Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Ymgymryd yn arferol fel rhan o dîm gwaith glanhau rhannau penodedig ar safle’r ysgol i sicrhau eu bod yn cael eu cadw’n lân ac mewn cyflwr a fydd yn hybu iechyd.
•Mae’r ysgol hon wedi ymrwymo i diogelu a hyrwyddo lles plant a phobl Ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer
Prif ddyletswyddau
•Glanhau, golchi, brwsio, defnyddio sugnydd llwch.
•Gwagio biniau ysbwriel ac ail gylchu .
•Dwstio a sgleinio y rhannau penodol ac hefyd dodrefn a ffitiadau.
•Glanhau toiledau a mannau cawodydd a chyflenwi papur toiled a sebon.
•Bydd gofyniad i ddefnyddio, pan yn briodol ac angenrheidiol, gyfarpar pwerddreif.
•Gall y dyletswyddau amrywio o dymor i dymor ac ar adegau pan fydd yr ysgol ar gau.
•Bydd hefyd, pan fo’r galwad, reidrwydd i chwi symud i rannau eraill o’r ysgol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
Click here to enter text.