chynllunio’r ffordd fwyaf effeithlon i gwblhau’r gylchdaith mewn ardal benodol. Hynny i gynnwys newid y gylchdaith pan fo angen er mwyn ymdopi gyda ffyrdd wedi cau, tywydd garw a blaenoriaethu ardaloedd risg uchel.
•Pan ddim yn gyrru, cynorthwyo gyda’r dasg o lwytho’r cerbyd. Adolygu ansawdd deunyddiau ailgylchu a’i sortio o flaen llaw.
•Sicrhau fod pob bin, bocs neu sach yn cael eu dychwelyd i’r pwynt casglu yn daclus. Hynny i gynnwys codi a chlirio unrhyw wastraff sydd wedi ei golli.
•Ymateb i geisiadau am gasgliadau drws cefn yn cymryd i ystyriaeth unrhyw risgiau ychwanegol a wynebir.
•Cynorthwyo gyda dylunio cylchdeithiau sydd i gynnwys gweithredu cylchdeithiau newydd.
Iechyd a Diogelwch
•Cyfrifoldeb am sicrhau diogelwch eich hun, eich cydweithwyr ac aelodau o’r cyhoedd.
•Gweithio yn unol â gweithdrefnau rheoli yn ddiogel, asesiadau risg, polisïau’r Cyngor un unol a chyfrifoldebau’r gweithiwr fel a nodi’r yn Neddf Iechyd a Diogelwch. Gwisgo siacedi llachar uchel, trowsus balistig, esgidiau diogelwch ac unrhyw ddillad diogelwch neu wisg berthnasol.
•Cymryd rhan mewn archwiliadau Iechyd a Diogelwch a BSI ac arddangos deallusrwydd o’r risgiau a chydymffurfiad.
•Adrodd a chynorthwyo gyda chwblhau adroddiadau damweiniau / digwyddiadau treisgar (ffurflenni HS11) yn ogystal â ffurflenni yswiriant.
•Cydymffurfio gyda rheolau, rheoliadau a chyfarwyddiadau penodol ar safleoedd trosglwyddo gwastraff.
Gofal Cwsmer
•Sicrhau'r lefel uchaf posibl o ofal cwsmer - Cysylltu yn hyderus a brwdfrydig gydag aelodau o’r cyhoedd a busnesau a chynghori ar bob agwedd ar faterion casglu ailgylchu ac ysbwriel. Hynny i gynnwys ymdrin â sefyllfaoedd anodd, chwsmeriaid blin a modurwyr.
•Cadw lefel stoc briodol o daflenni gwybodaeth a bagiau bwyd. Gosod sticeri ar finiau newydd neu finiau trwm, bocsys cymysg ayb ac adrodd yn nol i’r arweinydd tîm.
Adrodd a Chydymffurfio
•Ar ddiwedd y diwrnod gwaith, adrodd i’r arweinydd tîm / swyddogion gwastraff masnachol, unrhyw faterion neu broblemau casglu sydd wedi codi.
•Cydymffurfio gyda phob polisi a gweithdrefn fewnol mewn perthynas ag adrodd ar salwch a cheisiadau am wyliau blynyddol.
Corfforaethol
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Bydd y Gwasanaeth Casglu Gwastraff yn gweithio ar bob gwyl y banc a bydd disgwyl i chi weithio ar y diwrnodau hynny. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd weithio gor-amser hefyd o dro i dro.
•Mae’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff wedi ei adnabod fel gwasanaeth rheng flaen blaenoriaeth un. Bydd gweithdrefnau gweithio yn ddiogel mewn lle er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth.