Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo unigolion bregus i fyw eu bywydau yn y modd maent eisiau ei fyw.
•Cefnogi i sicrhau fod anghenion unigolion yn cael eu cyfarch yn unol â threfniadau diogelu y Cyngor a chyfrifoldebau Statudol. Bydd disgwyliad I I gydymffurfio a holl ofynion Deddf Gofal 2016
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Staff – cefnogaeth i’r Rheolwr cofrestredig
•Disgwyliad i ddeilydd y swydd weithio fel rhan o dim drwy gefnogi cydweithwyr.
•Cyllid –cefnogi’r tîm gydag defnydd effeithlon o adnoddau igyfrannu at reoli cyllidebau yneffeithiol
•Offer – cyfrifoldeb am unrhyw offer a ddefnyddir i gyflawni’r swydd. Cyfrifoldeb dros asesu a lle bo’n briodol archebu offer addas yn unol â dyletswyddau ‘Trusted Assessor’.
Prif ddyletswyddau
CEFNOGI’R UNIGOLION SY’N DEFNYDDIO’R GWASANAETH
•Rhagori mewn adeiladu perthynas â phobl er mwyn deall yn iawn beth fyddai'n gwneud gwahaniaeth iddynt yn eu bywydau a grymuso llais yr unigolyn ar bob cyfle.
•Bod yn arloesol a chreadigol wrth roi gofal mewn ffordd sy'n cynnwys pobl yn llawn, sy'n ymdrechu'n barhaus i gynnwys pobl yn y gweithgareddau symlaf hyd yn oed ac sy'n galluogi neu'n ail-alluogi pobl i gymryd rheolaeth o'u bywydau eu hunain.
•Hyrwyddo hawliau'r unigolyn, ac annog cymryd risgiau cadarnhaol a gwybodus.
•Dilyn a datblygu staff i ddilyn ethos sydd yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio gydag unigolion a hyrwyddo eu annibyniaeth. Gall hyn olygu gweithredu dulliau fel Cefnogaeth Gweithgar (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Active support) a Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Positive Behaviour Support),
•Cydweithio gydag unigolion a’r tim i gefnogi amrediad o wasanaethau i gwrdd ag amcanion personol.
•Cyfrannu, Datblygu a monitro’r cynllun gofal ar y cyd gyda’r unigolyn, hyn i’w hyrwyddo a’i annog i fyw eu fywyd mor llawn a phosilb trwy wneud defnydd o unrhyw Adnoddau a gweithgareddau ar gfel yn y gymuned.
•Bydd angen ystyried y risgau a chwblhau’r dogfennaeth perthnasol, yn cynnwys asesiadau risg
•Cyfrannu at y broses asesu, monitro, cynllunio a gweithredu gweithgareddau yn unol ag anghenion defnyddiwr y gwasanaeth. Gall y gweithredoedd yma gynnwys cymeryd rhan mewn rhaglenni, ymarferion ac ymyrraethau penodol.
•Gweithio gyda phobl i helpu a nodi rhwystrau i gyflawni eu canlyniadau, a defnyddio gwybodaeth i drafod gyda’r tîm ehangach, rhoi newid ar waith a dysgu o brofiad.
•Bod yn flaengar ac yn barod i wneud penderfyniadau gwybodus yn annibynnol, tra hefyd yn cymhwyso barn broffesiynol a gwybod pryd i ddenu cefnogaeth gan y tim ehangach a phroffesiynau eraill.
•Arbenigo a dylanwadu mew maes arbennigol.
•Datblygu a chydweithio gyda’r tîm Rheoli yn y cartref, i sicrhau cydymffurfiaeth a threfniadau gwaith.
•Cyfrannu at y broses o asesu monitro chynllunio a gweithredu, arferion gwaith yn y cartref
•Bod yn gyfrifol am gynnal gwaith gweinyddol sy’n berthnasol i’r rôl gan gynnwys cofnodi ac adrodd yn unol â’r canllawiau a osodir gan y Rheolwr ar ran Cyngor Gwynedd.
