SWYDD: Uwch Cymhorthydd Cyflenwi ( Lefel 3)
ORIAU GWAITH: 27.5 awr yr wythnos
(38 wythnos tymor ysgol) 5 diwrnod HMS, a cyfwerth a wythnos gwaith yn ystod gwyliau.
YSTOD CYFLOG: Graddfa GS4 (Pwyntiau 7-11)
YN ATEBOL: Pennaeth
PWRPAS Y SWYDD
• Bydd yr Uwch Gymhorthydd Cefnogaeth Dysgu yn gyfrifol am oruchwylio dosbarthiadau yn unol â rhestr cyflenwi’r ysgol yn ystod absenoldebau staff dysgu.
• Sicrhau cefnogaeth i ddisgyblion unigol ac i grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu. Gallai hyn gynnwys y rhai sydd angen gwybodaeth fanwl ac arbenigol mewn meysydd penodol.
• Cyfrannu at gylch cynllunio’r athro er mwyn sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i ddysgu.
Bydd yn gweithio fel rhan o dîm o staff ategol ac yn rhannu’r dyletswyddau canlynol:-
PRIF DDYLETSWYDDAU
Cefnogaeth dosbarth
• Cefnogi grwpiau penodol o ddisgyblion
• Sicrhau bod unrhyw waith sydd wedi cael ei osod i’r disgyblion gan yr athro/athrawes yn cael ei gwblhau yn ystod y wers.
• Sicrhau ymddygiad da yn y dosbarthiadau.
• Rhoi cymorth i ddisgyblion o fewn a thu allan i ddosbarthiadau gan ddilyn cyfarwyddiadau gan reolwyr yr ysgol.
• Paratoi'r ystafelloedd arholiadau mewn cydweithrediad gyda’r gofalwr a’r Swyddog Arholiadau /Pennaeth Cynorthwyol (Systemau) mewn da bryd cyn yr arholiad.
• Arolygu arholiadau mewnol ac allanol yr ysgol yn unol â’r rhestr ddyddiol gan sicrhau bod rheolau’r arholiad (gweler rheolau C.B.A.C. yn cael eu cadw’n gaeth.)
Cefnogaeth Ysgol
• Bod yn ymwybodol o’r polisïau a’r gweithdrefnau perthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeled, cyfrinachedd ac amddiffyn data, a chydymffurfio â hwy, gan adrodd am bob pryder wrth y person priodol.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Newydd.
• Sefydlu perthynas bwrpasol a chyfathrebu gydag asiantaethau eraill, mewn cysylltiad â’r athro/athrawes, i gefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
• Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chyfranogi ynddynt.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo’n ofynnol.
• Adnabod cryfderau a meysydd arbenigedd yr hunan a defnyddio’r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
• Darparu arweiniad a goruchwyliaeth briodol a chynorthwyo yn hyfforddiant a datblygiad staff cynhaliol eraill fel y bo’n briodol.
• Cymryd cyfrifoldeb am ddisgyblion ar deithiau addysgol ac mewn gweithgareddau yn yr ysgol.
• Dyletswydd cinio a iard yr ysgol yn ddyddiol a chadw golwg ar y drefniadaeth.
• Rheoli symudiadau'r disgyblion pan ar y coridorau
• Adrodd i’r Pennaeth / Penaethiaid Cynorthwyol ar unrhyw fater sy’n achosi pryder yn gyffredinol
• Unrhyw ddyletswyddau pellach ar gais y Pennaeth sydd yn gydnaws â’r swydd ddisgrifiad