Swyddi ar lein
Cymhorthydd Caffi Hwb Cymunedol Arfon
£23,500 - £23,893 y flwyddyn | Dros dro
- Cyfeirnod personel:
- 24-27399
- Teitl swydd:
- Cymhorthydd Caffi Hwb Cymunedol Arfon
- Adran:
- Oedolion, Iechyd a Llesiant
- Gwasanaeth:
- Anableddau Dysgu
- Dyddiad cau:
- 11/07/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro naw mis | 37 Awr
- Cyflog:
- £23,500 - £23,893 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- GS3
- Lleoliad(au):
- Byw'n Iach Arfon (Tenis) Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Victoria Eve Williams ar 07456 876286
Bydd deilydd y swydd angen paratoi teisennau, bydd hyfforddiant ar gael
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, 11/07/2024
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
•Sgiliau rhyngbersonol wedi'u profi - medru datblygu perthnasau gweithio da, mwynhau cyfarfod / gweithio â phobl ar bob lefel ac o bob cefndir a rhyngweithio mewn modd parchus ac urddasol.
•Personoliaeth agored a chyfeillgar gyda'r gallu i sefydlu cydberthynas gydag amrediad eang o'r gymdeithas.
•Egni a brwdfrydedd
•Egni a dyfalbarhad i sicrhau fod tasgau'n cael eu cwblhau'n llwyddiannus
•Gallu cynnal cyfrinachedd
•Hyderus, hunan-ysgogol, arloesol ac yn medru gweithio dan bwysau
•Ymrwymiad cryf at wasanaethau sy'n seiliedig yn y gymuned
•Gallu gweithio dan bwysau gan ddefnyddio eich menter eich hun a bod yn hunan-ddibynnol
•Ymroddiad i wella ansawdd y gwasanaethau.
•Gonest a dibynadwy
•Gallu gweithio drwy ethos Ffordd Gwynedd a rhannu'r arferion gwaith gyda staff a gwirfoddolwyr (neu fod yn barod i ddysgu a gweithio drwy ethos Ffordd Gwynedd).
•Bydd yr ymgeisydd yn credu'n gryf yn hawliau'r unigolyn a'r hawl i wneud dewisiadau
•Gallu peidio â chynhyrfu pan fo problemau ymddygiad yn codi a gallu tawelu'r sefyllfa heb waethygu'r broblem.
•Rhaid iddo/iddi fod yn unigolyn NA FYDD yn goddef camdriniaeth o unrhyw fath a bod yn barod i hysbysu'r unigolyn priodol o fewn y gwasanaethau am hynny h.y. gweithdrefnau POVA.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
•Trwydded yrru ddilys
•Tystysgrif Hylendid Bwyd ac/neu Ymdrin â Bwyd
Dymunol
•Addysg hyd at safon lefel TGAU neu gyfatebol gydag amrediad o gymwysterau perthnasol.
•QCF/NVQ Lefel 2 - Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)
•Diploma/Tystysgrif mewn Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol
•Cymorth Cyntaf
•Codi a Thrin
•Gwybodus gyda chyfrifiaduron gyda gwybodaeth ymarferol o WORD, EXCEL ac OUTLOOK
Profiad perthnasol
Hanfodol
•Sgiliau trefnu da gan weithio'n drylwyr a manwl
•Dealltwriaeth ymarferol o ofynion Iechyd a Diogelwch.
•Profiad o weithio yn annibynnol ac mewn tîm.
Dymunol
•Profiad blaenorol o gefnogi unigolion gydag anableddau dysgu, ymddygiad sy'n herio gwasanaethau, awtistiaeth ac epilepsi.
