Swyddi ar lein
Rheolwr Llwybr Cynorthwyol
£37,336 - £39,186 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27514
- Teitl swydd:
- Rheolwr Llwybr Cynorthwyol
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Rheoli Rhwydwaith
- Dyddiad cau:
- 29/08/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £37,336 - £39,186 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS1
- Lleoliad(au):
- NMWTRA, Ladywell House, Park St, Newtown
Manylion
Hysbyseb Swydd
Rheolwr Llwybr Cynorthwyol Canolbarth
CYFLOG: PS1 SCP 29-31 £37,336 - £39,186
LLEOLIAD: Drenewydd, Powys
Cynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr i sicrhau y darperir rhwydwaith cefnffyrdd dibynadwy yng ngogledd a chanolbarth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru (LlC) ac i reoli’r gweithgarwch gweinyddol cynnal a chadw, gweithredol a thechnegol.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd uchod, cysylltwch â Andrew Jones 07917 072520 Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol a Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076. Dyddiad Cau: 10.00yb, DYDD IAU, 29 Awst 2024. Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd |
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu gweithio mewn tîm.
Hunan-reolaeth.DYMUNOL
Sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau ysgrifennu adroddiadau sylfaenol sy’n briodol i’r swydd
Hyder wrth ymwneud â chontractwyr neu weithwyr statudol eraill.CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
HNC neu gymhwyster cyfwerth ynghyd â phrofiad perthnasol, neu
brofiad perthnasol eang.Cymwysterau a hyfforddiant NRSWA i Oruchwylwyr (neu o fewn 6 mis o’r dyddiad penodi)
DYMUNOL
Gradd mewn peirianneg sifil neu bwnc perthnasol.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Cynnal a chadw neu wella priffyrdd ar rwydwaith cefnffyrdd neu briffyrdd allweddol.DYMUNOL
Arolygiadau ac asesiadau priffyrdd
Ymdrin â chwynion,
Rheoli argyfyngau;
Goruchwylio contractau neu DSOs (Sefydliadau Llafur Uniongyrchol) mewnol neu weithlu arall.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gweithgareddau cynnal a chadw priffyrdd a deddfwriaeth gysylltiol.
Safonau rheoli traffig.
Yn wybodus o TG.
Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch.
Trwydded yrru ddilys gyfredolDYMUNOL
Cyfarwydd â systemau rheolaethol cyfrifiadurol.
Gwybod am Archebu Gwaith neu systemau caffael eraill.
ANGHENION IAITH
HANFODOL
Gwrando a Siarad – Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall – Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu – Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
• Cynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr i sicrhau y darperir rhwydwaith cefnffyrdd dibynadwy yng ngogledd a chanolbarth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru (LlC).• Cynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr i reoli’r gweithgarwch gweinyddol cynnal a chadw, gweithredol a thechnegol.
• Rheoli gofynion arolygu ac ymchwilio ffyrdd y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd (NRSWA) a gweithredu'r Codau Ymarfer perthnasol ar y rhwydwaith cefnffyrdd ar ran Tîm Meddiannaeth y Rhwydwaith ACGCC.
• Cynorthwyo i sicrhau cydymffurfiaeth gyda darpariaethau gorfodaeth a thrwyddedu Deddf Priffyrdd 1980.
Cyfrifoldeb am swyddogaethau . e.e. staff, cyllidebau, offer
• Cyfrifol am reoli a chomisiynu rhaglenni gwaith cynnal a chadw wedi'i gynllunio, gwaith adweithiol a chyllidebau priodol ar gyfer cynnal a chadw’r rhwydwaith cefnffyrdd, gan ddefnyddio contractwyr sector cyhoeddus a phreifat yn y gadwyn gyflenwi.• Cyfrifol am gadw trosolwg ar y gwaith cynnal a chadw a gweithrediadau eraill o fewn y rhwydwaith cefnffyrdd.
• Cyfrifol am gomisiynu a chadw trosolwg ar Ddarparwyr Gwasanaeth a chontractwyr ACGCC sy'n ymgymryd â gweithgareddau mewn sefyllfaoedd argyfyngus ar y rhwydwaith cefnffyrdd.
Prif Ddyletswyddau .
ArolygiadauCydweithio gyda swyddogion Arolygu i sicrhau y cwblheir yr holl arolygiadau, patrols a’r mesuriadau arferol ac arbenigol ar elfennau perthnasol y rhwydwaith yn unol â Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd LlC (WGTRMM) neu unrhyw gynlluniau mabwysiedig eraill.
Cydweithio gyda swyddogion Arolygu i gynnal arolygiadau arbenigol ac adweithiol o’r isadeiledd yn ôl gofyn y Rheolwr/Rheolwyr Llwybr a diweddaru Cronfeydd Data LlC ar y cyd â’r timau Cyflawni ac Arolygu.
