Swyddi ar lein
Swyddog Cyfathrebu
£29,269 - £31,364 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27594
- Teitl swydd:
- Swyddog Cyfathrebu
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Rheoli Rhwydwaith
- Dyddiad cau:
- 26/09/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £29,269 - £31,364 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S2
- Lleoliad(au):
- Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru (CRhTGC/NWTMC), Conwy
Manylion
Hysbyseb Swydd
Gwasanaeth Traffig Cymru (GTC)– Swyddog Cyfathrebu
CYFLOG: S2 (18-22) £29,269– £31,364
37 awr yr wythnos swydd barhaol
LLEOLIAD: Conwy
Ynglŷn â Thraffig Cymru
Traffig Cymru yw gwasanaeth gwybodaeth traffig Llywodraeth Cymru ar gyfer y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yng Nghymru.
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu creadigol a brwdfrydig i ymuno â'r tîm.
Prif ddyletswyddau:
- Arwain tîm o Gydlynwyr Cyfathrebu, trefnu rotas, a sicrhau datblygiad parhaus staff.
- Rheoli ymatebion i ymholiadau a chwynion gan y cyhoedd, gan sicrhau datrysiad amserol a bod gwybodaeth yn cael ei ledaenu’n gyson.
- Sicrhau cynnwys dwyieithog o ansawdd uchel ar gyfer cylchlythyrau, cyfryngau cymdeithasol, a diweddariadau gwefan, gan gadw at safonau iaith.
- Goruchwylio a gwella cynlluniau cyfathrebu'r gwasanaeth, gan sicrhau negeseuon clir, cyson ac effeithiol sy'n cyd-fynd â nodau a gwerthoedd Traffig Cymru.
Os oes gennych yr egni, ymrwymiad, a’r ddawn i wneud gwahaniaeth i'r cyhoedd sy'n teithio yng Nghymru, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 26/09/24 10:00 am
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Glesni Parry 07570370455
Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Sgiliau cyfathrebu da yn Gymraeg a Saesneg
Arddangos mentergarwch personol arwyddocaol a'r gallu i ymdrin â phobl ar bob lefel yn gwrtais, yn sensitif a phroffesiynol
Gallu i flaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun. Gallu i arwain eraill a rheoli blaenoriaethau gwaith staff is.
Gallu i weithio o dan bwysau a gallu i ymdrin â dyddiadau cau llym.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Pump TGAU o leiaf, yn cynnwys Saesneg, Mathemateg a Chymraeg. Cymraeg.
NVQ Lefel 3 mewn cymhwyster sy'n seiliedig ar Gyfathrebu ymhen dwy flynedd o'r penodiad
Dymunol
ECDL
Cymwysterau mewn Astudiaethau Cyfathrebu neu Astudiaethau Busnes neu bwnc perthnasol arall
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad mewn swydd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer
Profiad o oruchwylio gweithredoedd gweinyddu swyddfa mewn amgylchedd swyddfa brysur
Dymunol
Ymdrin ag ymholiadau'r cyhoedd, aelodau etholedig a Llywodraeth Cymru yn effeithiol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Cyfarwydd gyda phecynnau cyfrifiadurol e.e. Windows, Excel, ac ati.
Y gallu i gyfieithu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg
Goruchwylio trefniadau gweinyddol swyddfa
Sgiliau datrys problemau.
Sgiliau negodi
Dymunol
Cyfarwydd gyda gweithdrefnau perthnasol llywodraeth leol a/neu ganolog
Cyfarwydd gyda Deddf Rhyddid Gwybodaeth ac Amddiffyn Data
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Cynorthwyo gyda darpariaeth dydd-i-ddydd Gwasanaeth Cyfathrebu Traffig Cymru Llywodraeth Cymru sy'n ymdrin â'r Cyhoedd yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.
•Cynorthwyo i ddatblygu gweithdrefnau a phrotocolau i gefnogi gweithrediad y gwasanaeth.
•Darparu cymorth Gweinyddol i wasanaethau ACGChC
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifol am dri aelod staff Cydlynu Cyfathrebu Gwasanaeth Cyfathrebu Traffig Cymru.
•Cyfrifol am reoli rota a llwyth gwaith y tri aelod staff Cydlynu Cyfathrebu Gwasanaeth Cyfathrebu Traffig Cymru i ddarparu gwasanaeth 7am hyd 7pm yn ystod digwyddiadau pwysig.
•Cynorthwyo i fonitro safon a gwasanaeth gweithredwyr yr Ystafell Reoli ar gyfer Gwasanaeth Traffig Cymru rhwng 7pm a 7am ac yn ystod cyfnodau dros benwythnosau a Gwyliau Banc.