•Dealltwriaeth ymarferol o gyllidebau a rheoli cyllidebol
•Dealltwriaeth ymarferol o ofynion ymdrin â bwyd/diogelwch bwyd
•Profiad o gydweithio'n effeithiol gydag amrediad eang o asiantaethau
•Profiad o weithio drwy ddefnyddio dull rhoi'r Person yn Ganolog
•Profiad o ddilyn arferion Cefnogaeth Weithgar
•Profiad o farchnata
•Profiad blaenorol o redeg caffi ac/neu weithgareddau cymunedol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Agwedd broffesiynol a chadarnhaol
•Sgiliau cyfathrebu gwych - sgiliau llafar ac ysgrifenedig clir a chryno
•Sgiliau gwasanaeth cwsmer
•Sgiliau Hylendid Bwyd a Pharatoi Bwyd
•Gallu gweithio dan bwysau a blaenoriaethu gwaith yn effeithiol
•Gallu gweithio fel rhan o dîm lleol ehangach - gallu sefydlu a chynnal perthynas weithio dda â gweithwyr eraill, unigolion o dimau proffesiynol eraill a'r cyhoedd.
•Gallu datblygu, cynllunio, trefnu a gweinyddu gweithgareddau a rhaglenni yn Hwb Cymunedol Arfon i fodloni anghenion yr unigolion sy'n defnyddio ein gwasanaethau a dinasyddion lleol.
•Trwydded yrru lawn
Dymunol
•Sgiliau TG - Gwybodus gyda chyfrifiaduron gyda WORD, OUTLOOK, EXCEL ac ymchwil ar y rhyngrwyd
•Sgiliau cyllidebol ac ariannol
•Gwybodaeth anghenion pobl ag Anabledd Dysgu
•Profiad o weithio o fewn y dull cefnogi Cefnogaeth Weithredol
•Dealltwriaeth o Gefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol
•Gwybodaeth am Dechnegau Cynnwrf Isel
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Bydd Cymhorthydd Caffi Hwb Cymunedol Arfon yn chwarae rhan allweddol i sicrhau fod y caffi yn cael ei reoli a'i redeg yn llyfn o fewn Canolfan Hamdden Arfon.
•Agwedd bwysig o'r swydd yw cynorthwyo i ddatblygu'r hwb a'r caffi, gwneud y defnydd gorau o'r cyfleusterau sydd ar gael a chynorthwyo i adnabod cyfleoedd newydd drwy gynorthwyo gyda marchnata'n effeithiol, rhwydweithio a datrysiadau arloesol.
•Drwy weithio'n agos â'r Tîm Anabledd Dysgu a staff eraill a sefydliadau sectorau statudol, gwirfoddol a masnachol, sicrhau fod yr Hwb a'r Caffi yn gyfleusterau bywiog, sydd wedi'u rheoli'n dda, sy'n gweithredu er budd trigolion a sefydliadau lleol.
•Cynorthwyo, datblygu a gweithredu rhaglenni gwasanaeth dydd unigol a chymunedol i ddefnyddwyr gwasanaeth yng Nghaffi Hwb Cymunedol yng Nghanolfan Hamdden Arfon.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer - Parchu a defnyddio unrhyw offer yn Hwb Cegin yn briodol. Hysbysu rheolwr Hwb Cegin ac/neu'r person sy'n gyfrifol am yr offer am unrhyw ddiffyg yn y gwasanaethau (dwr, trydan, nwy ac ati) cyn gynted â phosib.
Prif ddyletswyddau
Gwaith Tîm
•Cynorthwyo â'r gwaith o baratoi a rhedeg y caffi bob dydd.
•Mynychu cyfarfodydd tîm, cyfarfodydd tîm blaen y ty a chyfarfodydd staff fel bo'n briodol.
•Parodrwydd i fynychu hyfforddiant fel bo'n briodol.
•Paratoi bwyd a diod a weinir yn y caffi.
•Clirio byrddau a golchi llestri i sicrhau fod y caffi yn cael ei redeg yn effeithiol.
•Hunan-reoli - gosod esiampl i eraill trwy fod yn rhagweithiol, yn onest ac yn gyson a thrwy gymryd cyfrifoldeb am yr hyn yr ydych yn ei wneud. Sicrhau cydymffurfiaeth gyda safonau proffesiynol.
•Bod yn aelod cadarnhaol a rhagweithiol o dîm Hwb Cymunedol Arfon.
•Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm, gweithio yn unol â'r polisïau a'r gweithdrefnau fel y cytunwyd gan y tîm cyfan neu yn unol â chyfarwyddiadau'r rheolwyr
•Cymryd rhan yng ngwaith cynllunio, gwneud penderfyniadau a thrafodaethau'r tîm ac mewn ymgynghoriad â'r rhai yr ydych yn eu cefnogi.
