Pwrpas y Swydd.
• I sicrhau fod plant yng Ngwynedd yn cael eu diogelu rhag niwed, yn byw mewn amgylchiadau mor sefydlog ag sydd yn bosibl ac yn cael y cyfle gorau o ran hyrwyddo eu hiechyd a’u lles.
• Mae’r swydd yma’n allweddol ar gyfer hyrwyddo amddiffyn plant mewn achosion unigol ac hefyd yn y modd mae’r rhwyd ddiogelu rhyng asiantaethol a chorfforaethol yn gweithio yng Ngwynedd.
• Gydag uchelgais am drefniadau amddiffyn plant cadarn ac o’r safon uchaf, bydd y swydd yn gweithredu fel:
- Cydlynydd Amddiffyn Plant
- Cadeirydd Cynadleddau Amddiffyn Plant
- Ceidwad y gofrestr Amddiffyn Plant
- Arweinydd proffesiynol ar faterion amddiffyn plant a Gweithdrefnau Diogelu Cymru (Plant), yng Ngwynedd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Rheolaeth llinell un aelod o staff gweinyddol.
Prif Ddyletswyddau.
• Gweithredu fel arweinydd proffesiynol ym maes amddiffyn plant yng Ngwynedd:
• sicrhau cydymffurfiad gyda Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
• darparu cyngor proffesiynol ar ymarfer yn ôl yr angen
• darparu cyngor am adnabod trothwy tebygolrwydd niwed arwyddocaol a sut i’w asesu
• Cadeirio Cynadleddau Amddiffyn Plant, gan gynnwys Cynadleddau cychwynnol ac adolygol yng Ngwynedd yn unol â gofynion statudol Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
• Gweithredu fel ceidwad Cofrestr Amddiffyn Plant Gwynedd gan sicrhau cydymffurfiad gyda Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
• Cynorthwyo, os oes angen, y Swyddog Dynodedig Diogelu’r Awdurdod Lleol (LADO - Pennaeth Cynorthwyol Plant) o safbwynt materion Rhan 5 gan gynnwys cadeirio Trafodaethau a Chyfarfodydd Strategaeth Broffesiynol (Rhan 5 o’r Gweithdrefnau sydd yn ymwneud a honiadau yn erbyn pobl mewn rôl o ymddiriedaeth.
• Sicrhau trefniadau amddiffyn plant effeithiol o safbwynt proseau ac ymarfer, gan gynnwys:
• Miniogi trefniadau ar gyfer Cynadleddau Achos gan gynnwys trefniadau cyn y Gynhadledd, sut mae’r Gynhadledd yn cael ei chynnal a’i fonitro.
• Sicrhau cywirdeb cofnodion Cynhadledd Achos a phrydlondeb eu dosbarthu
• Sicrhau fod llais y plentyn yn ganolog i drafodaethau.
• Sicrhau fod plant a theuluoedd yn cael gwahoddiad a bod pob cyfle iddynt gymryd rhan yn y Gynhadledd.
• Ymarfer mewn ffordd mor gydweithredol â phosibl.
• Sicrhau fod yr asesiadau risg o niwed arwyddocaol o safon uchel.
• Sicrhau fod yr hyn sydd angen newid i gadw’r plentyn yn ddiogel yn cael ei ystyried yn glir a’i ddeall ac yn sail i’r Cynllun Amddiffyn Plant.
• Arwain ar reoli perfformiad ym maes amddiffyn plant yng Ngwynedd, monitro a dadansoddi gwybodaeth ystadegol, adrodd ar berfformiad ac adnabod meysydd gwella.
• Sicrhau fod pob plentyn ar y Gofrestr Amddiffyn Plant gyda gweithiwr dynodedig, fod Grŵp Craidd yn cael ei ffurfio ac yn weithredol a bod y meysydd sydd angen sylw trwy’r Cynllun Amddiffyn Plant wedi ei adnabod yn y Gynhadledd Achos.
• Ar gyfer Cynadleddau Adolygiadol, sicrhau fod y Cynllun Amddiffyn yn cael ei adolygu, gan wirio cynnydd a sicrhau fod unrhyw newidiadau sydd ei angen i’r Cynllun, yn cael ei drafod yn y Gynhadledd.
• Hyrwyddo gwaith aml asiantaethol ym maes amddiffyn plant, gan sicrhau cyfraniad asiantaethau o Gynadleddau, Grwpiau Craidd a Chynlluniau Amddiffyn Plant.
• Arwain ar ddatblygu ymarfer rheng flaen ym maes amddiffyn plant yng Ngwynedd, gan hyrwyddo safonau uchel o ymarfer a gweithredu modelau gwaith sydd wedi eu mabwysiadu yn lleol fel y Model Risg ac Amddiffyn Plant yn Effeithiol.
• Datblygu polisïau a gweithdrefnau yn ôl yr angen ym maes amddiffyn plant.
• Cynhyrchu adroddiadau a’u cyflwyno yn ôl yr angen.
• Sicrhau fod systemau eraill wedi eu hintegreiddio efo’r Gofrestr Amddiffyn Plant yn ôl yr angen, fel trefniadau olrhain ‘plant ar goll’ neu ‘pobl sydd yn peri risg i blant.’
• Cyfrannu ar ddatblygiad parhaus yn y maes gan gymryd rolau cynghori, ymgynghorol, mentora a hyfforddiant yn ôl yr angen, a darparu cyflwyniadau yn ôl yr angen.
• Cyfrannu at adolygiadau mewn achosion difrifol, gwaith lleol, rhanbarthol a gwaith is-grwpiau rhanbarthol ym maes amddiffyn plant
• Gweithio o fewn canllawiau a pholisïau adrannol ynghyd a gofynion statudol.
• Datblygu’n broffesiynol yn barhaus gan dderbyn goruchwyliaeth, mynychu hyfforddiant a chyfarfodydd tîm a gwasanaeth.
• Cynnal cofrestriad fel Gweithiwr Cymdeithasol Cofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
• Gweithio fel aelod o’r Uned Diogelu ag Ansawdd, gan gyfrannu at ddatblygiad gwaith ehangach yr Uned.
• Cyfrannu at waith cyffredinol yr Uned Ddiogelu ag Ansawdd, gan gynnwys cadeirio cyfarfodydd eraill (megis Panel Cam-fanteisio) neu gefnogi os oes angen Adolygiadau Statudol Plant Mewn Gofal, Adolygiadau Lleoliadau Diogel neu gyfarfodydd PLO.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn mewn risg yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau Arbennig. . E.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.b.
• Parodrwydd i weithio oriau hyblyg yn achlysurol/fel bo’r angen
• Trwydded yrru llawn
• Mae’r swydd hon wedi ei heithrio o dan Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974. Yn sgil hyn bydd angen gofyn i’r Swyddfa Gofnodion Troseddol am ddadleniad ar ymgeiswyr llwyddiannus. Bydd y Cyngor yn darparu ffurflen briodol i’r preswyl hwn ac yn talu’r ffi gysylltiedig. Darperir manylion pellach ynglŷn â’r broses yn ôl yr angen
• Disgwylir bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru a cynnal eu cofrestriad gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn cydymffurfio a’r Côd Ymarfer Proffesiynol.
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.