Pwrpas y swydd
•Ymgymryd â gwaith gorfodaeth sydd yn deillio o gyfrifoldebau statudol y Cyngor ran rheoli llygredd a gwarchod yr amgylchedd, a thrwyddedu.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer – Offer a ddefnyddir ar gyfer atal llygredd / casglu tystiolaeth / samplo.
•Arian – Cyfrifoldeb achlysurol am arian.
Prif ddyletswyddau
•Cynnal archwiliadau eiddo, yr amgylchedd a gweithgareddau i sefydlu cydymffurfiaeth a deddfwriaeth gyfredol.
•Cwblhau archwiliadau, samplo a phrofion o baramedrau amgylcheddol a chadw cofnodion o gydymffurfiaeth a safonau perthnasol.
•Ymchwilio i gwynion ac achosion o lygredd neu broblemau iechyd cyhoeddus gan gynnwys niwsans statudol ac ymateb yn unol â thargedau sydd wedi eu gosod gan y Gwasanaeth.
•Lle fo angen, cymryd camau gorfodaeth statudol i ddelio gyda diffyg cydymffurfiaeth sylweddol, yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth swyddog gwarchod y cyhoedd a chymeradwyaeth gan Reolwr Gwarchod y Cyhoedd lle fo’n ymarferol bosib.
•Asesu risg, samplo ac ymateb i fethiannau profion neu gwynion mewn perthynas â chyfrifoldeb y Cyngor o dan ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol yn ymwneud a diogelwch dwr yfed o ffynonellau preifat.
•Gorfodi deddfwriaethau mewn perthynas â thrwyddedau a hawlenni sydd yn berthnasol i ddyletswyddau penodol y swydd - megis trwyddedau o dan y Ddeddf Drwyddedu 2003; hap-chware; sefydliadau rhyw; trwyddedau tacsi; meysydd carafanau a gwersylla; delwyr metel scrap; sefydliadau anifeiliaid; a hawlenni amgylcheddol ac amrywiol drwyddedau eraill.
•I gynorthwyo gyda mentrau cynghori ac addysgu busnesau.
•Ymateb yn gyflym ac mewn modd priodol i argyfwng, yn unol â chyfyngiadau awdurdodiad y deiliad.
•Ymgymryd ag asesiadau risg o ymarferion prosesau diwydiannol sydd yn gallu llygru’r aer.
•Cynrychioli’r Cyngor fel tyst arbenigol mewn llysoedd barn.
•Cydymffurfio gyda gweithdrefnau a chanllawiau cyllidol y Cyngor gan gyfeirio’n arbennig at unrhyw ffioedd a dderbynnir.
•Cofnodi gwaith drwy’r dull(iau) sy’n ofynnol ac o fewn yr amserlen ddynodedig.
•Goruchwylio gwaith aelodau eraill o staff megis myfyrwyr ac unigolion dan hyfforddiant, yn achlysurol.
•Dirprwyo ar gyfer swyddogion eraill lle fo amgylchiadau yn mynnu hynny.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig
•Ar brydiau bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynnal archwiliad mewn amgylchedd budur / annymunol.
•O bryd i’w gilydd bydd angen i ddeiliad y swydd weithio yn ystod oriau anghymdeithasol.
•Gall fo angen i’r deilydd gynllunio, gweithredu ac arolygu prosiectau ar gyfer cynnal neu wella iechyd a lles trigolion Gwynedd.