Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynyddu cyfranogiad chwaraeon a gweithgareddau corfforol trigolion Gwynedd, gan dargedu’r rhai sydd yn wynebu rhwystrau penodol
•Cyfrannu tuag at weledigaeth ‘a strategaeth Byw’n Iach bod pob trigolyn yn gwsmer, pob teulu’n gwella eu hiechyd a lles a phob cymuned yn elwa
•Cyfrannu at Strategaeth Actif Gogledd Cymru
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am offer TG ac offer chwaraeon
•Cyfrifoldeb am reoli cyllidebau prosiect
•Cydlynu timoedd o wirfoddolwyr
Prif ddyletswyddau
Ymchwilio a Chynllunio
•Ymchwilio ac adolygu data perthnasol a defnyddio mewnwelediad i adnabod rhwystrau sydd yn atal pobl Gwynedd rhag cyfranogi
•Ymgysylltu gyda grwpiau targed penodol i ddeall eu anghenion ac i gyd-gynllunio datrysiadau
•Gweithio mewn partneriaeth gydag eraill i uchafu adnoddau ac i ddylunio datrysiadau i rwystrau penodol
•Paratoi ceisiadau am gyllid i wireddu prosiectau perthnasol
•Cyd-weithio a chreu cysylltiadau cryf gyda phartneriaid allweddol er mwyn ehangu ar y ddarpariaeth sydd ar gael yn gymunedol
Rheoli a Gweithredu prosiectau
•Arwain a rheoli prosiectau i gynyddu cyfranogiad
•Monitro gwariant a rheoli cyllidebau prosiectau
•Trefnu a chyfrannu at ddigwyddiadau perthnasol
•Cynllunio, arwain a gwerthuso sesiynau a gweithgareddau o ansawdd uchel a gweithredu fel Model Rôl i ysbrydoli eraill i fod yn actif
•Gweithredu fel mentor a thiwtor i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth gwirfoddolwyr a chydweithwyr yn y sector
•Sicrhau bod yr hyn a gynigir/darperir yn gynhwysol i bawb trwy fabwysiadu egwyddorion
INSPORT
•Gweithio’n effeithiol fel rhan o nifer o dimoedd o fewn y cwmni ac ar draws y rhanbarth
•Cyd-weithio yn greadigol hefo Swyddogion Marchnata Byw’n Iach i greu a lledaenu deunydd hyrwyddo effeithiol ar gyfer prosiectau e.e. cyfryngau cymdeithasol a wefan Byw’n Iach, cyswllt uniongyrchol gydag grwpiau ac ysgolion, deunydd fideo ayb
Monitro a Dysgu
•Casglu a mewnbynnu data perfformiad i systemau monitro perthnasol e.e. Upshot
•Creu a chyflwyno adroddiadau sydd yn adrodd ar berfformiad prosiectau ac yn rhannu’r hyn sydd wedi dysgu, yn cynnwys cynhyrchu Astudiaethau Achos effeithiol.
Cyffredinol
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Yr angen i weithio oriau hyblyg yn achlysurol, gan gynnwys gyda’r nos ac ar benwythnosau