Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
•Datblygu gallu personol mewn materion technegol yn bennaf o ran paratoi darluniadau a dogfennau gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd cyfrifiadurol amrywiol.
•Bod yn rhan o dîm prosiect hyblyg a chynorthwyo staff peirianneg a thechnegol ar brosiectau.
•Cynorthwyo i sicrhau bod YGC yn gweithredu ar sail fasnachol ac yn addasu ei hun i gystadlu’n effeithiol.
•Bod yn llwyr ymrwymedig i ateb anghenion y cleient.
•Cynorthwyo cynrychiolydd y Peiriannydd gyda'u dyletswyddau ar brosiectau adeiladu.
•Cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
•Cynorthwyo gyda gofynion rheolaeth ariannol prosiectau.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Datblygu a chynnal gwybodaeth gyfredol yn ymwneud â:
•arfer gorau cyfredol o ran materion dylunio
•safonau a datblygiadau technegol (gan gynnwys technoleg gyfredol)
•cyfrifoldebau proffesiynol a statudol (yn cynnwys e.e. y rhai dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1982, Rheoliadau Cynefinoedd 1994 a Rheoliadau addas e.e. rheoliadau CDM) a’u cymhwysiad i’r gwaith a'r swyddogaethau sy’n cael eu gweithredu.
•Dirprwyo i’r rheolwr yn ei h/absenoldeb.
•Sicrhau bod YGC yn ateb gofynion y Cyngor.
•Sicrhau y caiff holl daflenni amser a chymeradwyaeth staff eu cwblhau yn unol â gweithdrefnau YGC.
•Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn ymwybodol o ofynion Iechyd a Diogelwch a chydweithredu gyda Swyddog Iechyd a Diogelwch YGC.
Prif ddyletswyddau
•Datblygu a chynnal perthynas broffesiynol gyda chleientiaid.
•Cynorthwyo staff peirianneg a thechnegol gyda chwblhau prosiectau gan gynnwys ystod o ddyletswyddau swyddfa dylunio technegol a gweinyddol sy’n cyfateb i lefel hyfforddiant, profiad a chymhwysedd deilydd y swydd.
•Cynorthwyo gyda chwblhau gwaith Archwilio, Asesu a Chynnal a Chadw ar Isadeiledd Priffyrdd.
•Adrodd yn rheolaidd i uwch staff a derbyn cyfarwyddiadau ganddynt fel sydd angen er mwyn sicrhau bod y gwaith yn mynd yn ei flaen yn briodol.
•Cynorthwyo gydag arolygu'r gwaith ar safleoedd adeiladu yn ôl yr angen.
•Gweithredu systemau cyfrifiadurol a meddalwedd.
•Cydlynu gyda gwasanaethau eraill, cyfadrannau eraill, ymgymerwyr statudol, awdurdodau eraill, sefydliadau allanol ac unigolion ynghylch pob agwedd o'r gwaith.
•Dyletswyddau technegol a gweinyddol perthnasol sy’n gyfesur â lefel y swydd.
•Rhestr enghreifftiol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod â rhan yn y broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd ac ysgwyddo cyfrifoldebau eraill perthnasol i natur ac i raddfa’r swydd ar gais gan Bennaeth / Rheolwr y Gwasanaeth neu’r Cyfarwyddwr Strategol.
•Cyfrifol am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig
•Rheoli gwariant ei hun ar brosiectau.
•Gallu gweithio dan bwysau.
•Y gofyn i weithio tu allan i oriau swyddfa arferol mewn Ymchwiliadau Cyhoeddus, ymgynghoriadau, arddangosfeydd a chyfarfodydd y Cyngor ac ati.