•Gweithredu fel Rheolwr Eiddo Lleol yn unol â gofynion LlC ar gyfer Adeilad CRhT Gogledd Cymru.
•Diogelwch yr adeilad rhwng 7.00am a 7.00pm
Prif ddyletswyddau
Swyddogaeth Traffig Cymru
Traffig Cymru yw gwasanaeth gwybodaeth traffig Llywodraeth Cymru, y gofynnwyd i'r Asiant ei ddarparu ledled Cymru. Traffig Cymru yw'r cyswllt rhwng y cyhoedd a Chanolfannau Rheoli Traffig Llywodraeth Cymru yng Nghonwy (Gogledd Cymru) a Choryton (De Cymru). Mae LlC yn ymgeisio i wella'r gwasanaeth trwy ehangu'r dulliau o gyflwyno gwybodaeth er mwyn cael effaith arwyddocaol o gadarnhaol ar reoli'r rhwydwaith ffyrdd yn effeithiol.
Mae cyfrifoldebau'r swyddogaeth yn cynnwys:
•Cyfrifoldeb rheolwr llinell uniongyrchol dros dri o Gydlynwyr Cyfathrebu Traffig Cymru.
•Cynorthwyo i drefnu rota staff er mwyn sicrhau bod gofynion gweithredol LlC yn cael eu cyflawni.
•Cynorthwyo i ddatblygu gweithdrefnau gweithredu, protocolau a gwefan a system Traffig Cymru.
•Cynorthwyo i ddatblygu ffrydiau cyfathrebu er mwy caffael gwybodaeth sy'n berthnasol i weithrediadau'r cefnffyrdd yng Nghymru.
•Caffael gwybodaeth sy'n ymwneud â thraffig a'r rhwydwaith o amryw ffynonellau, gan gynnwys darparwyr gwasanaeth, Staff Gweithredol a Gwaith Ffordd ACGChC, Llywodraeth Cymru a sefydliadau sector breifat e.e. Google, Tom-tom a Roadworks.org
•Rheoli'r modd y mae'r tîm cyfathrebu'n rhannu gwybodaeth berthnasol â'r cyhoedd sy'n teithio, trwy ddefnyddio gwefan Traffig Cymru ac amryw o ddulliau cyfryngau cymdeithasol megis Twitter a Facebook;
•dylai negeseuon fod yn gryno, yn ddealladwy a chynnwys gwybodaeth ffeithiol, ac yn ddim mwy na 140 llythyren
•Rhaid i'r holl wybodaeth a gyhoeddir fod yn ddwyieithog;
•Ffotograffau neu ddelweddau TCC addas (wedi'u gwirio) o ddigwyddiadau sy'n effeithio'r rhwydwaith e.e. delweddau sy'n cyfleu cyd-destun sefyllfa neu ddigwyddiad;
•y briffordd yw prif ganolbwynt y ddelwedd ond dylid dangos gweithgareddau gwasanaethau brys neu ACGChC er mwyn cyfleu ymateb cadarnhaol;
•gwaith ffordd brys neu wedi'i raglennu sy'n gofyn am gau lôn neu ffordd gerbydau;
•digwyddiadau o ddiddordeb i'r cyhoedd e.e. eisteddfodau;
•disgrifiadau o weithgareddau cynnal a chadw e.e. cau twneli i wneud gwaith cynnal a chadw;
•Gweithgareddau ACGChC e.e. Gwasanaeth Swyddog Traffig neu gynnal a chadw goleuadau ffordd
•ffotograffau diddordeb cyffredinol o'r rhwydwaith
•Ymateb i ymholiadau a chwynion y cyhoedd sy'n teithio, trwy'r cyfryngau cymdeithasol, ffôn neu e-bost.
•Darparu'r cyswllt cyfathrebu rhwng y Canolfannau Rheoli Traffig yng Nghoryton a Chonwy.
Darparu Gwasanaeth Traffig Cymru
Bydd y gweithgareddau yn cynnwys:
•Gweithredu fel y cyswllt cyntaf ar gyfer y Gwasanaeth yn Gymraeg a Saesneg
•Ymateb i ymholiadau a chwynion gan y cyhoedd a budd-ddeiliaid eraill y gwasanaeth hwn (ar rif ffôn '0300' penodol) mewn modd proffesiynol, yn ogystal â thrwy e-bost, er mwyn darparu amrywiaeth eang o ymatebion, gan gynnwys: statws y rhwydwaith, cyngor ar waith ffordd, cyngor ar lwybrau a gwybodaeth am gyrchnodau
•Ymateb i bob e-bost a dderbynnir
•Cydlynu gyda'r Awdurdodau Heddlu perthnasol
•Ymgysylltu gyda gweithredwyr ystafell reoli Gogledd a De Cymru, a staff rheoli rhwydwaith, a chofnodi pob ymholiad ac ymateb yng nghronfa ddata Rheoli Ymholiadau'r Cyhoedd Llywodraeth Cymru
Dyletswyddau Rheoli Eiddo:
Bydd y gweithgareddau yn cynnwys:
•Rheoli diogelwch yr adeiladau, gan gynnwys cyfarch ymwelwyr, darparu pàs diogelwch, anwythiadau safle.
