Swyddi ar lein
Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd
£49,498 - £51,515 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27641
- Teitl swydd:
- Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd
- Adran:
- Economi a Chymuned
- Gwasanaeth:
- Llyfrgelloedd
- Dyddiad cau:
- 14/10/2024 12:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £49,498 - £51,515 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS7
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Roland Wyn Evans ar 01286 679450 / rolandwynevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhagwelir cynnal cyfweliadau 24/10/2024 a 25/10/2024.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 12:00 O’R GLOCH, DYDD LLUN, 14/10/2024.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
• Gallu i arwain a chymell tîm o swyddogion drwy eu hysgogi i weithredu ar lefel cyson uchel gan ymddwyn yn broffesiynol bob amser.
• Gallu i ymdrin a phobl mewn ffordd adeiladol, diplomatig gan greu awyrgylch bositif lle mae barn pawb yn cael ei werthfawrogi.
• Gallu i adnabod rhwystrau a datrysiadau ar gyfer eu goroesi.
• Creadigol, brwdfrydig ac egnïol i ddatrys problemau.
• Gallu i dderbyn cyfrifoldeb a gwneud penderfyniadau.
• Gallu i gyfathrebu’n effeithiol ac i ddewis dulliau addas ar gyfer cyfathrebu gwahanol negeseuon.
• Gallu i feithrin perthynas gwaith dda gydag eraill er mwyn cyflawni perfformiad a chael canlyniadau.
• Gallu ymateb i nifer o ofynion gwaith gan ddewis a blaenoriaethu yn addas a gan gwrdd a thargedau amser.
• Gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm ac o fewn amserlenni tynn.
• Person dibynadwy gyda’r gallu i weithio ac ymateb yn effeithiol i sefyllfaoedd heriol.
• Person sy’n arddel gonestrwydd, hunan hyder, sy’n adeiladol ac yn hyblyg eu hagwedd.
• Agwedd positif ac arloesol tuag at heriau a newid.DYMUNOL
-CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc sy'n berthnasol i anghenion y swydd, e.e. Llyfrgellyddiaeth, Rheolaeth Gwybodaeth, Rheolaeth, Iaith a Diwylliant, ayb.
• Aelodaeth Siartredig o’r Sefydliad Siartredig Gweithwyr Proffesiynol Llyfrgelloedd a Gwybodaeth (CILIP) neu’n gweithio tuag at fod yn siartedig.
• Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol/rheolaethol parhaus.
• Cymhwyster rheolaeth cydnabyddedig (e.e. ILM 5 neu 3).DYMUNOL
• Cymhwyster yn y maes technoleg gwybodaeth.PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Profiad o weithio yn y maes llyfrgelloedd a gwybodaeth.
• Profiad o reoli staff a chyllidebau yn llwyddiannus.
• Profiad o reoli, adolygu a gyrru newid ar lefel strategaeth, polisi, cynllunio busnes, gwasanaeth.
• Profiad o Gynllunio Busnes, Rheoli Perfformiad, Rheoli Cyllidebau.
• Profiad o ddadansoddi gwybodaeth a data fel sail i wneud penderfyniadau.
• Profiad o gynhyrchu a chyflwyno adroddiadau o safon i gynulleidfaoedd amrywiol.
• Profiad o Arwain, ysgogi a chymell unigolion a thimau i gyflawni.
• Profiad o gyfathrebu gydag unigolion a grwpiau ar lefel eang.
• Profiad o weithio mewn, sefydlu a chynnal partneriaeth.
• Profiad o sefydlu, cynllunio a rheoli prosiectau amrywiol.
• Profiad o dargedu grantiau o ffynonellau ariannol amrywiol.DYMUNOL
-SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Sgiliau arwain tîm yn llwyddiannus.
• Sgiliau cyfathrebu da – ar lafar ac yn ysgrifenedig.
• Medru hwyluso ac arwain cyfarfodydd a gweithdai i gynulleidfaoedd ar wahanol lefelau.
• Sgiliau arwain, annog, cymell a mentora staff.
• Dealltwriaeth o faterion iechyd a diogelwch a materion parhad busnes.
• Dealltwriaeth am faterion yn ymwneud a Diogelu Data.
• Gallu i gyfathrebu'n effeithiol gyda’r cyhoedd, defnyddwyr a chydweithwyr.
• Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cadarn yn cynnwys y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ag amrediad eang o gynulleidfaoedd.
• Sgiliau negodi, perswadio a cymell.
• Sgiliau dylanwadu.
• Gallu i feddwl yn glir ac i osod cyfeiriad a chynllunio darpariaeth / gwasanaeth oddi fewn i adnoddau sydd ar gael.
• Sgiliau monitro cyflawniad yn erbyn canlyniadau.
• Sgiliau rheoli a monitro prosiectau.
• Sgiliau monitro cyllidebau.
• Sgiliau cyrchu a dadansoddi data perfformiad.
• Agwedd positif ac arloesol tuag at heriau a newid.
• Sgiliau blaenoriaethu a chynllunio gwaith.
• Dealltwriaeth drylwyr o’r cyd-destun strategol / polisi sy’n gyrru ac yn dylanwadau ar y maes llyfrgellyddiaeth a gwybodaeth.
