Swyddi ar lein
Cydlynydd System Gofal Stryd
£26,421 - £28,770 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27686
- Teitl swydd:
- Cydlynydd System Gofal Stryd
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Busnes a Statudol
- Dyddiad cau:
- 17/10/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £26,421 - £28,770 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S1
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Cydlynydd Systemau Gwaith Stryd
CYFLOG: S1 (£26,421 - £28,770)
(Gweithio’n Hybrid)
LLEOLIAD - un o’r swyddfeydd canlynol
Aberaeron, Llandrindod, DreNewydd
Rheoli a hwyluso gweithrediad esmwyth ac effeithlon Gwasanaeth Cydlynu Gwaith Stryd ACGChC. Darparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer y swyddogaeth prosesu hysbysiadau, gan sicrhau y caiff safonau a chynlluniau gwasanaeth eu cyflawni a'u darparu yn unol â pholisi, amserlenni a gofynion cyfreithiol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Steven King on 01545571960 |
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Saesneg yn hanfodol a Chymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Steven King ar 01545571960
Rhagwelir cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, 17/10/2024
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Yn gallu gweithio’n ddiogel dan bwysau
Yn ymroddgar ac â’r gallu i gymell ei hun
Yn gallu gweithio gydag ychydig o oruchwyliaeth
Yn ymroddgar ac â’r gallu i gymell ei hunDYMUNOL
Yn gallu blaenoriaethu a gweithio dan bwysau ac yn gallu delio â therfynau amser gwaithCYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
5 TGAU (Gradd C neu uwch) neu gymwysterau cyfwerth.
Saesneg a Mathemateg yn angenrheidiol.DYMUNOL
ONC mewn Peirianneg Sifil neu gyfwerth.
Cymhwyster gwaith stryd achrededig
Hyfforddiant Iechyd a DiogelwchPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad perthnasol o reoli cydymffurfiaeth â’r Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd a’r Ddeddf Rheoli TraffigDYMUNOL
Profiad o goladu data.
Medru dangos profiad o weithio mewn amgylchedd weithredol neu wasanaethol.SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu gweithio ar ei liwt ei hun ac fel rhan o dîm
Sgiliau cyfathrebu datblygedig iawn, ar lafar ac yn ysgrifenedig
Sgiliau trefnu da.
Creadigrwydd a sgiliau datrys problemau
Gallu addasu’n gyflym i sefyllfaoedd sy’n newid.
Sgiliau TG da gyda’r gallu i ddefnyddio TG a rhaglenni technoleg
Trwydded yrru gyfredol
DYMUNOL
Gwybodaeth drylwyr o reoli asedau strwythurau, asesiadau cynnal a chadw, prosesau a gofynion cryfhau ac adnewyddu.
Gwybodaeth am rheoliadau Deddfwriaeth Iechyd a DiogelwchANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Saesneg yn hanfodol, Cymraeg yn ddymunol
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Rheoli a hwyluso gweithrediad esmwyth ac effeithlon Gwasanaeth Cydlynu Gwaith Stryd ACGCC yn unol â'r dyletswyddau a'r rhwymedigaethau statudol sy'n ofynnol fel rhan o ddarpariaethau Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (NRSWA), Deddf Priffyrdd 1980 a Deddf Rheoli Traffig 2004 (TMA).
• Bydd hyn yn cynnwys cefnogi Rheolwr Meddiannaeth y Rhwydwaith â:
• Rheoli gwaith stryd;
• Rheoli llwythi annormal;
• Rheoli gorchmynion traffig dros dro a pharhaol;
• Rheoli priffyrdd o ran rheoleiddio a gorfodaeth;
• Gwarchod offer;
• Gweinyddiaeth rheolaeth ddatblygu;
• Rheoli rhwydwaith;
• Rheoli archwilio;
• Cydlynu a chynllunio digwyddiadau arbennig
• Darparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer y swyddogaeth prosesu hysbysiadau, gan sicrhau y caiff safonau a chynlluniau gwasanaeth eu cyflawni a'u darparu yn unol â pholisi, amserlenni a gofynion cyfreithiol.
• Cynorthwyo Rheolwr Meddiannaeth y Rhwydwaith a’r Tîm â swyddogaethau’n gysylltiedig.
• Cynorthwyo a chefnogi’r timoedd Busnes, Cyflawni a Gweithrediadau Rhwydwaith yr Asiant gan roi cyngor a gwybodaeth weithredol neu dechnegol.Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Rheoli gwybodaeth cronfa ddata Llywodraeth Cymru ac Asiant.
• Gweinyddu casglu ffioedd.Prif Ddyletswyddau.
