Pwrpas y swydd
•I fod yn rhan o dim arbenigol sydd yn cael ei arwain gan Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Gwasanaeth Ieuenctid, ar draw Siroedd Gwynedd ac Ynys Môn.
•Darparu gwasanaeth ymyrraeth gynnar i bobl ifanc sy’n camddefnyddio neu mewn perygl o gamddefnyddio sylweddau amrywiol
•Ysgolion/Addysg – Gwaith wedi'i dargedu gyda'r rhai sy'n agored i waharddiad o'r ysgol.
•Darparu addysg a gwybodaeth gyfredol i staff yr ysgol am arferion camddefnyddio sylweddau a chymorth rheoli risg cysylltiedig.
•Bydd hyn yn cynnwys rhaglenni addysg ac atal cynhwysol ac wedi eu targedu yn ogystal â gwaith strwythuredig gyda phobl ifanc
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Darparu gwasanaeth uniongyrchol i blant a phobl ifanc mewn addysg ffurfiol a grwpiau cymunedol ar draws yr ardal, gan ddarparu gwybodaeth briodol, yn seiliedig ar dystiolaeth, am ddefnyddio/ camddefnyddio sylweddau, lleihau risg, iechyd a lles cymdeithasol
•Asesu anghenion gofal plant a phobl ifanc, gan ddefnyddio adnoddau asesu cychwynnol a chynhwysfawr yn ôl yr angen. Asesu trylwyr, nodi a blaenoriaethu anghenion, risgiau ac atgyfeirio at wasanaethau perthnasol
•Cefnogi grwpiau cymunedol a sefydliadau addysg anffurfiol i ddatblygu, cynllunio ac adolygu rhaglenni addysg cyffuriau ac alcohol ar gyfer plant a phobl ifanc mewn sefydliadau addysg
•Darparu gweithgareddau’r gwasanaeth gyda’r nos deirgwaith yr wythnos
•Gweithio gyda'r ysgolion i addysgu a chefnogi staff
Prif ddyletswyddau
•Darparu ystod o wybodaeth am gyffuriau ac alcohol a’u heffaith ar bobl ifanc
•Ymgysylltu â phobl ifanc sy’n camddefnyddio neu mewn perygl o gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol, gan gynnwys pobl ifanc sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol, pobl ifanc sy’n troseddu a phobl ifanc mewn perygl o gael eu gwahardd o’r ysgol
•Asesu anghenion pobl ifanc mewn modd cyfannol
•Cynnig cefnogaeth un-i-un ac ymyraethau i bobl ifanc er mwyn mynd i’r afael â phroblemau camddefnyddio/defnyddio sylweddau a materion cysylltiedig eraill megis iechyd rhywiol, a chamddefnydd a all arwain at ecsploetio yn rhywiol.
•Cynnig ymyraethau amserol wedi eu targedu a chefnogaeth i bobl ifanc sy’n aros am wasanaethau haen 3 er mwyn hyrwyddo gwelliannau iechyd a gofal cymdeithasol
•Darparu ymyraethau cynnar wedi eu targedu er mwyn lleihau risgiau a meithrin cadernid pobl ifanc
•Nodi a rheoli risgiau yn briodol
•Cefnogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau prif ffrwd
•Cyfeirio at asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill er mwyn diwallu anghenion pobl ifanc yn llawn
•Darparu rhaglenni ymyrraeth ar gyfer pobl ifanc sy’n defnyddio sylweddau er mwyn eu hatal rhag camddefnyddio sylweddau
•Darparu sesiynau codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant i ysgolion a’r gymuned ehangach
•Datblygu a darparu sesiynau galw heibio yn y ganolfan a nodwyd a lleoliadau priodol eraill ar draws yr ardal, gan gynnwys ysgolion, clybiau ieuenctid a chanolfannau gwybodaeth
•Darparu gwaith allgymorth pendant i ymgysylltu â phobl ifanc na fyddant fel arall yn derbyn gwasanaeth camddefnyddio sylweddau
•Ail-ymgysylltu â phobl ifanc sydd wedi stopio defnyddio’r gwasanaeth
•Gweithio’n effeithiol fel rhan o’r tîm amlddisgyblaethol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy'n camddefnyddio sylweddau a chyda gwasanaethau plant a phobl ifanc ehangach
•Sicrhau cyfathrebu a chydweithio effeithiol rhwng gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â gofal person ifanc
•Darparu ystod o wasanaethau i helpu i wella hunanhyder, sgiliau seico-gymdeithasol, sgiliau allweddol ehangach a strategaethau ymdopi
•I adnabod ac ymchwilio i ymarfer gorau yn y maes camddefnyddio sylweddau – yn benodol gwaith ataliol, addysg ac hyfforddiant.
•I ddatblygu a chydlynu sesiynau yn seiliedig ar sesiynau ‘Teen Total’ yn Ynys Môn.
•I fod yn ragweithiol wrth adnabod meysydd, teuluoedd ac unigolion a all gael budd o ymyrraeth gynnar neu gefnogaeth ychwanegol trwy waith ymestyn allan.
Amgylchiadau arbennig
•Gweithio mewn modd hyblyg i ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill, ar draws y gwasanaeth, ac mewn unrhyw leoliad o fewn pellter teithio rhesymol o’ch prif weithle
•Gweithio gyda’r nosau ac ar benwythnosau yn ôl y gofyn