• Dealltwriaeth a gwybodaeth am y cyrff sy’n gosod safonau ar y maes.
• Dealltwriaeth a gwybodaeth am ddeddfwriaethau perthnasol i’r maes.
• Trwydded yrru lawn a defnydd o gar.DYMUNOL
• Sgiliau cyrchu a dadansoddi data perfformiad.
• Dealltwriaeth o feysydd sy’n dylanwadu ar ddarpariaeth y gwasanaeth llyfrgell megis, cynhwysiad digidol, llythrennedd a sgiliau sylfaenol, dysgu oedolion a chymunedol, iechyd a lles, llesiant.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad – Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall – Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu – Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Arwain y tîm(au) y mae’n gyfrifol amdano (ynt) i gyflawni yn effeithiol ac effeithlon yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd drwy greu a chynnal amgylchedd o barch ac ymddiriedaeth gan rymuso, arfogi ac ysbrydoli’r staff.Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Staff
Cyllideb gwasanaeth
Rheolaeth adeilad Llyfrgell Caernarfon (ar y cyd)
Prif Ddyletswyddau.
ARWAIN
• Bod yn atebol am y Gwasanaeth a’r defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael
• Arwain staff y Gwasanaeth drwy annog a chymell i berchnogi egwyddorion Ffordd Gwynedd a bod yn atebol am sicrhau fod hynny’n digwydd
• Sicrhau amgylchedd o fewn y tîm sy’n hyrwyddo ac annog llesiant staff
• Cynorthwyo’r tîm i sefydlu egwyddorion gweithredu gan ystyried deddfau perthnasol (e.e. Iechyd a Diogelwch, Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant) a sicrhau eu bod yn cadw atynt
• Bod yn ymwybodol o sut y mae systemau’r tîm yn gweithio a hwyluso i’w herio ple bo’r angen
• Sicrhau fod y tîm yn cyfrannu at amcanion gwasanaethau neu sefydliadau eraill sy’n ceisio cyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd.
• Hyrwyddo’r angen i adnabod a gweithredu ar fygythiadau a chyfleoedd y dyfodol gan gynnwys camau ataliol
• Sicrhau ymwybyddiaeth o’r hinsawdd gyfreithiol a gwleidyddol sy’n effeithio ar y gwasanaeth gan sicrhau fod aelodau’r tîm yn ymwybodol o’r elfennau angenrheidiol.
• Bod yn fyw i ymarfer da o fewn y maes gwasanaeth a sicrhau fod y tîm yn ystyried priodoldeb yr ymarfer da hwnnw iddynt hwy.
• Arwain newid o fewn y maes gwasanaeth lle mae angen gwneud hynny
• Ymdrin gyda materion a godir gan Aelodau Etholedig ynglŷn â’r Gwasanaeth.GALLUOGI A GRYMUSO
• Recriwtio a datblygu unigolion a thimau i sicrhau bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i gyflawni’r rolau sydd eu hangen rwan ac i’r dyfodol
• Arfogi’r tîm i sefydlu beth sy’n bwysig i bobl Gwynedd a thrwy hynny sefydlu pwrpas y tîm a’i gadw’n gyfredol
• Sicrhau fod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail tystiolaeth.
• Helpu’r tîm i adolygu a herio ei berfformiad
• Creu a chynnal awyrgylch sy’n galluogi pob aelod o’r tîm i gyfrannu a chymryd penderfyniadau er mwyn darparu’r gwasanaethau gorau posib
• Sicrhau awyrgylch o ymddiriedaeth ac atebolrwydd o fewn y tîm gan sicrhau cyfathrebu priodol gyda ac o fewn y tîm.CYFLAWNI
• Arfogi’r tîm i ystyried pa fesurau sy’n dangos perfformiad yn erbyn y pwrpas ac i berchnogi’r mesurau hynny
• Annog y tîm i arloesi, mentro a dysgu o brofiad er mwyn gwella perfformiad
• Cymell a/neu mentora y tîm i adnabod a gweithredu’n amserol er mwyn dileu rhwystrau sy'n atal y gallu i gyflawni yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd
• Datrys unrhyw rwystrau na all y tîm eu datrys
• Sicrhau fod cwynion yn derbyn sylw priodol a bod y tîm yn ystyried unrhyw wersi sy’n codi er mwyn gwella gwasanaeth.
• Gweithredu mewn ffordd rhagweithiol; bod yn agored i feddwl yn wahanol; yn egnïol ac ymroddedig gydag integriti personol er mwyn cyflawni’r swyddogaethau isod gan sicrhau bod staff yr Adran yn cael eu datblygu i arddangos yr un nodweddion.HUNAN ADLEWYRCHU - ar gyflawniad personol yr hyn sydd yn y swydd-ddisgrifiad.
MEYSYDD PENODOL Y SWYDD
• Arwain a rheoli’r Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth yn ei holl agweddau – cyllidebau, staff, rhaglenni gwaith, blaenoriaethau ayb ac yn unol â dyletswyddau’r Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964, a chynghori'r Pennaeth Adran neu’r Pennaeth Cynorthwyol ac Aelod Cabinet ar faterion yn ôl y gofyn.
