Swyddi ar lein
Dadansoddwr Trawsnewid Data TG a System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)
£37,336 - £39,186 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27397
- Teitl swydd:
- Dadansoddwr Trawsnewid Data TG a System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Twnelau a Technoleg
- Dyddiad cau:
- 11/07/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £37,336 - £39,186 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS1
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Dadansoddwr Trawsnewid Data TG a System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)
CYFLOG: PS1 (SCP 29-31) (£37,336 – £39,186)
LLEOLIAD: - 1 o’r lleoliadau isod
Conwy Traffic Management Centre, Bangor, Llandrindod Wells, Halkyn, Newtown
Fel Dadansoddwr Trawsnewid Data TG a System Gwybodaeth Ddaearyddol, byddwch yn gyfrifol am ddylunio, datblygu, profi a gweithredu systemau rheoli data gofodol i gefnogi gweithrediadau'r Asiantaeth. Byddwch yn cydweithio â thimau traws-swyddogaethol i integreiddio data GIS i systemau TG ariannol a gweithredol a dadansoddi setiau data geogyfeiriol i gynhyrchu adroddiadau craff ar gyfer uwch reolwyr, gan hwyluso gwneud penderfyniadau strategol.
Yn ogystal, byddwch yn cynnal glanhau data, cynnal a chadw, a dadansoddi setiau data stocrestr asedau sy'n ymwneud â'n rhwydwaith ffyrdd strategol. Byddwch yn rhoi atebion ar waith gan ddefnyddio arferion gorau'r diwydiant, gan sicrhau datblygiad systemau TG gofodol a diogelwch a chyfrinachedd data sensitif at y dyfodol. Mae darparu cymorth i dimau mewnol ac allanol wrth ddatblygu datrysiadau TG a chyflawni amcanion o fewn terfynau amser a chyllidebau y cytunwyd arnynt hefyd yn agweddau allweddol ar y rôl hon.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swyddi uchod, cysylltwch â Christopher Pratt ar 01286 685 187
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Dyddiad Cau: 10.00yb, DYDD IAU, 11 o Gorffennaf 2024
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu defnyddio amrywiaeth o feddalwedd yn gyfforddus, neu ddysgu’n gyflym sut i’w defnyddio, yn ogystal â systemau a rhyngwynebau eraill.
Gallu esbonio problemau ac atebion yn glir i staff annhechnegol.
Gallu ymdrin â phroblemau yn rhesymegol a defnyddio tystiolaeth i ddod o hyd i atebion neu argymhellion
Gallu ymgymryd â gwaith o natur gymhleth ac amrywiol.
Craff, a dawn dechnegol.
Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol er mwyn darparu cefnogaeth a hyfforddiant ar faterion technegol yn effeithiol gyda staff a defnyddwyr eraill.DYMUNOL
Meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol i feithrin dulliau cyfathrebu effeithiol.
Meddu ar sgiliau trefnu rhagorol er mwyn rheoli nifer o dasgau ar yr un pryd.
Meddu ar sgiliau datrys problemau rhagorol a methodoleg ystadegol.
Gallu gwerthuso sefyllfa a mentro’n ofalus.
Gallu dangos tosturi a bod yn empathig tuag at eraill.
Meddu ar feddylfryd cadarnhaol, agored a brwdfrydig.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Tystiolaeth helaeth o ddysgu a datblygu proffesiynol parhaus sy’n gysylltiedig â GIS.DYMUNOL
Trwydded yrru lawn a glân.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad helaeth o weithio mewn amgylchedd GIS proffesiynol.
Profiad o wneud gwaith dadansoddol, datrys problemau i gynorthwyo gyda dylunio a defnyddio systemau, yn ogystal â meddu ar sgiliau beirniadol a chreadigol.
Profiad o ddylunio a chynnal a chadw systemau rheoli ar safle neu ar y cwmwl.
Profiad o hyrwyddo'r defnydd o dechnoleg ddigidol i wella rhyngweithio/gwybodaeth, prosesau ac arloesedd gweithwyr.