Rheoli arolygiadau gwaith stryd Adran 75 a gweithgareddau gwaith arolygu Adran 72 ar ran Tîm Meddiannaeth ACGCC (awdurdod strydoedd) fel sy'n ofynnol o dan y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd .
Cynnal a chadw
Sicrhau yr ymatebir yn briodol i rwystrau, namau a diffygion a nodir gan batrolau arolygu ac ati o fewn yr amserlenni gofynnol, gan gynnwys comisiynu, rheoli a goruchwylio gwaith brys ac unrhyw waith adweithiol arall yn ôl y gofyn gan ddefnyddio’r adnoddau priodol a mecanweithiau caffael.
Monitro’r gweithrediadau ar y rhwydwaith perthnasol a sicrhau diogelwch defnyddwyr y cefnffyrdd cymaint â phosib.
Monitro’r darpariaethau a’r rhagofalon rheoli risg a ddefnyddir gan y sawl sy’n cyflawni unrhyw weithrediadau o fewn y rhwydwaith.
Gweithredu’r gofynion sy’n berthnasol ar y ffyrdd o Ddyletswydd Adran 81 i Gynnal a Chadw Cyfarpar o dan NRSWA ac Adrannau 41 & 150 y Ddeddf Priffyrdd.
Asesu a chymeradwyo ceisiadau am drwyddedau, er enghraifft i leoli sgipiau, sgaffaldau, hysbysfyrddau neu wneud gwaith cloddio ar y rhwydwaith cefnffyrdd gan sicrhau y cydymffurfir â Deddf Priffyrdd 1980, ynghyd â thelerau ac amodau'r drwydded.
Cynorthwyo i reoli pob agwedd o gynnal a chadw a gweithrediaeth y rhwydwaith cefnffyrdd.
Cyfrifol am gydlynu, cadw trosolwg a goruchwylio rhaglenni’r gweithgareddau cynnal a chadw arferol a chylchol fel a bennir gan y Rheolwr Llwybrau.
Asesu cyflwr yr isadeiledd priffyrdd, ar ôl cynnal gwaith ac i awdurdodi ailagor ffyrdd pan fo hynny’n briodol.
Monitro ac ymateb i weithgareddau, gan gynnwys:
• Ymateb mewn tywydd garw, gan gynnwys patrolau llifogydd
• Cynnal a chadw yn y gaeaf
• Ailosod Gwaith Stryd
• Tipio slei bach
• Arwyddion heb eu hawdurdodiRheoli gweithgareddau cynnal a chadw adweithiol a brys, sy’n cynnwys:
• Difrod damweiniau ffyrdd
• Coed peryglus
• Cynnal a chadw lleiniau gwelededd
• Malurion ar y ffyrdd
• Unrhyw ddiffygion neu rwystrau sy’n berthnasol i ddiogelwch ac sydd angen sylw ar frysCysylltu â Thîm Meddiannaeth y Rhwydwaith ACGCC, Cydlynwyr Gwaith Stryd priodol eraill a thimau Cyflawni ac Arolygu ACGCC o ran rhaglennu gwaith a gwyriadau.
Cynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr i adnabod, rhaglennu a gweithredu rhaglenni cynnal a chadw neu wella sy’n cynnwys gwariant refeniw a/neu gyfalaf.
Cysylltu ag eraill o ran materion cefnffyrdd, gan gynnwys:
• Llywodraeth Cymru a'u Darparwyr Gwasanaeth
• Swyddogion Traffig ACGCC a Chanolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru
• Gwasanaethau Brys
• Darparwyr Gwasanaeth yr Asiantaeth Cefnffyrdd
• Sefydliadau statudol e.e. cyfleustodau, Cyfoeth Naturiol Cymru, Highways England ac ati.
• Aelodau o’r cyhoedd;
• Perchnogion a datblygwyr tir;
• Eraill y cytunir arnynt â’r Rheolwr Llwybr.Rhestr Gynnwys a Chofnodion Gweithredol
Cynorthwyo’r Rheolwr Llwybr a'r Tîm Cyflawni ac Arolygu i gasglu a chynnal a chadw gwybodaeth rhestr gynnwys isadeiledd cefnffyrdd.
Cynnal a chadw cofnodion gweithredol e.e. log digwyddiadau.
Rôl Rheoli Archwilio a Pherfformiad
Ymgymryd â rhaglen o fonitro, archwilio ac ymchwilio ar gyfer gweithgareddau a ymgymerir gan ddarparwyr gwasanaeth neu eraill (e.e. cyfleustodau) mewn perthynas ag Adran 65 NRSWA a PR 1.1.21.7 o WGTRMM.
Sicrhau cydymffurfiaeth â manylebau a safonau.
Monitro perfformiad Darparwyr Gwasanaeth ac ymdrin â materion tanberfformio yn unol â gofynion yr Asiantaeth.
Rôl Rheoli Digwyddiadau
Ymgymryd â rôl Rheolwr Comander (Gweithredol) Efydd yr Asiantaeth pe bai digwyddiad brys fel y diffinnir dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004.