•Gweithio'n unol â Ffordd Gwynedd
•Gweithio'n unol â diwylliant y tîm a rhoi cefnogaeth ac anogaeth i holl aelodau'r tîm.
•Datblygu perthnasau cadarnhaol a phroffesiynol â holl aelodau'r tîm.
•Sicrhau lefelau glanweithdra a hylendid uchel bob amser.
•Sicrhau eich bod yn darpari amgylchedd gynnes a chroesawgar a bod y gwasanaeth cwsmer yr ydych yn ei ddarparu yn effeithlon a rhagorol.
•Cynnal lefelau cyfathrebu gwych â'r holl staff/gwirfoddolwyr a chyda staff y Ganolfan Hamdden.
Hyfforddiant a Datblygiad Personol
•Cymryd rhan weithredol yn eich sesiynau goruchwylio a gwerthuso gyda Rheolwr yr Hwb Cymunedol a chwilio am y rhaglenni Dysgu a Datblygu o fewn y Cyngor sy'n angenrheidiol ar gyfer eich datblygiad proffesiynol i helpu i sicrhau fod y gwasanaeth yr ydych yn ei ddarparu'n bodloni anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
•Adnabod eich anghenion hyfforddiant eich hun mewn partneriaeth â Rheolwr yr Hwb Cymunedol a gofyn am gymorth (os oes angen) i gael yr hyfforddiant yr ydych wedi'i adnabod.
•Mynychu unrhyw hyfforddiant sydd wedi'i adnabod.
Diogelu
•Bod yn ymwybodol o fregusrwydd y bobl yr ydych yn gweithio â hwy a bod yn ymwybodol o'r posibilrwydd o gam-drin.
•Defnyddio polisïau lleol a chenedlaethol i adnabod, cofnodi, adrodd a chymryd rhan mewn protocolau diogelu a sicrhau fod yr holl staff a gwirfoddolwyr yn ymwybodol o'r gweithdrefnau i'w dilyn.
•Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Cyllid
•Ymdrin ag arian parod, rheoli fflôt a chysoni'r til bob dydd
•Cymryd rhan mewn hyfforddiant i staff/gwirfoddolwyr ar weithrediadau til, a gweithredu diweddariadau til a phrisio
•Cynorthwyo Rheolwr yr Hwb Cymunedol i ddarparu adroddiadau cywir ar wariant ac incwm.
Rheoli Stoc, Glanhau ac Offer
•Cynorthwyo i archebu a storio bwyd, diodydd a chynnyrch glanhau a chynorthwyo ag unrhyw newidiadau stoc neu ofynion ychwanegol
•Cynorthwyo â'r cyfrif stoc bob chwarter
•Cynorthwyo i sicrhau lefelau stoc digonol o ddeunyddiau tafladwy
•Cynorthwyo â dyletswyddau rota glanhau y caffi, glanhau ardal y caffi'n drwyadl a chwblhau cofnodion iechyd a diogelwch dyddiol.
•Hysbysu rheolwr Hwb Cymunedol Arfon ac/neu'r person sy'n gyfrifol am yr offer am unrhyw ddiffyg yn y gwasanaethau (dwr, trydan, nwy ac ati) cyn gynted â phosib.
Cyfathrebu, Marchnata a Rhwydweithio
•Cynorthwyo aelodau eraill y tîm i sicrhau fod y caffi yn cael ei redeg yn esmwyth yn ystod digwyddiadau gan gynnwys arlwyo, gweini ac agor yn hwyr gyda'r nos.
•Cynorthwyo i greu a rheoli amserlen flynyddol o ddigwyddiadau a gweithgareddau i'w cynnal yn caffi.
•Cynorthwyo i hyrwyddo a hysbysebu'r gwasanaethau, y gweithgareddau a'r digwyddiadau a gynhelir ac a drefnir yn caffi.
•Cynorthwyo i gadw deunyddiau hyrwyddo a'r wefan yn gyfredol ac ymchwilio i'r meysydd ble mae twf a datblygiad yn bosib.
