Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•I arwain ar reoli meddiannaeth y rhwydwaith a bod yn gyfrifol amdano a rheoli llwythi annormal a staff cysylltiedig ar ran yr Asiant.Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod ACGChC yn cyflawni'r dyletswyddau statudol dirprwyedig, gorfodaeth rheolaethol, polisïau, prosesau a gofynion eraill ynghylch:
•Deddf Priffyrdd 1980 (DP);
•Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (DFfNGS);
•Deddf Rheoli Traffig 2004 (DRhT);
•Deddfau Traffig Ffyrdd (DTFf);
•Rheolaeth Gynllunio
•Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (LlCChCLlC).
•I arwain ar ddarparu cyngor polisi a deddfwriaethol arbenigol a chefnogaeth i Lywodraeth Cymru a chyngor technegol gweithredol a chefnogaeth i dimoedd Busnes a Gweithrediadau Rhwydwaith.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb rheoli dros 3 o Swyddogion Meddiannaeth y Rhwydwaith, 1 Swyddog Rheoleiddio a Darparwyr Gwasanaeth sy’n ymgymryd â gwasanaethau sy’n gysylltiedig â'r rôl;
•Cyfrifoldeb am reoli Gweinyddiaeth Rheolaeth Ddatblygu
•Cyfrifoldeb am reoli modiwlau System Gwybodaeth Ffyrdd Integredig (IRIS) Llywodraeth Cymru (LlC) a chronfeydd data gweithredol eraill ar ran ACGChC;
•Rheoli casglu ffioedd archwiliadau, dirwyon gorfodaeth ac incwm eraill;
•Cyfrifoldeb am gydlynu 18 o Reolwyr Ffordd Cynorthwyol a 9 o Archwilwyr mewn perthynas â swyddogaethau gwaith stryd.
Prif ddyletswyddau
Rheoli Meddiannaeth y Rhwydwaith
•Arwain ar swyddogaethau rheoli gwaith stryd yn cynnwys y Rhestr Strydoedd Cenedlaethol, Data Stryd Ychwanegol, gosod hysbysiadau, cydlynu, archwiliadau, adferiadau, rheoli arwynebedd ffordd, rheoli digwyddiadau, cyfnodau embargo;
•Arwain ar reoli llwythi annormal;
•Arwain ar reoli gorchmynion a hysbysiadau traffig parhaol / dros dro;
•Arwain ar ofynion priffyrdd yn ymwneud â rheoleiddio a gorfodaeth gan gynnwys arwyddion anghyfreithlon, rhwystrau, gwaith, coed 'peryglus', caniatâd a thrwyddedau gwaith stryd ar gyfer sgipiau a sgaffaldiau, gwerthu mewn encilfeydd, caniatâd signalau traffig dros dro;
•Arwain ar leihau tagfeydd ac aflonyddwch ar y rhwydwaith drwy adnabod problemau a chysylltu â budd-ddeiliaid;
•Arwain ar ddatblygiad a gweithrediad prosesau ar gyfer rhoi cyngor i LlC ynghylch ceisiadau Rheolaeth Ddatblygu gyferbyn â’r rhwydwaith cefnffyrdd.
•Cynorthwyo Rheolwr y Rhwydwaith, y Rheolwr Cyflawni a staff eraill yr Asiant gyda materion rheoli rhwydwaith ehangach, er enghraifft:
•Rheoli digwyddiadau e.e. cynlluniau a phrosesau wrth gefn;
•Rhaglennu gwaith
•Rheolaeth Ddatblygu
•Cynrychioli'r Asiant ar faterion yn ymwneud â meddiannaeth y rhwydwaith wrth gysylltu ag eraill gan gynnwys Llywodraeth Cymru a’u cyflenwyr, Darparwyr Gwasanaeth Awdurdodau Partner, Dylunwyr, Contractwyr, Cwmnïau Gwasanaeth, Asiant Cefnffyrdd De Cymru, Highways England, A55 UK Highways Ltd, Awdurdodau Priffyrdd cysylltiedig, GeoPlace, yr Heddlu a Gwasanaethau Brys eraill, a mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Cwmnïau Gwasanaeth ac Awdurdodau Priffyrdd.
•Arwain ar ddiogelu isadeiledd cefnffyrdd rhag niwed e.e. rheoli cofnodion rhestr eiddo ar gyfer offer dan-ddaear ac ar y ddaear ar gefnffyrdd a gofynion arbennig i ymgymerwyr statudol;
•Arwain ar greu a rheoli systemau rheoli meddiannaeth y rhwydwaith, polisïau a phrosesau;
•Ymgymryd â rôl Noddwr y Prosiect ar gyfer comisiynu gwasanaethau;
•Rheoli cyllidebau ar gyfer yr holl swyddogaethau’n ymwneud â meddiannaeth y rhwydwaith.
Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
•Mae’n gyfrifoldeb ar bob gweithiwr yr Asiant gydymffurfio â pholisïau Iechyd a Diogelwch, Amgylcheddol ac Ansawdd fel y’u diffinnir yn System Rheoli Busnes yr Asiant.
•Sicrhau y glynir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol ac Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
•Cyfrifol am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
Cyffredinol
•Cysylltu, fel bo’n briodol, â swyddogion yr Asiant, Swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a chyrff perthnasol eraill.
•Sicrhau y glynir at reoliadau a gweithdrefnau ariannol yr Asiant a LlC.
•Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus.Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol a datblygiadau eraill yn y diwydiant gan gynnwys dulliau newydd gyda’r bwriad o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.
•Dyletswyddau technegol, gweinyddol a phroffesiynol eraill sy’n gymesur ag awdurdod y swydd.
•Ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn gwrtais a phroffesiynol.
•Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau.Disgwylir i ddeilydd y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Bydd y swydd hon yn gofyn am weithio achlysurol y tu allan i oriau gweithio arferol.
•Ymweld â safleoedd adeiladu.
•Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill yn y DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).