Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am weithredu’r gofynion statudol yn y maes gorfodaeth tai.
•Sicrhau gweithredu’n effeithiol ar brosiectau / cynlluniau tai sy’n codi.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer - Dillad gwarchod personol ac offer a ddyrannwyd.
•Staff - Cyfrifoldeb cyffredinol am oruchwylio gwaith Swyddogion Gorfodaeth
Prif ddyletswyddau
•Cynorthwyo’r Rheolwr Gorfodaeth Tai i sicrhau bod y gwasanaeth yn glynu yn llawn at strategaeth a pholisi gorfodaeth y Cyngor.
•Cynorthwyo gyda adolygu’r polisi a strategaeth ar gyfer y maes gorfodaeth tai ac i gynorthwyo’r adran i greu a gweithredu polisi addas ar gyfer y maes gorfodaeth tai.
•Arwain mewn amryw o feysydd gwaith ac i raeadru gwybodaeth berthnasol ynghylch y pwnc i aelodau eraill o wasanaeth Tai ac Eiddo.
•Arwain ar ymchwiliadau cymhleth
•Cyfrifoldeb am oruchwylio gwaith Swyddogion Gorfodaeth Tai a rhoi cyngor lle bo’n briodol hefyd i gynnwys datblygu y swyddogion i allu cymryd ymlaen achosion ychwanegol i’w dyletswyddau traddodiadol
•Gosod rhybuddion statudol ar bersonau perthnasol er sicrhau addasrwydd o fewn y sector tai breifat a chynorthwyo’r adain gyfreithiol i weithredu ar y rhybuddion hynny.
•Ymgymryd ag archwiliadau tai er mwyn gweithredu’r gofynion statudol perthnasol.
•Ymgymryd â dyletswyddau o archwilio tai ar ran y Cynllun Lesu Cymru a pharatoi rhestrau waith technegol, gwirio dyfynbrisiau a dderbyniwyd, a thrafod hyn gyda’r ymgeiswyr a’r gwasanaeth digartrefedd.
•Cyfridoldebau am rhan o’r cynllun lletyo Ffoaduriaid Wcráin sef cynnal archwiliadau diogelwch cartref ac adrodd y wybodaeth yma yn ôl ar systemau Sharepoint y Cyngor.
•SIA yn gyfrifol am ymateb i unrhyw geisiadau Rhyddid Gwybodaeth sydd yn cael ei derbyn yn ei ardal neu’r drwy’r swyddogion dan ei goruchwyliaeth. Paratoi a darparu ymatebion i geisiadau cymhleth RG a thrafod ceisiadau yn uniongyrchol gyda’r tîm Rhyddid Gwybodaeth yn unol â rheoliadau GDPR. Paratoi a danfon anfonebau i’r ymgeiswyr a sicrhau fod taliadau yn ddyledus fel rhan o’r ymgyrch newydd yma i godi ffi ar bob geisiadau dilys sydd yn cael ei derbyn a’i brosesu.
•Mynychu cyfarfodydd mewnol ac allanol yn ôl y galw ac i ddarparu adroddiadau a gwybodaeth ystadegol yn ôl y galw.
•Dirprwyo ar ran swyddogion eraill mewn amgylchiadau priodol fel fo angen.
•Ymateb yn gyflym ac yn briodol i sefyllfaoedd o argyfwng.
•Darparu adroddiadau cyson ynglyn â pherfformiad y gwaith, a bod yn rhan o’r broses rheoli a monitro perfformiad yn unol a gofynion y swydd.
•Cyfrannu tuag at lunio Cynllun Gwasanaeth yn y maes gorfodaeth ac i cynorthwyo gyda sicrhau datblygu a gweithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth.
•Cydgysylltu fel bo’r angen gydag adrannau eraill o’r Cyngor a chyda asiantaethau allanol a Llywodraeth Cynlluniad Cymru i sicrhau bod cydymffurfiad gyda’r holl ofynion statudol sy’n dylanwadu ar y gwasanaeth gorfodaeth.
•Ymgymryd â dyletswyddau eraill perthnasol fel y cyfarwyddir gan y Rheolwr Gorfodaeth Tai
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Efallai y bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd fynychu cyfarfodydd, is-bwyllgorau a gweithgorau, rhai ohonynt y tu allan i oriau gwaith arferol.
•Efallai y bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd ymateb i geisiadau i weithio oriau anghymdeithasol, fel bo angen