Profiad o ddigideiddio gwybodaeth er mwyn gwella effeithlonrwydd a galluogi awtomeiddio.
Profiad o weithio mewn amgylchedd cefnogol wrth ddarparu cymorth i gwsmeriaid.DYMUNOL
Profiad o wella profiad cwsmeriaid drwy dechnoleg.
Profiad o weithredu newid technegol mewn sefydliad tebyg.
Profiad o weithredu trawsnewid mewn sefydliad tebyg.
Profiad o reoli staff a chontractwyr i sicrhau bod data priodol yn cael ei gasglu a’i goladu.
Profiad o roi newid digidol ar waith mewn sefydliad
Profiad o weithredu dadansoddeg data Gofodol fel rhan o ddatblygiad parhaus busnes.
Profiad o reoli prosiectau casglu data a TGCh.
Profiad o weithio gyda staff a rhanddeiliaid i sicrhau bod data priodol yn cael ei gasglu, ei goladu a’i drawsnewid.
Profiad o weithio gyda staff a rhanddeiliaid i ddeall eu hanghenion a meithrin perthnasoedd dibynadwy.
Profiad o ddatblygu a defnyddio GIS, SQL, Systemau Gwybodaeth Busnes, Dadansoddi Busnes a rhaglenni tebyg.
Profiad o reoli asedau.
Profiad o gefnogi systemau a rhaglenni busnes.
Profiad o ddylunio priffyrdd, ymgymryd â gwaith cynnal a chadw a gweithrediadau cysylltiedig.
Profiad o systemau rheoli ansawdd.
Profiad o’r technolegau canlynol:
• Offer a Chymwysiadau GIS
• Microsoft SharePoint Administration;
• SQL Administration;
• Microsoft Azure administration;
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Dealltwriaeth ddatblygedig o lwyfannau, offer a dadansoddiadau GIS.
Dealltwriaeth drylwyr o ddiogelwch data.DYMUNOL
Gallu rhagorol i ddeall materion TGCh technegol er mwyn gallu trafod ag arbenigwyr technegol mewnol ac allanol.
Sgiliau dadansoddi a datrys problemau rhagorol i helpu i ddylunio a defnyddio systemau, yn ogystal â meddu ar sgiliau beirniadol a chreadigol.
Profiad o hyfforddi staff i ddefnyddio naill ai offer, meddalwedd neu systemau.
Gallu llunio ac ysgrifennu adroddiadau a chyflwyniadau cryno.
Gwybodaeth am ddeddfwriaeth priffyrdd yn gyffredinol.
Paratoi siartiau llif a gweithdrefnau.
ANGHENION IEITHYDDOL
DYMUNOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Pwrpas y swydd yw parhau i wella’r modd y sut mae defnyddwyr gwasanaethau yn defnyddio ac yn rheoli data gofodol yr holl wasanaethau NMWTRA, awdurdodau partner a rhanddeiliaid eraill trwy ddadansoddi, dylunio, gweithredu a chefnogi atebion gofodol sy’n seiliedig ar dechnoleg, gan gynnwys y cwmwl ac ar safleoedd, er mwyn sicrhau bod rhwydwaith cefnffyrdd dibynadwy yn cael ei ddarparu ar sail Cymru gyfan ar ran Llywodraeth Cymru.Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Mae’r prif gyfrifoldebau yn cynnwys:
• Bod yn gyfrifol am ddylunio, datblygu, profi, gweithredu, cynnal a chofnodi systemau rheoli data gofodol ar gyfer yr Asiantaeth. Gyda chymorth gan eraill, bydd angen cysylltu data GIS â systemau rheoli ariannol a systemau TG gweithredol, a lle bo hynny’n berthnasol, caffael gwasanaethau ac offer cysylltiedig.
• Llunio adroddiadau cysylltiedig drwy wybodaeth arbenigol am setiau data geogyfeiriol a’u hadnoddau dadansoddi o fewn systemau rheoli gofodol a’u cyflwyno i uwch reolwyr yr Asiantaeth i gynorthwyo yn y broses o wneud penderfyniadau.
