Swyddi ar lein
Uwch Swyddog Harbyrau
£32,076 - £33,945 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27638
- Teitl swydd:
- Uwch Swyddog Harbyrau
- Adran:
- Economi a Chymuned
- Gwasanaeth:
- Hafan a Harbwr
- Dyddiad cau:
- 14/10/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £32,076 - £33,945 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S3
- Lleoliad(au):
- Swyddfa Harbwr Porthmadog
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Ystyried secondiad ar gyfer y swydd yma
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Bryn Pritchard-Jones ar 01758 704066
Dyddiad cyfweliad i'w gadarnhau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 14.10.2024
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Ymroddedig, Proffesiynol Brwdfrydig, Aeddfed, Dibynadwy, Gonest, Amyneddgar, Hyblyg, Gweithgar, Ffit.
Y gallu i fod yn ddiplomyddol wrth ddelio gyda’r cyhoedd a chydweithwyr.
Medru gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm neu’n annibynnol.
Medru gweithio o dan bwysau a chwblhau tasgau o fewn amserlenni gofynnol.
Y gallu i gydweithio ag amrywiaeth ac ystod eang o bobl, mudiadau a grwpiau.
Medru gweithio oriau anghymdeithasol yn unol â’r gofyn.
Gallu casglu gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus.DYMUNOL
Arloesol a chreadigol.CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Tystysgrif RYA Cychod Pw^er Lefel Uwch (rhoddir ystyriaeth i gymhwyster cyfatebol y ‘Llynges Frenhinol’ neu'r ‘Llynges Masnachwr’. Ystyrir hefyd cymwysterau addas cyfatebol eraill mewn pwnc/diwydiant Morwrol, e.e. RNLI neu AGyG)
Sgiliau cyfrifiadurol a meistrolaeth o raglenni safonol fel Microsoft Office.
Trwydded yrru llawn.DYMUNOL
Cymhwyster addysg uwch perthnasol
Cymhwyster ‘Yotfeistr’
Hyfforddwr RYA Cychod Pŵer
Arnodiad Masnachol Cwch Pŵer
Tystysgrif RYA ‘Sea Survival’
Tystysgrif RYA ‘Cynnal Peiriant Disel’
Cymhwyster Bad Dŵr Personol
Tystysgrif Cymorth Cyntaf
Trwydded VHF
Hyfforddiant gyrru cerbydau 4x4
Tystysgrif ECDL
Cymhwyster I.O.S.HPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad eo weithio mewn diwydiant a fyddai yn ymwneud a materion morwrol ac arfordirol.
Profiad o reoli staff ac adnoddau.DYMUNOL
Profiad o reoli cyllid a chyllidebau.
Profiad o ddarparu gofal cwsmer.SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gwybodaeth eang o’r Cod Diogelwch Morol a deddfwriaeth berthnasol.
Gwybodaeth o reoliadau IRPCS.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o system fwiau IALA math A.
Gwybodaeth am is-ddeddfau harbwr a thraeth.DYMUNOL
Y gallu i ddylunio taflenni gwybodaeth a ffurflenni a fydd yn addas i’w dosbarthu yn gyhoeddus.
Y gallu i ddylunio a chynhyrchu posteri gwybodaeth a diogelwch.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o safleoedd arfordirol gwarchodedig.ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Cyfrifoldeb am amrywiaeth o ddyletswyddau sy'n ymwneud â sicrhau rheolaeth effeithiol a diogel yr holl harbyrau yng Ngwynedd sydd dan gyfrifoldeb Cyngor Gwynedd
•Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol i gyflawni dyletswyddau dydd i ddydd yn unol â gofynion rheolaethol y Gwasanaeth Morwrol.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb dirprwyedig am holl staff, cyllid ac adnoddau'r Gwasanaeth Morwrol yn unol â’r gofyn.
•Rheoli’r Gwasanaeth ar y cyd gyda’r Uwch Swyddog Traethau yn absenoldeb y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol.
•Cyfrifoldeb rheolaethol am holl swyddogion harbyrau y Gwasanaeth.
•Cydgordio, a sicrhau bod holl offer a chyfarpar diogelwch yr harbyrau yn cael eu harchwilio yn unol â’r gofynion a bod y ffurflenni monitro yn cael eu cwblhau yn unol â’r drefn.
•Cyfrifoldeb am fflôt Swyddfeydd yr harbyrau a throsglwyddiad arian i’r Swyddfa Bost neu Fanc.
•Cyfrifoldeb am holl gychod gwaith yr harbyrau ynghyd a holl gelfi a chyfarpar.Prif Ddyletswyddau. .
