skip to main content
header_main

Manylion

Cartref > Trigolion > Swyddi > Swyddi ar lein > Manylion swydd

Swyddi ar lein

Uwch-reolwr Polisi Swydd - Cyflogwyr Sector Cyhoeddus

£43,785 - £51,839 y flwyddyn

Cyfeirnod personel:
24-27536
Teitl swydd:
Uwch-reolwr Polisi Swydd - Cyflogwyr Sector Cyhoeddus
Adran:
Swyddi cyffredinol
Gwasanaeth:
Swyddi cyffredinol
Dyddiad cau:
02/09/2024 04:00
Cyflog:
£43,785 - £51,839 y flwyddyn
Lleoliad(au):
Cymru

Manylion

Hysbyseb Swydd

Swydd Wag: Uwch-reolwr Polisi Swydd - Cyflogwyr Sector Cyhoeddus

 

Lleoliad: Cymru gyfan

Mae partneriaeth gymdeithasol yn ffordd o weithio sy'n dwyn ynghyd y llywodraeth, cyflogwyr ac undebau llafur mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin i nodi a gweithredu atebion sy'n arwain at ganlyniadau gwell.

Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn fodel o bartneriaeth gymdeithasol sy'n dod â Llywodraeth Cymru, Undebau Llafur a chyflogwyr gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd i fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd a rennir ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a'r gweithlu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. 

Bydd deiliad y swydd hon yn un o dri Uwch-reolwr Polisi, a fydd yn cael eu recriwtio o bob un o'r partneriaid - yr Undebau Llafur, Cyflogwyr a Llywodraeth Cymru - i arwain ar y gwaith o ymgysylltu â phartneriaethau cymdeithasol â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru, cyflawni rhaglen waith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a darparu'r Ysgrifenyddiaeth i Gyngor Partneriaeth y Gweithlu. Bydd deiliad y swydd hon yn Uwch Reolwr Polisi wedi'i recriwtio o gefndir Cyflogwr Sector Cyhoeddus.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu darnau penodol o waith yn unol â rhaglen waith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, gan weithio'n uniongyrchol i'r Pennaeth Ymgysylltu Partneriaeth Gymdeithasol. Bydd natur benodol y swydd yn datblygu dros gyfnod o amser wrth i fanylion y rhaglen waith ddatblygu. 

Cliciwch ar y ddolen isod i wneud cais ac am ragor o wybodaeth am y cyfle hwn, gan gynnwys prif gyfrifoldebau'r rôl a'r broses asesu.

Cyflog: £43,785 to £51,839.

Patrwm gwaith: Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd).

Math o gyfle: Secondiad.

Dyddiad Cau: 02/09/2024, 16:00.

Dolen i ymgeisio: Uwch-reolwr Polisi Swydd - Cyflogwyr Sector Cyhoeddus - (tal.net)

 

Enw cyswllt os hoffech fwy o wybodaeth am y swydd:

pgcgt@llyw.cymru

Chwilio am swydd