Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Ymgymryd a gweithgareddau medrus sy’n cynnwys gosod gwaith allan, gyrru a gweithredu offer trwm, cynnal gwaith priffyrdd
• Ymgymryd â’r sustem ar alwad tu allan i oriau Gwaith fel mae’r angen.
• Gweithio goramser tu allan i oriau Gwaith.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cyfrifoldeb am y cerbydau, offer, peiriannau a nwyddau
• Defnyddio tabled cyfrifardurol WDM EZYTREEV, Structures, NMWTRA Trimbull (Gully Emptying)
• Rhoi arweiniad i is-gontractwyr, gyrrwyr JCB, loriau a phlaner a.y.y.b.
Prif Ddyletswyddau.
Dyletswyddau yn cynnwys yr angen i weithio i lefelau manwl ac yn ofynnol a gwaith adeiladwaith mewn nifer o dasgau, er engraifft:-
• Traenio
• Cynnal troedffordd e.e. cyrbio, slabio
• Gwaith haearn e.e. gwli a tyllau archwilio
• Gwaith concrid
• Walio
• Ffensys diogelwch Sector Scheme Rhif 2A/2B
• Gwaith tyllu
• Gwaith tarmac yn cynnwys clytwaith
• Arwisgo ffordd Sector Scheme Rhif 13
• Marciau ffordd Sector Scheme Rhif 7.
Dyletswyddau eraill yn cynnwys:-
• Rheolaeth traffig a gweithio ar lonydd cyflymder uchel Sector Scheme 12A/B/C/D
• Symud, ailosod a cywasgiad pridd, cerrig a deunyddiau eraill
• Torri coed yn cynnwys defnyddio MEWP a pheiriant malu coed yn fân
• Plannu a chynnal amgylchion priffyrdd yn gyffredinol
• Cynnal ffosydd
• Gosod arwyddion parhaol a dros dro.
• Ymateb i’r tywydd garw, llifogydd a gorlif ayyb
• Tyllau arbrawf
• Gwaith cynnal gaeaf, gan gynnwys graeanu, delio gyda llifogydd, clirio coed , Cynnal Gaeaf City & Guilds
• Gwagio gwliau a jetio
• Cadw cofnod o waith dyddiol o’r nwyddau, pheiriannau, ayb a ddefnyddiwyd.
• Lladd chwyn
• Gweithio o uchder
Gyrru / defnyddio Peiriannau Trwm er engraifft:-
• Cerbydau o dan a dros 3.5T
• Peiriannau graeanu.
• Erydr eira.
• Hotbox
• Cerbyd Ysgubo
• Peiriant gwagu gwliau
• Telehandler
• Peiriannau arwisgo – tancar, chipper a rholer
• Peiriant Skid Steer yn cynnwys “Mini Planer, bwcad a brwsh”
• Cloddiwr 360, tractor a dympar
• MEWP.
Wrth defnyddio’r cerbydau a pheiriannau bydd rhaid :-
• Gyrru cerbydau mewn modd diogel a chwrtais yn ôl cyfyngiadau cyflymder y ffordd ac o fewn gofynion y gyfraith
• Cydymffurfio gyda polisiau’r Adran Fflyd, hynny i gynnwys cynnal archwiliadau priodol ar y cerbydau / periannau er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel i fod ar y ffordd. Cofnodi pob gwyriad ac adrodd unrhyw diffygion yn syth.
• Mynychu hyfforddiant perthnasol ar gyfer CPC, cerbydau / pheiriannau
Defnyddio Offer Llaw er engraifft :-
• Llif cadwyn, yn cynnwys coes hir
• Peiriant torri gwair a gwrych, chwythiwr dail
• Peiriant malu’r ffordd
Peiriant cywasgu - compactor
• Rholer bach
• Llif disc
• Defnyddio tabled electroneg i gofnodi a lleoli gwaith
Mae’n bwysig bod y gweithiwr yn cymeryd gofal wrth ddefnyddio’r peiriannau yn unol ag unrhyw hyfforddiant yn cynnwys gwisgo cyfarpar diogelu personol pwrpasol. Bydd y gweithiwr yn gyfrifol am gynnal a chadw peiriannau amrywiol a’u cadw’n ddiogel mewn cerbyd y Cyngor neu yn y depo. Bydd angen cynorthwyo’r Peiriannydd Safle wrth drefnu cynhaliaeth ar yr offer llaw. Bydd disgwyl i pob
gweithiwr ddefnyddio’r system HAV sydd yn ei le ar gyfer monitro dirgryniad personol pan yn defnyddio’r offer.
MAE DYLETSWYDD I SICRHAU BOD YR OFFER A CHYFARPAR YN CAEL EU DEFNYDDIO MEWN MODD DIOGEL POB AMSER GYDA’R CYFRIFOLDEB UNIONGYRCHOL AM DDIOGELWCH Y GWEITHLU A’R CYHOEDD.
Iechyd a Diogelwch:-
• Cyfrifoldeb am sicrhau diogelwch eich hun, eich cydweithiwr ac aelodau o’r cyhoedd.
• Gweithio yn unol a gweithdrefnau rheoli’n ddiogel, asesiadau risg, polisiau’r Cyngor yn unol a chyfrifoldebau’r gweithiwr fel a nodi’r yn Neddf Iechyd a Diolgelwch 1974.
• Cyfranu i asesiadau risg y gwasanaeth a cymeryd rhan mewn archwiliadau Iechyd a Diogelwch ac arddangos dealltusrwydd o’r risgiau a chydymffurfiad
• Adrodd a chynorthwyo gyda chwblhau adroddiadau damweiniau / digwyddiadau treisgar (HS11) yn ogystal a Ffurflenni Yswiriant
• Cydymffurfio gyda rheolau a chyfarwyddiadau penodol mewn mannau cyhoeddus.
• Gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol pob amser yn cynnwys cyfarpar diogelu ar gyfer tasgiau pwrpasol
• Bydd disgwyl cymryd rhan mewn hyfforddiant cymorth cyntaf
Corfforaethol:-
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Mynychu unrhyw hyfforddiant sy’n addas i’r swydd
• Gweithredu o fewn polisiau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol a’r safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth a deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allrydiau carbon y Cyngor yn unol a’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ol-troed carbon y Cyngor
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Mae’n hanfodol bod y gweithiwr yn fodlon ymgymryd a’r sustem ar alwad y Cyngor fel mae’r angen lle bydd angen gweithio tu allan i oriau gwaith wrth ymateb i argyfyngau fel tywydd garw, cynnal y gaeaf a damweiniau ayyb.
• Mae’n ofynnol i’r gweithiwr weithio tu allan i oriau gwaith fel yr angen.
• Clirio’r cerbydlon yn dilyn damweiniau, yn cynnwys gwastraff fel gwaed a.y.y.b..