Swyddi ar lein
Swyddog Prosiect Dehongli ac Ymgysylltu Cymunedol LleCHI LleNI
£29,269 - £31,364 y flwyddyn | Dros dro 30/06/2029
- Cyfeirnod personel:
- 24-27348
- Teitl swydd:
- Swyddog Prosiect Dehongli ac Ymgysylltu Cymunedol LleCHI LleNI
- Adran:
- Economi a Chymuned
- Gwasanaeth:
- Rhaglenni Adfywio
- Dyddiad cau:
- 01/07/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro | 30/06/2029 | 37 Awr
- Cyflog:
- £29,269 - £31,364 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S2
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y (Pecyn Gwybodaeth)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Lucy Thomas ar 07785 469867
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD LLUN, 01/07/2024
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
• Creadigrwydd a’r awydd a’r hyder i gynnig syniadau
• Gonestrwydd, hunan hyder, pendantrwydd a hyblygrwydd.
• Sgiliau cyfathrebu gan ddefnyddio cyfryngau gwahanol (cyfoes a thraddodiadol)
• Brwdfrydedd, egni, dyfalwch a’r ewyllys i ddatrys problemau.
• Hunan cymhelliant.
• Cymeriad diplomyddol ac amyneddgar
• Gallu i weld y “darlun mawr”, ystyried goblygiadau gweithrediadau ar y rhaglen ehangach ac i adnabod cysylltiadau rhwng gwahanol elfennau o’r gwaith tu fewn, a thu allan i’r rhaglen
• Gallu i dderbyn cyfrifoldebau ac i gyfathrebu'n effeithiol.
• Gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
• Sgiliau cynllunio
• Sgiliau trefnu
• Defnydd o Gar ‘achlysurol’DYMUNOL
-CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc sy'n berthnasol i anghenion y swydd (o ystyried natur y swydd, bydd profiad sylweddol yn y maes yn cael ei ystyried yn gymhwyster addas / ychwanegol)DYMUNOL
• Cymhwyster Rheoli Prosiect
• Cymhwyster ECDL neu gymhwyster cyfwerth yn nefnydd TGChPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Profiad o gyfathrebu / gweithio gydag unigolion a grwpiau ar lefel eang.
• Profiad o ddatblygu a rheoli prosiectau gan gynnwys adolygu, gweithredu a / neu fonitro cynlluniau
• Profiad o ddatblygu, cydlynu a gwireddu rhaglenni o weithgaredd
• Profiad o rheoli adnoddau
• Profiad o gydlynu ac arwain ar gytundebau, a dealltwriaeth o drefniadau caffael
• Profiad o gasglu a thrin data meintiol ac ansoddol
• Cefndir o weithio mewn tîm neu fel unigolyn heb oruchwyliaeth.
• Profiad o weithio i amserlen dynn ac o dan bwysauDYMUNOL
• Profiad o waith a phrosesau datblygu economaidd a chymunedol
• Profiad a dealltwriaeth o dreftadaeth
• Profiad o ddadansoddi dangosyddion / mesuryddion economaidd a chymdeithasol.
• Profiad o weithio mewn Llywodraeth Leol.
• Profiad o baratoi a gweithredu rhaglenni gwaith
• Profiad o drefnu digwyddiadau, yn cynnwys cyfarfodydd
• Profiad o wneud gwaith ymchwil i hysbysu penderfyniadau
• Profiad o lunio a gweithredu ar gynlluniau marchnataSGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Sgiliau cyfathrebu cryf gan gynnwys sgiliau rhyngbersonol a’r gallu i hyrwyddo cydweithio
• Sgiliau cyfathrebu cryf - yn y Gymraeg a’r Saesneg ar lafar ac ysgrifenedig.