Rheoli Meddiannaeth y Rhwydwaith
• Gweithredu systemau, polisïau a phrosesau rheoli meddiannaeth y rhwydwaith;
• Gweinyddu a rheoli gwybodaeth, cofnodion a data sy'n gysylltiedig â rheoli meddiannaeth y rhwydwaith gan ddefnyddio System Gwybodaeth Ffyrdd Integredig Llywodraeth Cymru (WG-IRIS) a systemau rheoli eraill;
• Gweithredu fel y prif gyswllt o ran swyddogaethau meddiannaeth y rhwydwaith yn ymwneud â:
a) Prosesau mewnol yr Asiant e.e. cyswllt â Rheolwyr Llwybr yr Asiant, Noddwyr Prosiect a Darparwyr Gwasanaeth yr Asiant;
b) Partïon allanol e.e. cwmnïau gwasanaeth, datblygwyr a chludwyr llwythi annormal.
• Cynorthwyo i baratoi y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer adroddiadau allanol a mewnol.
• Mynychu'r Pwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chwmnïau Gwasanaeth (HAUC) a chyfarfodydd eraill ar gais Rheolwr Meddiannaeth y Rhwydwaith.• Cynorthwyo gweinyddiaeth cyllidebau ac incymau swyddogaethau'n ymwneud â meddiannaeth y rhwydwaith.
• Cynorthwyo â chydlynu'r holl waith a wneir ar y briffordd gyhoeddus trwy ddefnyddio'r system rheoli asedau priffyrdd perthnasol i adnabod gwrthadaro posib a chymryd camau priodol yn ôl gofynion EToN.
• Gweithio'n agos ag ymgymerwyr statudol, swyddogion yr awdurdod priffyrdd a chontractwyr preifat sy'n gwneud gwaith stryd, er mwyn lleihau effaith andwyol unrhyw waith ar ddefnyddwyr y briffordd.
• Cyfrifoldeb am reolaeth ddyddiol y swyddogaeth weinyddol yn unol â chytundebau cyfreithiol, gweithdrefnau a safonau prosesu'r Gwasanaeth.
• Cynorthwyo i sicrhau bod y system rheoli asedau priffyrdd yn cael ei chadw'n gyfredol trwy gydweithio â Rheolwyr Llwybr a darparwyr gwasanaethau allanol Llywodraeth Cymru trwy Wasanaeth TG mewnol y Cyngor.
• Monitro a goruchwylio'r system rheoli asedau priffyrdd mewn perthynas â gweinyddu hysbysiadau trwyddedau, manylebau a dynodiadau strydoedd, gan gynnwys mapio a GIS.
• Dylunio, gweithredu, datblygu a chynnal systemau gweinyddu, gan gynnwys systemau ffeilio, storio ac adalw, i fodloni manylebau gwasanaeth a sicrhau y caiff yr holl waith ei gyflawni i safon uchel.
• Adolygu'r data a fewnbynnir gan arolygwyr gorfodi yn rheolaidd trwy sicrhau bod cywirdeb y data yn bodloni'r lleiafswm safon diffiniedig.
• Monitro safonau prosesu er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â gweithdrefnau a gwirio y caiff yr holl waith ei gyflawni yn gywir ac i safon uchel.
• Delio ag ymholiadau gan y cyhoedd mewn perthynas â gwaith yr Uned, a rhoi cyngor ar weithdrefnau prosesu a gweinyddol yn ôl yr angen.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â'r holl weithdrefnau ariannol a gweinyddol, a bod yr holl waith papur yn cael ei gwblhau yn gywir.
• Delio â gohebiaeth fel sy'n briodol.
• Sicrhau bod ffurflenni'r Uned yn cydymffurfio â gweithdrefnau a rhwymedigaethau statudol LlC ac ACGCC, a chynnal lefelau priodol o nwyddau swyddfa i gwrdd â gofynion y gwasanaeth.
• Adnabod cyfleoedd o ran arferion gorau i wella darpariaeth gwasanaethau a hunan-ddatblygiad fel ei gilydd.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth ACGCC. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
• Mae’n gyfrifoldeb ar bob un o weithwyr yr Asiant i gydymffurfio â pholisïau Iechyd a Diogelwch, Amgylcheddol ac Ansawdd fel y’u diffinnir yn System Rheoli Busnes yr Asiant.
• Sicrhau y glynir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
• Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.Cyffredinol
• Cyd-gysylltu, fel bo’n briodol, â swyddogion yr Asiant, Swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a chyrff perthnasol eraill.
• Sicrhau y glynir at reoliadau a gweithdrefnau ariannol yr Asiant a LlC.
• Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol a datblygiadau eraill yn y diwydiant gan gynnwys dulliau newydd gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arferion gorau pan fo hynny’n briodol.
• Dyletswyddau technegol, gweinyddol a phroffesiynol eraill sy’n gymesur ag awdurdod y swydd.
• Ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol.
• Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn ymwybodol o’r gofynion e.e. deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a chydweithredu gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch y Cyngor er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion perthnasol.
• Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrinAmgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Bydd y swydd hon yn gofyn am weithio achlysurol y tu allan i oriau gweithio arferol.
• Ymweld â safleoedd adeiladu.
• Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill o'r DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).