• Bod yn gyfrifol am lanhau data, cynnal a dadansoddi setiau data stocrestr asedau amrywiol sy’n gysylltiedig â’r rhwydwaith ffyrdd strategol fel draenio, materion amgylcheddol ac ati.
• Creu atebion gan ddefnyddio’r arferion gorau a chynnal gwybodaeth am yr arferion gorau cyfredol.
• Dylunio a gweithredu systemau TG gofodol, offer a data a gedwir, gan sicrhau bod atebion yn cael eu datblygu mewn modd sy’n diogelu at y dyfodol.
• Diogelwch data masnachol neu unrhyw ddata sensitif ac offer TG ffisegol.
• Cynorthwyo timau mewnol ac allanol i ddatblygu atebion TG.
• Cyflawni amcanion o fewn amserlenni a chyllidebau y cytunwyd arnynt.
• Bod yn gyfrifol am offer TG arbenigol a thrwyddedu meddalwedd.
• Datblygu a chynnal unrhyw System Reoli bresennol ac yn y dyfodol.
• Bod yn gyfrifol am reoli prosiectau systemau. Cynnwys cynhyrchu ac adolygu manylebau technegol.
• Bod yn gyfrifol am gynhyrchu lunio a gweithredu polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â systemau newydd a’u gweithrediad.
• Llunio a gweithredu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer atebion sy’n cael eu gweithredu.
• Hyrwyddo hunan-ddysgu yn y sefydliad drwy ddarparu hyfforddiant i ddefnyddwyr ar ddefnyddio systemau TG a rheoli data arbenigol.
Prif Ddyletswyddau.Hyd a lled, Datblygu a Llunio
• Datblygu a gweithredu systemau busnes/dadansoddi arloesol a chreadigol o fewn yr Asiantaeth drwy ddefnyddio eu harbenigedd i gefnogi rhaglenni datblygu busnes llwyddiannus, gan ddefnyddio ystod o ddisgyblaethau arbenigol yn cynnwys y canlynol, ymysg pethau eraill:
• Gwybodaeth arbenigol am gymwysiadau ac offer GIS,
• Meddalwedd rheoli prosesau busnes,
• Systemau rheoli cronfeydd data perthynol,
• Meddalwedd Microsoft Business Intelligence
• Meddalwedd amgylchedd datblygu integredigY Prif Ddyletswyddau.
• Mabwysiadu a chynnal agwedd arloesol a llawn dychymyg sy’n ymwneud â datblygu atebion, gan gynnwys adroddiadau rheoli.
• Datblygu, gweithredu, cynnal a hyrwyddo systemau gofodol ar gyfer yr Asiantaeth, gan gynnwys cymorth technegol.
• Datblygu systemau rheoli gofodol ar gyfer yr Asiantaeth, wedi’u gyrru gan anghenion busnes sy’n bodoli eisoes ac sy’n esblygu yn unol â gofynion Cytundeb Asiantaeth Reoli Llywodraeth Cymru (WGMAA).
• Cynghori a chysylltu â Llywodraeth Cymru, Asiantaethau Cefnffyrdd a’u sefydliadau partner mewn perthynas â materion rheoli gwybodaeth, gyda’r nod o wneud y defnydd gorau a phriodol o wybodaeth ar draws y sefydliadau ac ar draws yr ystod lawn o weithrediadau a gweithgareddau. Bydd hyn yn cefnogi systemau rheoli perfformiad a’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer uwch reolwyr yr Asiantaeth.
• Gweithio gyda pherchnogion systemau allanol, Rheoli Data a Chymorth TGCh i ddarparu cysylltiadau data rhwng systemau.Rhoi ar waith
• Sefydlu, blaenoriaethu a hyrwyddo rhaglenni ar gyfer datblygu a gweithredu systemau technoleg gwybodaeth ofodol sy’n ofynnol gan yr Asiantaeth. Gan fod llawer o'r gwaith hwn yn ymwneud â chyflawni gwelliannau i setiau data gofodol hanesyddol a newydd ac ymgorffori mewn hen systemau a systemau newydd sy'n seiliedig ar feddalwedd, mae'n hanfodol gallu gweithio mewn amgylchiadau lle nad yw polisi, gweithdrefnau a safonau gweithio yn darparu llawer o arweiniad. Mae hefyd yn bwysig deall a rheoli’r effeithiau y gallai methiannau’r systemau hyn eu cael ar y sefydliad yn ei gyfanrwydd.
