Pwrpas y Swydd
•Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gwaith i gwblhau prentisiaeth ac ennill cymwysterau yn y maes Gweinyddiaeth a Busnes.
•Darparu gwybodaeth a chefnogaeth i’r Uned Busnes gan gynnwys delio gyda staff, cwsmeriaid a Llywodraeth Cymru mewn ffordd broffesiynol ac unrhyw ymholiadau a chwynion mewn dull cwrtais a moesgar.
•Cynorthwyo staff yr Uned Busnes yn ei holl weithgareddau gan gynnwys gwaith rheolaeth ariannol, archwilio, rheoli perfformiad, contractau masnachol, hawliadau trydydd parti, gofal stryd, cynllunio busnes, iechyd a diogelwch, gwasanaethau cwsmeriaid, rheoli swyddfa, systemau rheoli prosiectau integredig, cyfathrebu a sicrwydd ansawdd.
•Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm ac yn rhoi’r gwasanaeth gorau i’n cwsmeriaid
•Deall sut mae gweithredu systemau’r Asiant Cefnffyrdd.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Dim
Prif Ddyletswyddau
Trosolwg
Mae’r Uned Busnes yn darparu swyddogaethau cefnogi hanfodol i holl weithrediadau'r Asiant Cefnffyrdd gan gynnwys gwaith rheolaeth ariannol, archwilio, rheoli perfformiad, contractau masnachol, hawliadau trydydd parti, gofal stryd, cynllunio busnes, iechyd a diogelwch, gwasanaethau cwsmeriaid, rheoli swyddfa, systemau rheoli prosiectau integredig, cyfathrebu a sicrwydd ansawdd.
Bydd disgwyl i bob prentis arddangos y canlynol:
1.Ymddygiad ac agwedd gywir
2.Ymrwymiad i waith
3.Cyfrannu at lwyddiant
4.Gweithio’n rhan o dîm
5.Cyfathrebu gyda hyder
6.Parodrwydd i ddysgu
7.Ymwybyddiaeth o beth sydd ei angen i weithio i lywodraeth leol
Dyma drosolwg o brif ddyletswyddau’r swydd:
Cyffredinol
1.Darparu gwasanaeth i gwsmeriaid o ansawdd uchel drwy ymdrin â gohebiaeth, ymholiadau dros y ffôn a phobl sy'n galw heibio, fel y bo'n briodol.
3.Sicrhau bod gwybodaeth a data'r Asiant Cefnffyrdd yn cael eu cadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol.
4.Sicrhau ymwybyddiaeth o systemau’r Asiant Cefnffyrdd.
5.Sicrhau gwybodaeth gywir o ddeddfwriaeth berthnasol.
6.Gweithio'n hyblyg.
7.Gweithio mewn modd gofalgar a sensitif.
8.Cynorthwyo i fonitro ansawdd y gwasanaeth.
9.Gwella boddhad cwsmeriaid a darpariaeth gwasanaeth; cyfrannu syniadau ar gyfer datblygu a hyrwyddo'r Asiant Cefnffyrdd.
10.Dysgu a rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr, gweithio fel rhan o dîm, a chefnogi cydweithwyr.
Cyngor ac Arweiniad
1.Ymdrin ag ymholiadau a dderbynnir o amrywiaeth o wahanol ddulliau a darparu gwybodaeth perthnasol.
2.Delio â, blaenoriaethu a datrys ymholiadau.
3.Darparu gwybodaeth a chymorth ar draws ystod gynhwysfawr o wasanaethau'r Asiant Cefnffyrdd gan ddefnyddio gwahanol fathau o gyfathrebu.
4.Darparu gwasanaeth o'r dechrau i'r diwedd.
5.Sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud gyda thasgau’r Asiant Cefnffyrdd ac yn dilyn y prosesau perthnasol.
6.Sicrhau bod ymholiadau'n cael eu blaenoriaethu a'u bod yn cael sylw priodol.
7.Cadw cofnodion cywir.
Uned Busnes
Yn y maes yma byddwch yn cael profiad o holl ystod gwaith yr Uned Busnes gan gynnwys:
1.Dysgu am brosesau Cyllidol yr Asiant Cenffyrdd yn cynnwys prosesau taliadau, cyfrannu tuag adrodd ar ddata perfformiad yr Asiant Cefnffyrdd.
2.Cyfle i ddatblygu sgiliau dadansoddi drwy ddefnydd o Excel a PowerBI, cyflwyniad i Ddeddfwriaeth Rheoli Gwybodaeth a phrosesau data,
3.Deall amrywiaeth o systemau hanfodol yr Asiant Cefnffyrdde.e. IRIS/TRAFIS/CRM.
4.Dysgu sut i adennill costau sy'n deillio o ddifrod i eiddo LlC a achoswyd gan drydydd parti ar y rhwydwaith Cefnffyrdd, cynorthwyo yn y drefn rheolaeth datblygu,
5.Deall sut mae delio gyda risgiau sydd yn codi o goed peryglus,
6.Dealltwriaeth eang o system TENSOR (system rheoli amser staff), sut i recordio oriau gweithio a salwch staff,
7.Deall trefniant a methodoleg archwilio fewnol
8.Gweithredu trefniadau adnoddau dynol
9.Cyfle i ddysgu am system Hyfforddiant Gwynedd (MODS),
10.Delio efo cwsmeriaid dros y ffôn a trwy e-byst - mewn bwydo gwybodaeth i system Llywodraeth Cymru (IRIS PEM).
11.Cyfle i ddeall prosesau a phrofiad o wasanaeth Gofal Stryd.
12.Cyfle i ddeall prosesau caffael mewnol ac allanol sydd yn cynnwys, E-dendr Cymru a gweinyddu a rheoli gwahanol fathau o gontractau.
13.Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
-