Swyddi ar lein
Arweinydd Iechyd Meddwl Ardal De Gwynedd
£49,498 - £51,515 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27299
- Teitl swydd:
- Arweinydd Iechyd Meddwl Ardal De Gwynedd
- Adran:
- Oedolion, Iechyd a Llesiant
- Gwasanaeth:
- Diogelu, Sicrwydd Ansawdd a Iechyd Meddwl
- Dyddiad cau:
- 25/06/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £49,498 - £51,515 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS7
- Lleoliad(au):
- Adeilad Canolfan Cyswllt Cwsmer Penrhyndeudraeth
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Mannon Emyr Trappe ar 01286 679723
Rhagwelir cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymruDYDDIAD CAU: 25/06/2024
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
•Dangos ymroddiad i sicrhau fod y dinesydd yn ganolog i holl ddarpariaeth gofal.
•Dangos ymrwymiad i egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 ac egwyddorion Ffordd Gwynedd.
•Dangos ymrwymiad i’r Ddeddf Iechyd Meddwl, 1983.
•Bod yn agored i ystyried syniadau a ffyrdd newydd o weithio.
•Dangos eich gallu i ymdopi gyda crisis, gwrthdaro ac amwysedd sy’n newid yn gyson.
•Yn meddu ar sgiliau negodi cryf.
•Dangos y gallu i ymdopi a chyflymder a chymhlethdodau ynghlwm ac unrhyw newid er mwyn darparu a chyflawni gwasanaethau cynaliadwy
•Yn berson brwdfrydig, ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o safon/ansawdd uchel.
•Meddyliwr creadigol a chyfathrebwr effeithiol gyda’r gallu i ysbrydoli’r gweithlu
•Y gallu i weithio ar ben eich hun ac fel rhan o dîm.
•Y gallu i weithio yn effeithiol o dan bwysau.
•Personoliaeth groesawus.
•Oestrwydd, pendantrwydd a hyblygrwydd.
•Gallu i dderbyn cyfrifoldeb a chyfathrebu yn effeithiol.
•Parotrwydd I ddirprwyo a rhoi rhyddid a chyfrifoldeb i bobl i weithredu a chyflawni.
DYMUNOL
•Gallu i ysbrydoli a grymuso staff yn effeithiol.CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
•Cymhwyster proffesiynol yn y maes gofalu (Gwaith Cymdeithasol/Therapi Galwedigaethol)
•Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP)
•Tystiolaeth eich bod wedi cofrestru gyda chorff proffesiynol perthnasol
•Yn berchen ar drwydded yrru a defnydd o garDYMUNOL
•Cymhwyster rheoli.
•Cymwysterau datblygiadol o fewn y proffesiwn (CPEL)
•Ymrwymiad i gwblhau hyfforddiant asesydd ‘Lles Gorau’ DOLSPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
•Tystiolaeth o brofiad yn gweithio mewn gwaith yn y gymuned.
•Profiad o weithredu fel Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy
•Dangos profiad o arweinyddiaeth effeithiol mewn amgylchedd sydd yn newid yn gyson.
•Profiad o reoli staff.
•Profiad o waith ymgynghori, cyflwyniadau a chwblhau adroddiadau
•Profiad o gyflawni targedau o fewn terfynau amser penodol.
•Profiad o reoli risgiau ac arddangos barn broffesiynol ardderchog.DYMUNOL
•Profiad o reoli ar draws ystod o wasanaethau o’r tu mewn a tu allan I’r Cyngor.
•Profiad o arwain a rheoli cynlluniau.
•Profiad o ymgysylltu a chynnwys budd-ddeiliaid mewn datblygiadau allweddol.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
•Dangos gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad o ddeddfwriaeth berthnasol i faes gofal ac iechyd oedolion.
•Y gallu i ddehongli polisïau a strategaeth er mwyn pennu arweiniad a chyngor gweithredol i staff.
•Dealltwriaeth o ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 .