•Cynorthwyo Rheolwr yr Hwb Cymunedol i greu perthnasau cryf gyda budd-ddeiliaid yn yr ardal leol a sefydliadau yn y gymuned leol gan gynnwys ysgolion.
•Cynorthwyo Rheolwr yr Hwb Cymunedol i rwydweithio'n effeithiol yn yr ardal leol i sicrhau nad yw gwasanaethau, gweithgareddau a digwyddiadau'r Hwb yn dyblygu'n ddiangen neu'n cystadlu yn erbyn gwasanaethau sy'n bodoli yn y gymuned yn barod.
•Cynorthwyo gydag'r dasg o dderbyn archebion ar gyfer llogi'r ystafell gymunedol
•Cyfathrebu yn y ffordd fwyaf addas ar gyfer y gynulleidfa a'r sefyllfa
Cyfle Cyfartal
•Annog ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau'r unigolyn fel dinesydd sy'n defnyddio'r gwasanaeth ac yn y gymuned ehangach drwy hyrwyddo'r ethos Cefnogaeth Weithredol a Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth
•Sicrhau fod urddas ac annibyniaeth y defnyddwyr gwasanaeth yn cael ei barchu drwy arferion gofal da. Bod yn sensitif i'r angen i barchu hawliau'r unigolyn bob amser.
•Gweithio ar lefel un-i-un neu mewn grŵp gyda defnyddwyr gwasanaeth i gyflawni'r amcanion a nodir yn eu Cynlluniau Gofal Person-ganolog, a bod yn barod i fynychu cyfarfodydd adolygu a chynadleddau achos y defnyddwyr hynny, gan gyfrannu adroddiadau ysgrifenedig a llafar.
•Bod yn rhagweithiol i sicrhau fod pobl yn cael mynediad at y gweithgareddau a'r rhaglenni mwyaf addas trwy yr Hwb Cymunedol a caffi.
•Darparu amgylchedd symbylol ble gellir cynnal a datblygu sgiliau
•Bod yn rhan weithredol o Dîm Hwb Cymunedol i gefnogi pobl i ddefnyddio cyfleusterau cymunedol, hyrwyddo amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol a chefnogi pobl â'u hanghenion iechyd drwy wneud dewis deallus.
•Cynorthwyo â gofal personol gydag urddas a pharch.
•Cefnogi pobl â'u datblygiad deallusol a chymdeithasol yn unol â gallu ac anghenion pob unigolyn.
Cynllunio Person-ganolog
•Cefnogi pobl i feddwl, cynllunio a chyflawni amcanion a datblygu eu rolau yn eu cynlluniau (Cynllun Person-ganolog)
•Bod yn rhan o'r broses barhaus o gynllunio, gweithredu, monitro ac adolygu'r gefnogaeth a roddir i unigolion yn unol ag ethos ddilynol y gwasanaeth.
•Bod ag agwedd Person-Ganolog tuag at y gwaith er mwyn rhoi'r bobl yr ydych yn eu cefnogi yng nghanol pob penderfyniad a gweithgaredd.
Iechyd a Diogelwch
•Sicrhau lles a diogelwch cyffredinol pawb sy'n defnyddio'r gwasanaeth drwy asesu unrhyw risgiau yn barhaus.
•Cynnal safonau iechyd, diogelwch a hylendid uchel a sicrhau amgylchedd glân a diogel i bawb.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau a rheoliadau Hylendid Bwyd a Diogelwch Bwyd.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
Cyfrifoldebau Eraill
•Bod yn gyfrifol am hunanddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal, cydraddoldeb a chynaliadwyedd.
•Cynnal cyfrinachedd ar bob agwedd o weithrediad y gwasanaeth. Rheoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
•Cofrestru gyda'r Cyngor Gofal yn unol â chanllawiau cenedlaethol (os oes angen)
•Ymgymryd â'r dasg o dderbyn a dosbarthu meddyginiaeth yn unol â pholisi'r Cyngor (os oes angen)
Amgylchiadau arbennig
•Yr angen i weithio oriau anghymdeithasol a penwythnosau yn unol ac amseroedd agor y caffi.