• Hyrwyddo safon ac ansawdd y gwasanaeth yn unol â thargedau Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru a’r amcanion a nodir yn y Strategaeth Llyfrgelloedd.
• Gweithredu fel rheolwr llinell i’r Arweinyddion Tim gyda gofal staff, yn cynnwys Swyddog Celfyddydau Perfformio, Neuadd Dwyfor ac unrhyw weithwyr allweddol cynlluniau a phrosiectau dros dro.
• Arwain ar faterion llyfrgell ar gyfer yr Awdurdod, gan adnabod meysydd sydd angen sylw ag hysbysu’r Pennaeth Adran neu’r Pennaeth Cynorthwyol o faterion gweithredol, megis anghenion cyllidebol, hyfforddiant a dyletswyddau staff, materion iechyd a diogelwch, rheolaeth adeiladau a materion eraill o fewn gweithdrefnau’r Cyngor.
• Cynrychioli diddordebau llyfrgelloedd ar y Tîm Rheoli Economi a Chymuned gan hysbysu aelodau eraill o faterion a fydd yn effeithio ar y sector Llyfrgell a Gwybodaeth a meysydd priodol eraill gan gynnwys llenyddiaeth a llythrennedd gwybodaeth.
• Cydweithio gydag aelodau eraill y Tîm Rheoli Economi a Chymuned ac Adrannau eraill y Cyngor er mwyn datblygu gwasanaeth cyhoeddus integredig llawn.
• Sicrhau fod trefniadau prydlesu a darparu gwasanaeth mewn partneriaeth a sefydliadau eraill yn cael ei gynnal ac adnabod cyfleon a rhwystrau, a gweithio i gynnal y cydweithio mwyaf effeithiol posib er mwyn parhau gwasanaeth.
• Sicrhau datblygiad a gweithrediad un tîm unedig yn Neuadd Dwyfor.
• I arwain datblygiad tîm swyddogion y Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth ac unrhyw unedau cysylltiol gan gefnogi eu datblygiad a gweithgarwch proffesiynol yn cynnwys hyrwyddo ymarfer gorau yn unol â’r cod ymarfer i lyfrgellwyr siartredig.
• Hyrwyddo proffil uchel i'r gwasanaeth, gan sicrhau ei fod yn bwynt cyswllt i gymunedau a phobl Gwynedd, a chryfhau cysylltiadau efo gwasanaethau, sefydliadau a chyrff eraill.
• Cymryd rôl ragweithiol yn genedlaethol, gan gyfrannu a chydweithio tuag at waith a phrosiectau cysylltiedig o fewn Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, a chydweithio gyda sefydliadau cenedlaethol er mwyn cynnal ansawdd a datblygiad llyfrgelloedd a’r cynigion cenedlaethol perthnasol. Cynrychioli'r awdurdod yng nghyfarfodydd Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru a chydweithredu mewn cynlluniau i hyrwyddo effeithlonrwydd a safonau darparu gwasanaeth.
• Arwain y prosiect LMS Cymru a goruchwylio gwaith y tim datblygu systemau a chyfarch anghenion y Consortiwm o ran cyfrifoldebau Cyngor Gwynedd fel Awdurdod Arweiniol.
• Mynychu cyfarfodydd Penaethiaid Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Gogledd Cymru gan gefnogi cydweithio effeithiol ac effeithlon ym meysydd priodol i gynnal a gwella darpariaeth.
• Cydweithio a swyddogion yr Adran o Lywodraeth Cymru a chyfrifoldeb am oruchwylio datblygiad Lyfrgelloedd Cyhoeddus.
• Cynrychioli'r awdurdod yng nghyfarfodydd Grŵp Gweithredol y Bartneriaeth Addysg Gymunedol (Gwynedd a Môn) a chydweithredu i hyrwyddo effeithlonrwydd a safonau darparu gwasanaeth yn gysylltiedig a gweinyddiaeth y grant AGO.
• Arwain cynlluniau datblygu’r gwasanaeth gan gynnwys monitro gwariant cynlluniau cyfalaf a grantiau'r gwasanaeth ac adrodd yn rheolaidd ar gynnydd yn unol â’r gofynion mewnol ac allanol.
• Arwain y gwasanaeth ar faterion ym maes darllen, llenyddiaeth, addysg gymunedol a hyrwyddo llythrennedd gwybodaeth.
• Dirprwyo ar ran y Pennaeth neu’r Pennaeth Cynorthwyol yn ôl y gofyn yn y maes Llyfrgelloedd a Gwybodaeth a Diwylliant.CYFFREDINOL
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Yn achlysurol, mae hi’n bosibl y bydd angen i ddeilydd y swydd weithio tu allan i oriau gwaith arferol ac i fynychu cyfarfodydd gyda’r nos, oddi fewn ac oddi allan i Wynedd, a gweithredu fel rhan o dîm yn ymateb i argyfyngau sifil, yn unol â chynllun argyfwng y Cyngor.
• Meddu ar drwydded yrru llawn a dilys a meddu ar gar.