•Dealltwriaeth o Ddeddf Iechyd Meddwl, 1983
•Deall amcanion a blaenoriaethau’r Cyngor.
•Deall cysyniad ac egwyddorion Ffordd Gwynedd.
•Gyda sgiliau rheoli pobl ardderchog
•Sgiliau Technoleg Gwybodaeth ddigonol i wneud defnydd effeithiol o becynnau meddalwedd perthnasol i’r swydd.
•Y gallu i ysgogi newid.DYMUNOL
•Y sgil i ddadansoddi data er mwyn gwella darpariaeth gwasanaeth a sicrhau ansawdd
•Y gallu i brosesu a dehongli gwybodaeth gymhleth.
•Sgiliau cymhelliant
•Gallu i gyfleu pwrpas y gwasanaeth dan sylw yn eglur a gwneud defnydd effeithiol o fesuryddion priodol.ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOLAnghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
Bwriad y Gwasanaeth Integredig Oedolion yw:-
“fy ngalluogi i fyw fy mywyd fel rwyf yn ei ddymuno”
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
•Rhoi arweiniad gweithredol ac arwain/rheoli newid i weithlu sy’n gyflogedig gan Gyngor Gwynedd a chydweithio gyda gweithlu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gan anelu tuag at weithio yn integredig i sicrhau fod pobl yn yr ardal yn cael mynediad i’r person cywir ar yr amser cywir a derbyn y gefnogaeth gywir i’w galluogi i barhau i fyw eu bywydau eu hunain.
•Arwain a rheoli gwasanaethau ar gyfer oedolion gydag anabledd corfforol a synhwyraidd ac oedolion sydd â nam ar y cof a’u gofalwyr.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•STAFF - cyfrifoldeb proffesiynol am yr holl swyddogion fydd yn gweithio o fewn y tîm.
•CYLLID –monitro a rheoli cyllideb ar gyfer yr ardal.
•OFFER – cyfrifoldeb am yr holl offer arbenigol a ddefnyddir gan staff y tîm.
Prif ddyletswyddau
CYFRIFOLDEBAU RHEOLI
•Dileu rhwystrau i alluogi darpariaeth gwasanaeth effeithiol.Gwneud i bethau ddigwydd trwy wneud penderfyniadau ystyrlon ac ymateb yn effeithiol i flaenoriaethau fel maent yn newid.
•Arwain a Rheoli Pobl - Ysgogi, annog a grymuso staff trwy ddirprwyo gwaith yn effeithiol a chreu awyrgylch o barch, cyd-weithio a chymryd risgiau. Rhoi cyfeiriad ac adborth i staff trwy drosglwyddo gweledigaeth yn effeithiol wrth ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth.
•Rheoli Adnoddau – Cynllunio a monitro er mwyn sicrhau gwasanaeth o safon a gwella’n barhaus. Darparu gwerth am arian trwy brynu, blaenoriaethu, rheoli a monitro defnydd effeithiol o adnoddau gan gydnabod bod gwybodaeth, gallu a sgiliau yn adnoddau hefyd. Bod yn gyfrifol am reoli cyllidebau perthnasol o ddydd i ddydd er mwyn sicrhau nad yw’r gwariant yn fwy na’r dyraniad.
•Perfformiad a Datblygiad – Adnabod cryfderau a meysydd datblygu staff trwy oruchwyliaeth a gwerthuso cyson. Canolbwyntio ar wella perfformiad trwy reoli a datblygu effeithiol a thrwy fesur, monitro ac arfarnu perfformiad. Gweithredu a datblygu cynlluniau busnes sy’n adlewyrchu hyn.
•Cyfathrebu – Rhannu a gwrando ar wybodaeth, barn a syniadau heb ragdybiaeth trwy ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol. Cynyddu cymhelliant trwy ddefnyddio cyfathrebu cynhwysol sy’n cydnabod teimladau eraill. Cyfleu gwybodaeth ac argymhellion i staff a chynulleidfaoedd eraill yn glir ac yn hyderus. Cyfathrebu gweledigaeth y gwasanaeth yn effeithiol.