Cynorthwyo mewn sefyllfaoedd argyfyngus i:
• Weithredu cynlluniau rheoli traffig, cau ffyrdd a gwyro llwybrau yn briodol.
• Gweithredu gwaith atgyweirio brys, neu lanhau isadeiledd priffyrdd.
• Asesu cyflwr isadeiledd priffyrdd, ar ôl digwyddiad ac awdurdodi ailagor y ffordd pan fo hynny’n briodol.Rôl Rheoli Risgiau
Cynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr i reoli risgiau ar y rhwydwaith cefnffyrdd drwy adnabod y risgiau. Sicrhau y gweithredir mesurau lleihau risg priodol e.e. ymdrin â rhwystrau neu ddiffygion Categori 1 a 2.
Gweinyddiaeth Dechnegol
Cynorthwyo’r Uned Fusnes i ddarparu gwybodaeth a chyngor ynghylch:
• hawliadau trydydd parti, hawliadau ad-dalu,
• adfer ffioedd sampl Adrannau 74 (Meddiannaeth) a 75 NRSWA,
• comisiynu a rheoli costau,
• ymgysylltu ag Awdurdodau sy’n BartneriaidCynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr gyda phrosesau Rheolaeth Datblygu.
Rheoli Asedau
Cysylltu, hysbysu a chydweithredu â staff eraill yr Asiantaeth a’r Awdurdodau sy’n Bartneriaid wrth weithio ar fathau penodol o isadeiledd gan gynnwys:
• Asedau trydanol e.e. goleuo stryd;
• Arwyddion traffig e.e. diffygion goleuo ar arwyddion terfynol;
• Asedau strwythurol e.e. waliau cynnal;
• Asedau priffyrdd e.e. adeiladwaith y ffyrdd cerbydau;
• Asedau Geodechnegol e.e. rhwydo creigiau;
• Elfennau meddal yr ystâd e.e. torri gwair.Sicrhau y caiff cofnodion priodol eu cadw, gan gynnwys cynorthwyo i gynnal a diweddaru gwybodaeth rhestrau cofnodi isadeiledd.
Cyffredinol
Sicrhau bod materion Iechyd a Diogelwch yn derbyn ystyriaeth lawn ac yn cael eu rheoli ym mhob agwedd o waith yr Asiantaeth.
Cynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr a Darparwyr Gwasanaethau i sicrhau cydymffurfiaeth â:
• Gweithdrefnau Iechyd a diogelwch ACGCC;
• Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli);
• Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.Ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol.
Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol a datblygiadau eraill yn y diwydiant gan gynnwys dulliau newydd gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.
Cefnogi a chynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr i gyflawni ei/eu dyletswyddau a chyfrifoldebau.
Cynorthwyo aelodau staff eraill yr Asiantaeth i gyflawni eu dyletswyddau technegol, ariannol a gweinyddol.
Cyfathrebu’n effeithiol ac yn gwrtais gydag aelodau etholedig, y cyhoedd, aelodau a swyddogion Llywodraeth Cymru yn ogystal â sefydliadau a chyrff allanol eraill.
Cydlynu a chysylltu â staff o Adrannau eraill o fewn y Cyngor, ac Awdurdodau sy’n Bartneriaid er mwyn hyrwyddo rheoli’r Asiantaeth yn effeithiol.
Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a ymgymerir gan staff yr ydych yn eu rheoli.
Canfod a chadw’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch safonau proffesiynol, gofynion statudol, datblygiadau technegol a rhaglenni cyfrifiadurol.
• Cyfrifoldeb am hunan-ddatblygiad.
• Wrth gyflawni’r dyletswyddau uchod, cysylltu, fel y bo’n briodol, â swyddogion Llywodraeth Cymru, Awdurdodau sy'n Bartneriaid a chyrff perthnasol eraill.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Rhestr enghreifftiol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod â swyddogaeth yn y broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd ac ysgwyddo cyfrifoldebau eraill perthnasol i natur ac i raddfa’r swydd ar gais gan y Rheolwr/Rheolwyr Llwybr.
Amgylchiadau Arbennig . e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
• Rhaid i ddeilydd y swydd fod ar gael i weithio oriau y tu allan i oriau gwaith arferol (rhwng 08:00 a 18:00 yn unol â'r cynllun oriau hyblyg) fel bo’r gofyn a chynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr mewn perthynas â gwaith neu weithgareddau arferol.• Bydd yn rhaid i ddeilydd y swydd fod yn rhan o drefniadau rota 24 awr ar alw / wrth gefn yn ôl yr angen i gynorthwyo’r Rheolwr/Rheolwyr Llwybr gyda rheoli digwyddiadau neu weithgareddau cynnal a chadw adweithiol.
• Disgwylir i ddeilydd y swydd ymgymryd â hyfforddiant yn ôl y gofyn.
• Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill yn y DU yn achlysurol (e.e. Llandrindod, Caerdydd).