Pwrpas y Swydd
Gweithio o dan arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol o fewn cyfundrefn gytûn o oruchwyliaeth.
Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu. Gallai hyn gynnwys y rhai sydd angen gwybodaeth fanwl ac arbenigol mewn meysydd penodol.
Cyfrannu at gylch cynllunio’r athro er mwyn sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i ddysgu.
Goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb tymor byr yr athro/athrawes. Prif ffocws cyflenwi o’r fath fydd ymateb i gwestiynau, cynorthwyo disgyblion i ymgymryd â gweithgareddau a osodwyd, aros ar dâsg a chynnal trefn.
1.Cefnogaeth i Ddisgyblion
1.1.Defnyddio sgiliau/hyfforddiant/profiad arbenigol (cwricwlaidd/dysgu) i gefnogi disgyblion.
1.2.Sefydlu perthynas weithio bwrpasol gyda’r disgyblion ac ennyn disgwyliadau uchel.
1.3.Hybu cynhwysiad a derbyniad pob disgybl o fewn y dosbarth.
1.4.Rhoi sylw i anghenion personol disgyblion a gweithredu rhaglenni personol perthynol, yn cynnwys rhai cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, toiledu, bwydo a symudoledd.
1.5.Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â’r gweithdrefnau polisïau yr AALL ac ysgolion.
1.6.Cefnogi disgyblion yn gyson gan adnabod ac ymateb i’w hanghenion unigol.
1.7.Annog disgyblion i ryngweithio a chydweithio gydag eraill.
1.8.Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau ar gyfer adnabod a gwobrwyo cyflawni hunanddibyniaeth.
1.9.Darparu adborth effeithlon i ddisgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad, yn cynnwys ymddygiad a phresenoldeb.
1.10.Gweithredu fel Anogwr Dysgu yn yr ysgol
2.Goruchwyliwr / Goruchwylwraig Gyflenwi
2.1.Arolygu arholiadau mewnol ac allanol fel bo’r gofyn.
Cefnogaeth i ddisgyblion wrth oruchwylio dosbarthiadau yn absenoldeb yr athro/athrawes
2.2.Cofrestru a chofnodi presenoldeb dysgwyr mewn gwersi.
2.3.Cyfarwyddo dysgwyr ynghylch y gwaith a adawyd gan eu hathro/hathrawes.
2.4.Darparu’r adnoddau angenrheidiol i’r myfyrwyr ar gyfer eu dysgu.
2.5.Sicrhau bod dysgwyr yn mynd i mewn ac allan o’r dosbarthiadau yn drefnus.
2.6.Creu amgylchedd tawel a phwrpasol lle gall disgyblion gwblhau gwaith a osodwyd gan yr athro dosbarth.
2.7.Dilyn cyfundrefnau a gweithdrefnau ysgol ar reoli ymddygiad.
2.8.Rheoli adnoddau’n effeithlon a sicrhau y gadewir dosbarthiadau’n daclus ac yn barod ar gyfer y wers nesaf.
2.9.Casglu unrhyw waith a gwblhawyd ar ôl y wers a’i ddychwelyd i’r athro priodol.
2.10.Cysylltu â’r athro/athrawes mewn perthynas â gwaith cyflenwi.
3.Cefnogaeth i’r Athro/Athrawes
3.1.Gweithio gyda’r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chynhaliol.
3.2.Gweithio gyda’r athro/athrawes i gynllunio gwersi, gwerthuso ac addasu gwersi/cynlluniau gwaith fel y bo’n briodol.
3.3.Monitro a gwerthuso ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu drwy arsylwi a chofnodi cyflawniad yn erbyn nodau dysgu a bennwyd ymlaen llaw.
3.4.Darparu cefnogaeth glerigol/weinyddol gyffredinol, e.e. gweinyddu gwaith cwrs, cynhyrchu taflenni gwaith at gyfer gweithgareddau y cytunwyd arnynt.
3.5.Darparu adborth lafar ac ysgrifenedig i’r athro/athrawes ar gynnydd a chyflawniad disgyblion.
3.6.Fel y cytunwyd gyda’r athro/athrawes, bod yn gyfrifol am gadw a diweddaru cofnodion. Cyfrannu at arolwg o gyfundrefnau cadw cofnodion yr ysgol fel bo'r gofyn.
4.Cefnogaeth i’r Cwricwlwm
4.1.Gweithredu gweithgareddau dysgu a rhaglenni addysgu y cytunwyd arnynt.
4.2.Gweithredu rhaglenni cysylltiedig â strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd, TGaCh.
4.3.Gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygu sgiliau perthnasol.
4.4.Cefnogi’r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y disgyblion wrth ei ddefnyddio.
4.5.Cynorthwyo disgyblion i gael mynediad i weithgareddau dysgu drwy gefnogaeth arbenigol.
4.6.Pennu’r angen am offer ac adnoddau cyffredinol ac arbenigol, eu paratoi a’u cynnal a’u cadw.
4.7.Cefnogaeth i’r Cwricwlwm wrth oruchwylio dosbarthiadau yn absenoldeb athro/athrawes.
4.8.Casglu banc o waith goruchwylio mewn cysylltiad ag aelodau perthnasol y staff addysgu.
5.Cefnogaeth i’r Ysgol
5.1.Bod yn ymwybodol o’r polisïau a’r gweithdrefnau perthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd ac amddiffyn data, a chydymffurfio â hwy, gan adrodd am bob pryder wrth y person priodol. Dylai hyn hefyd, ar gyfer goruchwylwyr cyflenwi, gynnwys rheoli ymddygiad.
5.2.Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
5.3.Sefydlu perthynas bwrpasol a chyfathrebu gydag asiantaethau/proffesiynolwyr eraill, mewn cysylltiad â’r athro/athrawes, i gefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
5.4.Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chyfranogi ynddynt.
5.5.Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo’n ofynnol.
5.6.Adnabod cryfderau a meysydd arbenigedd personol a defnyddio’r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
5.7.Darparu arweiniad a goruchwyliaeth priodol a chynorthwyo yn hyfforddiant a datblygiad staff cynhaliol eraill fel y bo’n briodol.
5.8.Ymgymryd â goruchwylio cynlluniedig o weithgareddau dysgu’r disgyblion y tu allan i oriau ysgol.
5.9.Goruchwylio’r disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i’r ysgol.