•Cynnal a chadw cyfleusterau swyddfa yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.
•Cynnal a chadw’r systemau gweinyddu swyddfa
•Cyfeirio'r ymholiadau sy'n dod i mewn at y person mwyaf priodol yn ACGChC
•Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn trefnu ymweliadau gwasanaeth gan gontractwyr cynnal a chadw eiddo CRhT
•Trefnu mynediad i gontractwyr cynnal a chadw eiddo CRhT a thrydydd parti arall a all ymweld â'r CRhT ar gyfer cynnal a chadw'r adeilad a'i wasanaethau
•Rheoli cynnal a chadw a chynhaliaeth dodrefn swyddfa'r CRhT gan gynnwys gwasanaethau glanhawr
•Sicrhau bod ystafelloedd cynadledda yn barod i gael eu defnyddio a'u bod yn cael eu paratoi yn brydlon gyda'r cyfleusterau y gofynnodd y cleient amdanynt
Swyddogaeth Ymateb i Ddigwyddiad
•Gweithredu fel cofnodwr yn ystod digwyddiadau pwysig gan gofnodi gweithredoedd allweddol a wnaed yn unol â gweithdrefnau ymateb i argyfwng yr Asiant.
Cydymffurfiaeth Statudol
•Cynorthwyo'r Asiant i gydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data, y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a gofynion deddfwriaethol eraill sy'n gysylltiedig â gweinyddu.
Swyddogaeth Weinyddol
•Darparu cefnogaeth weinyddol mewn cyfarfodydd gan gynnwys trefnu cyfarfodydd a chymryd cofnodion
•Cydlynu archebu ystafelloedd cwrdd, desgiau dros dro
GOFYNION ERAILL
Dirprwyo ar ran y Rheolwr Cyfathrebu a Datblygu Staff yn ôl y gofyn.
Darparu cyflenwad dros dro o Gydlynwyr Cyfathrebu Gwasanaeth Traffig Cymru yn ystod cyfnodau o absenoldeb neu yn ystod digwyddiadau pwysig a digwyddiadau annisgwyl.
Wrth gyflawni’r dyletswyddau uchod, cysylltu, fel y bo’n briodol, â swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a budd-ddeiliaid eraill.
Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol a datblygiadau eraill yn y diwydiant gan gynnwys dulliau newydd gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.
Cydlynu a chysylltu â staff o Gyfadran yr Amgylchedd, o Adrannau eraill o fewn y Cyngor, ac o Awdurdodau Partner er mwyn sicrhau bod yr Asiantaeth a’r Gyfadran yn cael eu rheoli'n effeithiol.
Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a wneir gan staff yr ydych yn eu rheoli.
Cynorthwyo aelodau staff eraill yr Asiant i gyflawni eu dyletswyddau technegol, ariannol a gweinyddol.
Canfod a chael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â:
•safonau, datblygiadau technegol a chyfrifiaduron
•arfer gorau cyfredol o ran materion gweinyddu
Dyletswyddau rheoli, gweinyddu, technegol a phroffesiynol eraill sy’n gymesur ag awdurdod y swydd.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau y cedwir gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
Amgylchiadau arbennig
•Mae gofyn bod yn hyblyg gan weithio oriau ychwanegol yn sgil salwch staff, gwyliau staff er mwyn sicrhau cyflenwad i wasanaeth Traffig Cymru rhwng 7am a 7pm. (Telir goramser am hyn).
•Gofyn gweithio oriau ychwanegol yn ystod digwyddiadau nas rhagwelwyd e.e. tywydd drwg neu ddigwyddiadau traffig ar y ffordd.
•Gofyn gweithio ambell shifft penwythnos pan fydd digwyddiadau pwysig wedi'u rhaglennu neu eu rhagweld e.e. digwyddiadau chwaraeon pwysig, cyngherddau pop ac ati, a bydd goramser yn daladwy.
•Cydlynu gyda'r Rheolwr Cyfathrebu a Datblygiad Staff parthed gwyliau/salwch er mwyn sicrhau fod cyflenwad staff gweinyddol y swyddfa'n cael ei gynnal.