• Cynnal profion trylwyr o’r systemau a ddatblygir i leihau’r risg weithredol ganlyniadol sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau a ddarperir gan NMWTRA ar ran y cyhoedd/Llywodraeth Cymru.
• Sicrhau bod y wybodaeth angenrheidiol ar gael i adolygu dangosyddion perfformiad ar gyfer yr Asiantaeth a Llywodraeth Cymru.
• Gan ddefnyddio cymorth, doethineb, perswâd a sensitifrwydd, darparu hyfforddiant i aelodau staff ac Awdurdodau Partner ar gyfer systemau presennol a systemau sydd newydd gael eu dylunio neu eu huwchraddio yn ôl yr angen.
• Cyfrannu at y strategaeth geisiadau drwy gymhwyso gwybodaeth am dechnoleg/cynnyrch a rhoi cyngor ar feysydd penodol ar gyfer y cais er mwyn diwallu anghenion y busnes.
• Cyflawni’r gweithgareddau gofynnol er mwyn gallu symud o unrhyw system bresennol i’r lefel nesaf y cytunwyd arni, gan ddefnyddio offer mudo fel sy'n briodol.
• Cynnal gwiriadau ansawdd o’r meddalwedd neu’r setiau data a ddatblygir yn unol ag achrediad ISO 9001 yr asiantaethau.
• Arwain timau drwy newid prosesau busnes wrth weithredu gwelliannau i feddalwedd neu wybodaeth a allai achosi materion sy'n debygol o fod yn ddadleuol neu'n gymhleth. Bydd hyn yn gofyn am ddoethineb, perswâd a sensitifrwydd i gael canlyniad y busnes.Cynnal a Chadw
• Cynnal a chadw systemau cyfrifiadurol (TG) ar gyfer yr Asiantaeth, gan gynnwys cofnodi stocrestrau a chofnodion rhwydwaith yn gywir.
Cyffredinol
• Sicrhau bod materion Iechyd a Diogelwch yn cael eu hystyried a’u rheoli’n llawn ym mhob agwedd ar waith yr Asiantaeth, a’u bod yn cydymffurfio â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Meithrin diwylliant o arloesi a gwella’n barhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol a datblygiadau eraill yn y diwydiant, gan gynnwys dulliau newydd, gyda’r nod o fabwysiadu’r arferion gorau yn y sefydliad, lle bynnag y bo’n briodol.
• Gweithio gyda staff yr Asiantaeth i gyflawni eu dyletswyddau technegol, ariannol a gweinyddol.
• Cydweithredu a chysylltu â staff o Adrannau eraill o’r Cyngor ac Awdurdodau Partner er mwyn hyrwyddo rheolaeth effeithiol o’r Asiantaeth.
• Goruchwylio a darparu arweiniad ar waith a wneir gan gontractwyr ac ymgynghorwyr
• Bod yn gyfrifol am hunanddatblygiad.
• Gweithredu o fewn polisïau a gweithdrefnau’r Cyngor mewn perthynas â chyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Bod yn gyfrifol am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau eich bod yn trin gwybodaeth bersonol gan gydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data
• Amlinelliad yn unig yw'r rhestr uchod o ddyletswyddau. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.• Er y bydd y rhan fwyaf o’r rôl wedi’i lleoli mewn swyddfa, efallai y bydd gofyn i ddeiliad y swydd wneud gwaith ar y safle, a chyflawni tasgau sydd y tu allan i oriau gwaith arferol er mwyn helpu’r Asiantaeth i roi systemau a diweddariadau newydd ar waith.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.