Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Cynorthwyo swyddog hyfforddiant gyda’r gwaith o ddatblygu a gweithredu cynlluniau cyfathrebu, cynlluniau ymgysylltu a chynlluniau i hyrwyddo gwasanaethau’r Cyngor.
•I gynorthwyo, cysylltu â goruchwylio cyfathrebu mewnol ac allanol ar gyfer yr Adran ar y cyd â'r Uned Cyfathrebu Corfforaethol
•Datblygu ystod lawn o gyhoeddusrwydd a deunydd marchnata ar gyfer gwella cyfathrebu mewnol ac allanol yr Adran.
•Yn gyfrifol am gefnogi ymgysylltiad a chyfranogiad pobl ifanc ar draws Gwynedd
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyllid Marchnata Gwasanaeth Ieuenctid
•Cyllid Fforwm Ieuenctid
•Gliniadur
Prif ddyletswyddau
•Cefnogi’r gwaith o lunio a gweithredu cynllun cyfathrebu a chynllun ymgysylltu y Gwasanaeth Ieuenctid
•Cefnogi’r gwaith o hyrwyddo Rhaglen Gweithgareddau a Phrosiectau, Clwb Ieuenctid Gwynedd a’r Gwasanaeth Ieuenctid i ystod o gynulleidfaoedd mewnol (staff a chynghorwyr) ac allanol (pobl Gwynedd yn gyffredinol a grwpiau penodol yn ôl yr angen).
•Ymchwilio, ysgrifennu a dosbarthu datganiadau i'r wasg ac erthyglau ar gyfer eu dosbarthu i'r cyfryngau lleol a chenedlaethol.
•Sicrhau bod gwybodaeth o ansawdd dda ar gael i gefnogi gweithgareddau ymgysylltu.
•Gweithredu amrywiaeth o dechnegau marchnata, cysylltiadau cyhoeddus ac ymchwil i'r farchnad er mwyn cyrraedd darpar ddefnyddwyr gwasanaethau, gan gynnwys rhai sy’n anodd eu cyrraedd.
•Bod yn gyfrifol am wefannau mewnol ac allanol y Gwasanaeth gan sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru a'u cynnal yn unol â gweithdrefnau ysgrifenedig.
•Cychwyn, datblygu, golygu a dosbarthu newyddlenni yn ôl yr angen.
•Cynhyrchu cyhoeddiadau gwasanaeth, taflenni a deunyddiau hyrwyddo eraill, gan gynnwys cyflwyniadau, seminarau ac arddangosfeydd. Cynorthwyo, fel sy'n angen wrth ymdrin ag ymholiadau ffôn cyffredinol.
•Cynorthwyo'r tîm i baratoi a dosbarthu deunyddiau cyhoeddusrwydd yn ôl yr angen.
•Cyfrifoldeb dros sefydlu, amserlennu a chynnal Fforwm Ieuenctid Gwynedd er mwyn derbyn mewnbwn a rhoi adborth ar benderfyniadau strategol y Cyngor drwy’r flwyddyn.
•Arwain ar ymgysylltu gydag ysgolion / sefydliadau a grwpiau er mwyn sicrhau cyfraniad a mewnbwn cynrhychiolaeth eang o blant a phobl ifanc Cyngor Gwynedd.
•Datblygu cyfleoedd i blant a phobl ifanc Gwynedd ymgyfarwyddo â’r drefn wleidyddol Lleol a Chenedlaethol.
•Hyrwyddo a chydlynnu’r broses o ymgysylltu gyda plant a phobl ifanc ar draws Gwynedd gan adrodd i grwpiau a phwyllgorau o fewn y Cyngor.
•Hwyluso pobl ifanc i feithrin eu sgiliau a’u hyder fel bod cyfranogiad a chyfraniad yn cael eu huchafu a'u bod yn gallu mynegi eu barn.
•Bod yn hyrwyddwr ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc, gan fabwysiadu ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y person ifanc drwy Waith Ieunectid.
•Gweithio gyda tîm cyfathrebu y Cyngor i hyrwyddo cyfleoedd a ymrwymiad pobl ifanc i allu rhannu ei straeon.
•Cyffredinol
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Ar adegau bydd disgwyl i ddeilydd y swydd fo ar gael ar benwythnosau er mwyn mynychu digwyddiadau penodol