•Cynorthwyo gydag phenodi ag anwytho staff newydd, gan sicrhau bod dadleniad DBS priodol
•Cefnogi gyda cynllunio rotas a threfniadau yn y cartref yn absenoldeb y rheolwr a’r is reolwr
•Gweithredu a chynnal systemau IT.
•Sicrhau cydymffurfiaeth gydag unrhyw drefniadau rheoli risg â adnabyddir mewn asesiadau risg sy’n berthnasol i’r gwaith.
•Adnabod anghenion nad ydyw’n bosib eu diwallu, cofnodi cyd weithio gyda’r tîm iw datrus.
•Arwain ag Ymateb i sefyllfa argyfwng yn ymwneud a’r defnyddwyr a’r adeilad
•Angen bod yn gymmwys i ymgymryd a monitro a thasgau iechyd
Cofrestriad, Hyffforddiant ac goruchwiliaeth
•Cofrestru a Chynorthwyo gyda’r drefn cofrestru staff a’i bod yn cael eu dilyn , yn unol a gofynnion Gofal Cymdeithasol Cymru. A bod y staff yn ymwybodol o’r cod profesiynnol.
•Cefnogi gyda goruchwylio staff yn effeithiol yn unol a rheoliadau RISCA gall gynnwys monitro llwyth gwaith yr aelod staff. Adolygu Perfformiad blynyddol yn unol a pholisi’r Cyngor. I oruchwilio yn ymarferol dangos i’r staff
•Cefnogi gyda hyfforddi staff iddynt gael y sgiliau angenrheidiol i ymgymryd a’r gwaith gan ddiweddaru eu rhaglen hyfforddi
•Cynnal a chefnogi gyda’r drefn o weinyddu a dosbarthu meddyginiaeth yn unol a polisi’r gwasanaeth ac mewn cydweithrediad a’r fferyllfa lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol. Bod yn gefnogaeth i staff.
•Cefnogi gyda cymhwysterau meddiginiaeth staff
•Bod yn barod i ymgymryd a rôl ‘champion’ i’r gwasanaeth ac i arbennigo mewn maes fydd yn cefnogi’r gwasanaeth, ac yn rol arweiniol fydd yn datblygu staff eraill
Cyfathrebu a pherthnasau
•Mynychu cyfarfodydd staff , gan gymerid rôl arweinol pan fydd y gofyn.
•Gweithio mewn partneriaeth â chydweithywr ym maes iechyd a gofal, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsus seiciatrig cymunedol, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapi, meddygon teulu a phartnertiad 3ydd sector.
•Mynychu adolygiadau amlddisgyblaethol.
•Cefnogi a chynorthwyo gyda’r broses yn dilyn cwynion a chanmoliaethau,
•Cefnogi gyda chofnodi trefniadau absenoldebau salwch staff yn unol a polisiau’r gwasanaeth/adnoddau Dynol.
•Ymarfer mewn modd sy’n egwyddorol yn unol â chod ymarfer proffesiynol ar gyfer gofal cymdeithasol.
•Rhoi ystyriaeth i risg, diogelu ac amddiffyn oedolion. Delio ac unrhyw bryderon amddiffyn oedolion yn brydlon a phriodol drwy ddilyn y weithdrefn a gytunwyd a hysbysu’r swyddogion proffesiynol perthnasol heb oedi.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
•CYFRIFOLDEBAU ERAILL
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol yn ôl yr angen.
•Disgwyliad i weithio y tu hwnt i ffiniau ardal waith yn achlysurol -
•Bydd disgwyliad i ddeilydd y swydd fod yn rhan o unrhyw drefniadau gaiff eu sefydlu ar sail rota ac i weithio dros benwythnosau
•Cynorthwyo a chefnogi gyda’r drefn ’Ar Alwad’ pan fydd angen
•MAE DISGYWLIAD I FOD YN BAROD I SYMUD A GWEITHIO MEWN GWASANAETH/MAES GWAHANOL MEWN ARGYFWNG