Cyfrifoldebau RheoliArwain a Rheoli Pobl
Ysgogi, annog a grymuso eich staff trwy ddirprwyo gwaith yn effeithiol a thrwy greu awyrgylch o barch a chydweithio. Rhoi cyfeiriad ac adborth i’ch staff trwy drosglwyddo gweledigaeth yn effeithiol wrth ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth.Rheoli Adnoddau
Cynllunio a monitro er mwyn sicrhau gwasanaeth o safon a gwella parhaus. Darparu gwerth am arian trwy brynu, blaenoriaethu, rheoli a monitro defnydd effeithiol o adnoddau gan gydnabod bod gwybodaeth, gallu a sgiliau yn adnoddau hefyd.Perfformiad a Datblygiad
Adnabod cryfderau a meysydd datblygu eich staff trwy oruchwyliaeth gyson a phroses werthuso’r Cyngor. Canolbwyntio ar wella perfformiad drwy reoli a datblygu effeithiol a thrwy fesur, monitro ac arfarnu perfformiad. Gweithredu a datblygu cynlluniau busnes sy’n adlewyrchu hyn.Datrys Problemau
Gwneud i bethau ddigwydd trwy wneud penderfyniadau ystyrlon ac ymateb yn effeithiol i flaenoriaethau fel maent yn newid.Cyfathrebu
Rhannu a gwrando ar wybodaeth, barn a syniadau heb ragdybiaeth trwy ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol. Cynyddu cymhelliant trwy ddefnyddio cyfathrebu cynhwysol drwy gymryd i ystyriaeth teimladau eraill.Ymwybyddiaeth o’r Cyd-destun
Deall a gweithio effeithiol o fewn fframwaith politicaidd y Cyngor a bod yn ymwybodol o’r materion sy’n cael effaith ar ddarparu gwasanaeth ar wahanol lefelau. Meithrin cysylltiadau gydag eraill i elwa o ymarfer gorau er mwyn gwella darpariaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth.Hunanreoli
Dangos esiampl i eraill trwy fod yn rhagweithiol, gonest a sefydlog a chymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd eich hun. Sicrhau cydymffurfiaeth â safonau proffesiynol.
•Paratoi a goruchwylio rhaglenni gweithredol harbyrau unigol gyda’r nod o gynnig gwasanaeth o ansawdd i’r cwsmer. Monitro ac adrodd cynnydd gwaith harbyrau yn rheolaidd. Adnabod amcanion a chyflwyno amcanion mesuradwy a chlir ar gyfer yr uned yn flynyddol.
•Sefydlu a gweithredu gweithdrefnau i fonitro cynnydd a gwelliannau yn ansawdd y gwasanaeth a gynigir i gwsmeriaid yr harbyrau.
•Paratoi adroddiadau yn rheolaidd i’r Rheolwr Gwasanaeth yn unol â’r gofyn.
•Sefydlu gweithdrefnau i sicrhau cydymffurfiaeth yr Harbyrau â gofynion Statudol Iechyd a Diogelwch a Chod Diogelwch Porthladdoedd. Paratoi, addasu a diweddaru Asesiadau Risg.
•Sefydlu gweithdrefnau i sicrhau cydymffurfiaeth gyda gofynion statudol y Rheoliadau Gollyngiadau Olew ar gyfer yr harbyrau.
•Ymateb a chynorthwyo gydag achosion o lygredd arfordirol yn unol â'r gofyn.
•Gwaredu cyrff anifeiliaid o’r arfordir yn unol â'r gofyn.
•Sicrhau fod Cynllun Gwaredu Gwastraff Harbyrau a chynlluniau a gweithdrefnau eraill yn cael ei ddiweddaru yn rheolaidd.
•Sefydlu gweithdrefnau i sicrhau'r bod holl gymhorthion mordwyo pob harbwr yn cael eu cynnal a chadw, a'u bod ar eu safle angenrheidiol yn gyson
•Sicrhau bod adroddiad LARS (Ty’r Drindod) yn cael ei gyflwyno a'i gyhoeddi yn unol â’r gofynion
•Sicrhau fod holl gychod sydd ym mherchenogaeth y Cyngor yn cydymffurfio ac unrhyw ofynion statudol neu god perthnasol. Sicrhau fod pob cwch yn cael ei wasanaethu a'i gynnal a chadw yn unol â gofynion yr Uned.
•Sefydlu gweithdrefnau i sicrhau bod pob angorfa ym mherchenogaeth y Cyngor yn cael eu cynnal a chadw, a'r bod holl angorfeydd preifat yn cael eu harchwilio yn unol â threfn arferol.
•Cynorthwyo i ddatblygu gweithgareddau hamdden er mwyn hyrwyddo defnydd o adnoddau naturiol y Sir.
•Sicrhau fod egwyddorion polisïau corfforaethol yn treiddio drwy’r gwasanaeth a’i gynlluniau.
•Darparu adroddiadau a mynychu gweithgareddau a chyfarfodydd yn ôl yr angen a chynrychioli’r Adran ar faterion perthnasol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
•Bydd gofyn o dro i dro i’r Uwch Swyddog Harbyrau weithredu fel Harbwr Feistr achlysurol yn unrhyw un o’r Harbyrau yn unol â’r gofyn.
•Bydd gofyn i’r Swyddog weithio rhan fwyaf o benwythnosau yn ystod y cyfnod a fu yn arwain at Gŵyl Y Pasg hyd at ddiwedd mis Medi.
•Gweithio pob Gŵyl Banc, a rhai nosweithiau yn y cyfnod Gŵyl Y Pasg hyd at ddiwedd Medi.
•Bydd gofyn i’r swyddog ymateb i sefyllfa frys neu argyfyngus ar arfordir pan fo angen.
•Gweithredu fel Rheolwr ar Ddyletswydd ar adegau penodol.