Pwrpas y swydd
•Darparu cefnogaeth dechnegol i’r Uwch Syrfëwr Diogelwch Adeiladau. Monitro, gweithredu a datblygu polisïau’r Cyngor parthed deddfwriaeth a rheoliadau Iechyd a Diogelwch sy’n ymwneud ag adeiladau’r Cyngor ac adeiladau a ddefnyddir gan weithwyr y Cyngor. Bydd deilydd y swydd yn cymryd rôl arweiniol mewn goruchwylio a rheoli clefyd y lleng filwyr (legionella) yn adeiladau’r Cyngor.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Cyfrifol am oruchwylio contractwyr allanol, sy’n profi ac ymgymryd â gwaith adferol, hyd at 5 ar y tro.
Offer profi a monitro
Prif ddyletswyddau
Cynorthwyo i reoli ac i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau’r Cyngor i sicrhau cydymffurfiaeth gyda deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch mewn perthynas ag eiddo’r Cyngor.
Cymryd rôl arweiniol yn rheolaeth y Cyngor o glefyd y lleng filwyr fydd yn cynnwys:
•Comisiynu asesiadau risg
•Paratoi rhestrau gwaith mewn perthynas â gwaith atgyweirio
•Rheoli cyllidebau gwaith atgyweirio ynghyd â rhaglennu a monitro’r gwaith
•Sefydlu a datblygu cynlluniau monitro clefyd y lleng filwyr
•Trefnu hyfforddiant ymwybyddiaeth ar gyfer rheolwyr safle a staff.
Cynorthwyo gyda datblygu Cynllun Cynnal a Chadw Rhaglenedig y Cyngor ar ddata-bas eiddo, i gynnwys:
•Darparu rhestrau gwaith cynnal a chadw
•Cadw cofnodion o archwiliadau
•Gweithredu a chadw cofnodion o waith atgyweirio.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
Ymateb fel aelod o Dîm Diogelwch Eiddo i alwadau am gymorth y tu allan i oriau gwaith arferol mewn
amgylchiadau arbennig.