•Ymwybyddiaeth o’r cyd-destun – Deall a gweithio’n effeithiol o fewn fframwaith politicaidd y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd a bod yn ymwybodol o’r materion sy’n cael effaith ar ddarparu gwasanaeth ar wahanol lefelau. Meithrin cysylltiadau gydag eraill i elwa o ymarfer gorau er mwyn gwella darpariaeth i ddefnyddwyr Gwasanaeth.
•Hunanreoli – Dangos esiampl i eraill trwy for yn rhagweithiol, gonest a sefydlog a chymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd eich hun. Sicrhau cydymffurfiaeth â safonau proffesiynol. Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
CYFRIFOLDEBAU PENODOL
•Arwain yn lleol i ddarparu gwasanaethau y mae dinasyddion eu hangen sydd yn gynaliadwy ac o ansawdd uchel.
•Rôl arweiniol mewn cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a’r trydydd sector i sefydlu a datblygu gwasanaeth gofal integredig.
•Hybu integreiddio yn effeithiol o fewn yr Ardal ac ar draws Gwynedd. Meithrin cysylltiadau cadarn ag asiantaethau megis y trydydd sector er mwyn darparu gofal integredig effeithlon.
•Cyfleu ymdeimlad o weithio i’r un amcan.
•Gyrru diwylliant o newid, arloesi a moderneiddio i hwyluso gwelliannau gwasanaeth.
•Cefnogi’r tîm i fapio prosesau llif gwaith. Ail gynllunio gwasanaethau a rhoi newidiadau ar waith
•Cydweithio’n agos gydag arweinwyr eraill yn y tîm i ddileu rhwystrau. Adrodd ar rwystrau mewn cyfarfodydd arweinwyr wythnosol.
•Arwain ar sicrhau fod y tîm yn gweithredu egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
•Sicrhau fod sgyrsiau ‘Beth sydd yn bwysig i mi’ a phennu canlyniadau personol yn cael eu gweithredu ar draws y gwasanaeth.
•Grymuso staff i wneud penderfyniadau y gallent eu hamddiffyn.
•Arwain ar faterion diogelu o fewn yr ardal yn unol â gofynion statudol a pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor.
•Cydweithio yn agos gyda’r Adran Diogelu.
•Yn meddu ar werthoedd personol yn seiliedig ar egwyddorion sy’n galluogi dinasyddion i fyw eu bywydau fel maent yn ei ddymuno.
•Hyrwyddo hawl dinasyddion i fyw eu bywyd fel y maent yn ei ddymuno a darpariaeth gwasanaethau i gyflawni hynny.
•Dylanwadu newid ac ysbrydoli pobl gyda gweledigaeth am y dyfodol. Ysbrydoli pobl trwy weithredu a bod yn enghraifft gan herio arferion traddodiadol ac annog staff i ddatrys problem yn arloesol gyda phwyslais ar ganlyniadau.
•Sicrhau llif cyfathrebu effeithiol ac agored o fewn y tîm integredig i sicrhau gwasanaeth effeithiol.
•Datblygu hinsawdd didwylledd a gonestrwydd mewn perthynas â rheoli risg a llywodraethu.
•Gweithio gydag ansicrwydd, amwysedd a natur anochel newid.
•Sicrhau gwasanaethau effeithiol, effeithlon o safon uchel yn unol â gofynion statudol a pholisïau a gweithdrefnau Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
•Datblygu ac adolygu polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau.
•Cyfrannu tuag at arferion gweithredol a datblygiad strategol gwasanaethau.
•Cyfrannu i’r Asesiad Anghenion Poblogaeth.
•Hyrwyddo ymwybyddiaeth gyhoeddus a phroffesiynol o’r gwasanaeth trwy gyflwyniadau a darparu adroddiadau a gwybodaeth ysgrifenedig yn ôl yr angen.
