GWASANAETH YSGOLION, CYNGOR GWYNEDD
DISGRIFIAD SWYDD
SWYDD: Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu – Lefel 4
(Cefnogi & Chyflwyno Dysgu)
YSTOD CYFLOG: S1 - 12-17
DEILIAD SWYDD:
YN ATEBOL I:
PWRPAS SWYDD
• Cyflenwi gwaith proffesiynol athro drwy gymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt o dan gyfundrefn oruchwylio gytûn. Gall hyn gynnwys cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion/grwpiau neu dymor byr ar gyfer dosbarthiadau cyfan a monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau, cynnydd a datblygiad y disgyblion.
• Yn gyfrifol am reoli a datblygu maes arbenigol o fewn yr ysgol a/neu reoli cymorthyddion addysgu eraill, yn cynnwys dyrannu a monitro gwaith, gwerthuso a hyfforddiant.
• Darparu anogaeth ddysgu o ansawdd i grŵp penodol o ddysgwyr.
PRIF DDYLETSWYDDAU
Cefnogaeth i Ddisgyblion
• Asesu anghenion disgyblion a defnyddio gwybodaeth fanwl a sgiliau arbenigol i gefnogi dysgu’r disgyblion.
• Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda’r disgyblion, gan weithredu fel model rôl a gosod disgwyliadau uchel.
• Datblygu a gweithredu Cynlluniau Addysg Unigol (CAU).
• Hybu cynhwysiad a derbyniad pob disgybl o fewn y dosbarth.
• Cefnogi’r disgyblion yn gyson wrth adnabod eu hanghenion unigol ac ymateb iddynt.
• Annog y disgyblion i ryngweithio a gweithio’n gydweithredol ag eraill ac ymrwymo pob disgybl mewn gweithgareddau.
• Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau i adnabod a gwobrwyo cyflawniad a hunan-ddibyniaeth.
• Darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
Cefnogaeth i’r Athro/Athrawes
• Trefnu a rheoli amgylchedd dysgu ac adnoddau priodol.
• O fewn cyfundrefn gytûn o oruchwylio, cynllunio nodau addysgu a dysgu heriol i werthuso ac addasu cynlluniau gwersi/gwaith fel y bo’n briodol.
• Monitro a gwerthuso ymateb disgyblion i weithgareddau dysgu drwy ystod o strategaethau asesu a monitro yn erbyn nodau dysgu a ragbenodwyd.
• Darparu adborth gwrthrychol a chywir ac, yn ôl y gofyn, adroddiadau ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill disgyblion, gan sicrhau fod tystiolaeth briodol ar gael.
• Cofnodi yn drylwyr, gynnydd a chyflawniad mewn gwersi/gweithgareddau a darparu tystiolaeth o ystod a lefel cynnydd a chyrhaeddiad.
• Gweithio o fewn polisi disgyblaeth sefydledig i ragweld a rheoli ymddygiad yn adeiladol, gan hybu hunan-reolaeth ac annibyniaeth.
• Cefnogi rhan rhieni yn nysgu’r disgyblion a chyfrannu tuag at gyfarfodydd/arwain cyfarfodydd gyda rhieni i ddarparu adborth adeiladol ar gynnydd/cyflawniad disgyblion, ayyb.
• Gweinyddu ac asesu/marcio profion a goruchwylio arholiadau/profion.
• Cynhyrchu cynlluniau gwersi, taflenni gwaith, cynlluniau, ayyb.
Cefnogaeth i’r Cwricwlwm
• O fewn cyfundrefn oruchwylio gytunedig, cyflwyno gweithgareddau dysgu i’r disgyblion, addasu gweithgareddau yn unol ag ymatebion/anghenion y disgyblion.
• Cyflwyno strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, blynyddoedd cynnar, a gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygiad sgiliau disgyblion.
• Defnyddio TGaCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.
• Dethol a pharatoi adnoddau sy’n angenrheidiol ar gyfer arwain gweithgareddau dysgu, gan gymryd cyfrif o ddiddordebau, iaith a chefndir diwylliannol y disgyblion.
• Cynghori ar leoli a defnyddio cymorth/adnoddau/offer arbenigol yn briodol.
Cefnogaeth i’r Ysgol
• Cydymffurfio a chynorthwyo gyda datblygu polisïau a gweithdrefnau perthynol i amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cydgyfrinachedd a gwarchod data, adrodd ar bryderon i’r person priodol.
• Bod yn ymwybodol a chefnogi gwahaniaeth, a sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i gyfleoedd dysgu a datblygu.
• Cyfrannu tuag at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
• Sefydlu perthynas adeiladol a chyfathrebu gydag asiantaethau/proffesiynolwyr eraill, mewn cysylltiad â’r athro/athrawes, i gefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
• Defnyddio blaengaredd fel y bo’n briodol i ddatblygu dulliau amlasiantaethol priodol i gefnogi disgyblion.
• Adnabod hunan-gryfderau ac ardaloedd o arbenigedd a defnyddio’r rhain i arwain, cynghori a chefnogi eraill.
• Cyflwyno gweithgareddau dysgu y tu allan i’r ysgol o fewn y canllawiau a sefydlwyd gan yr ysgol.
• Cyfrannu at adnabod a gweithredu gweithgareddau dysgu priodol y tu allan i’r ysgol sy’n cadarnhau ac yn ymestyn gwaith yn y dosbarth.
Cyfrifoldebau Rheoli Llinell Lle bo’n Briodol
• Rheoli cymorthyddion addysgu eraill.
• Cysylltu rhwng rheolwyr/staff addysgu a chymorthyddion addysgu.
• Cynnal cyfarfodydd tîm rheolaidd gyda staff a reolir.
• Cynrychioli cymorthyddion addysgu mewn cyfarfodydd priodol addysgu staff/rheoli/arall.
• Ymgymryd â recriwtio/anwytho/gwerthuso/hyfforddi/mentora ar gyfer cymorthyddion addysgu eraill.