Pwrpas y Swydd
- Dirprwyo i Reolwr Meddiannaeth y Rhwydwaith.
- Cynorthwyo gyda'r gwaith o reoli meddiannaeth y rhwydwaith a rheoli llwythi annormal ar ran yr Asiant. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod ACGChC yn cyflawni'r dyletswyddau statudol dirprwyedig, gorfodaeth reolaethol, polisïau, prosesau a gofynion eraill ynghylch:
- Deddf Priffyrdd 1980 (DP);
- Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (DFfNGS);
- Deddf Rheoli Traffig 2004 (DRhT);
- Deddfau Traffig Ffyrdd (DTFf);
- Rheolaeth Gynllunio
- Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (LlCChCLlC)
- Cynorthwyo i ddarparu cyngor polisi a deddfwriaethol arbenigol a chefnogaeth i Lywodraeth Cymru a chyngor technegol gweithredol a chefnogaeth i dimoedd Busnes a Gweithrediadau Rhwydwaith.
Cyfrifoldeb dros swyddogaethau . e.e. staff, cyllid, offer
.
• Cyfrifoldeb rheoli am Technegydd Meddiannaeth y Rhwydwaith.
• Gweinyddu ffioedd archwiliadau, dirwyon gorfodaeth ac incwm eraill;
• Ffôn symudol, gliniadur, Offer Diogelu Personol.
Prif Gyfrifoldebau
Dirprwyo i Reolwr Meddiannaeth y Rhwydwaith.
Mynychu'r isod ar ran Rheolwr Meddiannaeth y Rhwydwaith:
Grŵp gwaith stryd CSS, cyfarfodydd Pwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chwmnïau Gwasanaeth (HAUC) lleol a chenedlaethol, a chyfarfodydd Cydlynu Awdurdodau Partner (AP) yn ôl yr angen.
Cynrychioli'r Asiant ar faterion yn ymwneud â meddiannaeth y rhwydwaith wrth gysylltu ag eraill gan gynnwys Llywodraeth Cymru a’u cyflenwyr, Darparwyr Gwasanaeth Awdurdodau Partner, Dylunwyr, Contractwyr, Cwmnïau Gwasanaeth, Datblygwyr, Asiant Cefnffyrdd De Cymru, Highways England, A55 UK Highways Ltd, Awdurdodau Priffyrdd cysylltiedig, GeoPlace, yr Heddlu a Gwasanaethau Brys eraill, a mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Cwmnïau Gwasanaeth ac Awdurdodau Priffyrdd.
Rheoli Meddiannaeth y Rhwydwaith
Cynorthwyo gyda swyddogaethau rheoli gwaith stryd yn cynnwys y Rhestr Strydoedd Cenedlaethol, Data Stryd Ychwanegol, gosod hysbysiadau, cydlynu, archwiliadau, adferiadau, rheoli arwynebedd ffordd, rheoli digwyddiadau, cyfnodau embargo.
Cynorthwyo gyda rheoli llwythi annormal;
Cynorthwyo gyda rheoli gorchmynion a hysbysiadau traffig parhaol / dros dro;
Cynorthwyo gyda gofynion priffyrdd yn ymwneud â rheoleiddio a gorfodaeth gan gynnwys arwyddion anghyfreithlon, rhwystrau, gwaith, coed 'peryglus', caniatâd a thrwyddedau gwaith stryd ar gyfer sgipiau a sgaffaldiau, gwerthu mewn encilfeydd, caniatâd signalau traffig dros dro;
Cynorthwyo gyda lleihau tagfeydd ac aflonyddwch ar y rhwydwaith drwy adnabod problemau a chysylltu â budd-ddeiliaid;
Cynorthwyo gyda datblygiad a gweithrediad prosesau ar gyfer rhoi cyngor i LC ynghylch ceisiadau Rheolaeth Ddatblygu gyferbyn â’r rhwydwaith cefnffyrdd.
Cynorthwyo Rheolwr y Rhwydwaith, y Rheolwr Cyflawni a staff eraill yr Asiant gyda materion rheoli rhwydwaith ehangach, er enghraifft:
• Rheoli digwyddiadau e.e. cynlluniau a phrosesau wrth gefn;
• Rhaglennu gwaith.
• Rheolaeth Ddatblygu
Cynorthwyo gyda diogelu isadeiledd cefnffyrdd rhag niwed e.e. rheoli cofnodion rhestr eiddo ar gyfer offer tanddaearol ac ar y ddaear ar gefnffyrdd a gofynion arbennig i ymgymerwyr statudol;
Cynorthwyo gyda'r gwaith o greu a rheoli systemau rheoli meddiannaeth y rhwydwaith, polisïau a phrosesau;
Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
Mae’n gyfrifoldeb i bob gweithiwr yr Asiant gydymffurfio â pholisïau Iechyd a Diogelwch, Amgylcheddol ac Ansawdd fel y’u diffinnir yn System Rheoli Busnes yr Asiant.
Sicrhau y glynir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Cyfrifol am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
Cyffredinol
Cysylltu, fel bo’n briodol, â swyddogion yr Asiant, Swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a chyrff perthnasol eraill.
Sicrhau y glynir at reoliadau a gweithdrefnau ariannol yr Asiant a LlC.
Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol a datblygiadau eraill yn y diwydiant gan gynnwys dulliau newydd gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.
Ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol.
• Cyfrifol am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle gan gynnwys gweithgareddau ar y safle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
• Bydd y swydd hon yn gofyn am weithio achlysurol y tu allan i oriau gweithio arferol.
• Ymweld â safleoedd adeiladu.
• Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill yn y DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).
Mae’r uchod yn amlinelliad o’r dyletswyddau, er mwyn rhoi syniad o lefel y cyfrifoldeb sydd ynghlwm â’r swydd. Nid yw’r swydd ddisgrifiad yn gyflawn o ran y manylion, a gall dyletswyddau’r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid natur a lefel cyfrifoldeb sylfaenol y swydd.