•Llunio amrywiaeth o adroddiadau o ansawdd uchel.
•Sicrhau fod anghenion hyfforddi a datblygu unigolion a thimau yn cael eu nodi a gweithio arnynt gyda’r Uned Datblygu Gweithlu i ganfod ffyrdd o ateb yr anghenion hynny. Sicrhau fod pob aelod o’r tîm yn derbyn goruchwyliaeth ddigonol a rheolaidd.
•Cyfrifoldeb goruchwylio ar gyfer yr ymarferwyr arweiniol ac aelodau y tîm.
•Delio a chwynion ac ymholiadau gyda chefnogaeth y Swyddog Gofal Cwsmer.
•Arwain ar faterion adnoddau dynol o fewn y gweithlu gwasanaethau cymdeithasol yn y tîm integredig. Cyfrifoldeb dros recriwtio a rheoli staff gan gynnwys arfarnu, cynlluniau datblygu, rheoli perfformiad, absenoldebau salwch a materion yn ymwneud â chwynion a disgyblu.
•Cymeryd cyfrifoldeb am anghydfodau Gofal Iechyd Parhaus yn lefel 1 o dan drefniadau Gofal Iechyd Parhaus Gogledd Cymru.
•Arwain a rheoli rhaglenni gwaith penodol ar sail Ardal a Sir gyfan.
•Rôl trosolwg dros y gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chynhorthwy.
•Cynrychioli’r Adran mewn cyfarfodydd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol fel bo’r angen.
•Arwain ar ddatblygu mesurau sydd yn mesur llwyddiant. Dadansoddi a gwerthuso’r wybodaeth i sicrhau fod yr ymyraethau yn cwrdd ag amcanion personol dinasyddion a bod adnoddau’r tîm integredig yn cael eu defnyddio yn effeithlon ac effeithiol.
•Adrodd ar fesurau mewn cyfarfodydd perfformiad adrannol.
•Arwain ar sicrhau fod yr ardal yn cymeryd perchnogaeth dros gynlluniau arbedion effeithlonrwydd.
•Cyfrannu at siapio trefn gomisiynu ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion. Cyfrannu gwybodaeth a syniadau i ddatblygiad strategaeth gomisiynu.
•Sicrhau fod aelodau’r tîm yn egluro polisïau codi tal am wasanaethau y Cyngor i bob defnyddiwr gwasanaeth. Arwain ar ddatblygu perthynas agos gyda’r Uned Incwm a Lles er sicrhau bod pob defnyddiwr gwasanaeth yn derbyn cefnogaeth i wneud cais am gymorth ariannol gan y Cyngor i dalu am eu gwasanaethau
•Arwain ar sicrhau bod cytundeb safonol wedi ei gwblhau rhwng y Cyngor a defnyddwyr ar gyfer pob gwasanaeth a ddarperir.
•Cefnogi cyfleon i gyflwyno technoleg newydd i drawsnewid arferion gwaith.
•Hybu ymrwymiad y trydydd sector i weithio yn integredig yn yr ardal.
•Dirprwyo ar ran yr Uwch Reolwr Oedolion
•Cefnogi’r Adran Diogelu i sicrhau fod asesiadau Lles Gorau DOLS yn cael eu cwblhau yn unol â gofynion cyfreithiol.
CYFRIFOLDEBAU ERAILL
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal, cydraddoldeb a chynaliadwyedd.
•Rheoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei drin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb yswydd.
•Cyfrifoldeb am adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau arbennig
•Gweithio oriau anghymdeithasol yn ôl yr angen.
•Mae ystyriaeth yn cael ei roi i ymestyn oriau agor y gwasanaeth yn ystod yr wythnos ynghyd â gweithio penwythnosau.
•Bydd disgwyliad i ddeilydd y swydd fod yn rhan o unrhyw drefniadau a gaiff ei sefydlu ar sail rota.