• Sgiliau yn berthnasol i ddatblygu, cyflawni a monitro rhaglen gydlynol o weithgareddau datblygu economaidd a chymunedol
• Y gallu i ymdrin â phobl o bob oed a chefndir a’r gallu i gyfathrebu a dylanwadu rhanddeiliaid wrth ystyried eu hanghenion / dyheadau
• Y gallu i ymgymryd a thrafodaethau sensitif a pharchu cyfrinachedd
• Sgiliau gweinyddol a chyfrifiadurol
• Gwybodaeth am gasglu a thrin data meintiol ac ansoddol
• Gwybodaeth amlinellol o faterion datblygu’r economi
• Gwybodaeth am ddulliau marchnata gwahanol, a’r gallu i ddaddansoddi’r dulliau mwyaf priodol i gefnogi ymgyrchoedd gwahanolDYMUNOL
• Dealltwriaeth o’r heriau yn wynebu Gwynedd
• Gwybodaeth am fethodoleg datblygu economaiddANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Mae LleCHI LleNI yn brosiect a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a phartneriaid i annog adfywio cymunedol trwy dreftadaeth ac i gefnogi cymunedau i elwa ar arysgrif Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru fel Safle Treftadaeth y Byd. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ochr yn ochr â Rheolwr Prosiect LleCHI LleNI a Swyddog Prosiect Dehongli ac Ymgysylltu Cymunedol LleCHI LleNI i gyflwyno rhaglen y prosiect o weithgareddau a digwyddiadau.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Bod yn gyfrifol am elfennau Dehongli ac Ymgysylltu Cymunedol prosiect LleCHI LleNI, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, i gefnogi Tirwedd Llechi Safle Treftadaeth y Byd Gogledd Orllewin Cymru
• Mae prosiect LleCHI LleNI â phwyslais weithredol ar ymgysylltu ac ymgynghori gyda cymunedau, busnesau, rhan-ddeiliaid a phartneriaid strategol, datblygu strwythurau a phrosiectau adfywio, cynnal gweithgareddau, adnabod dulliau monitro a gwerthuso I fod yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno cais cyfnod cyflawni i Gronfa Treftadaeth y Loteri fel dilyniant i’r cyfnod datblygu.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cyfrifoldeb am gyllideb cynllun LleCHI LleNI yn y maes Dehongli ac Ymgysylltu Cymunedol a monitro cyllidebau a gweithgareddau perthnasol yn unol a’r dibenion cymeradwyPrif Ddyletswyddau.
• Cyflawni’r rôl rheoli prosiect ar gyfer elfennau Dehongli ac Ymgysylltu Cymunedol gan lunio a chyfrannu i ddogfennau o safon uchel, gan gynnwys ond ddim yn gyfyngedig i: cynlluniau prosiect, y log risgiau a materion ac adroddiadau cynnydd. Bydd angen sicrhau bod yr holl ddogfennau yn parhau’n gyfredol gydol y prosiect.
• Cyfrifoldeb am gyllideb yr elfennau Dehongli ac Ymgysylltu Cymunedol, a sicrhau fod yr holl weithgareddau yn cael eu darparu o fewn y gyllideb, yn ogystal â chyfrifoldeb am gomisiynu gwaith yn gysylltiedig â’r cynllun a rheoli’r cytundebau hynny yn unol a threfniadau caffael y Cyngor.
• I adnabod, cyfathrebu, cydweithio ac ymgysylltu gyda cymunedau, busnesau, rhan-ddeiliaid a phartneriaid strategol.
• Dysgu o ymarfer da a chreu cysytlliadau gyda prosiectau eraill tebyg
• Sicrhau fod gweithgareddau LleCHI LleNI, ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn cael eu hyrwyddo yn effeithiol i gynulleidfa eang ac yn sicrhau fod ystod ehangach o bobl yn ymwneud gyda treftadaeth.
• Monitro, gwerthuso a choladu gwybodaeth er mwyn medru adrodd yn ôl i gyllidwyr ar allbynnau cynllun Llechi Cymru, a darparu adroddiadau cynnydd fel mae’r gofyn yn codi.
• Trefnu digwyddiadau amrywiol.
• Cefnogi ac ymgysylltu gyda chymunedau a chyrff er mwyn adnabod, datblygu, dysgu a gwneud y mwyaf o’u hanes a threftadaeth gan sicrhau fod treftadaeth yn cael ei nodi a’i egluro’n well, ac arwain at newid mewn syniadau a gwerthoedd .
• Trefnu, mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd cyhoeddus, seminarau a sesiynau briffio fel mae’r angen yn codi.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Gweithio penwythnosau, gwyliau banc a gyda’r nos yn achlysurol.
• Trwydded yrru ddilys gyfredol ac yswiriant car defnydd busnes.
• Mae’r swydd yn amodol ar gwblhau archwiliad llwyddiannus drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
• Bydd angen i ddeiliad y swydd fod ar gael i weithio ledled Gwynedd ar adegau.Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.