Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Bydd y Swyddog Gweinyddol a Cyllid yn gweithio o fewn Tim Cefnogi Busnes Cyngor Gwynedd. Bydd y swyddog yn cefnogi gweithgareddau’r tim, yn cynnwys dosbarthu, a monitro grantiau a benthyciadau busnes, ymateb i ymholiadau, ac ymgysylltu gyda’r gymuned busnes
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer personol (Offer TG, ffôn symudol, ac ati)
Prif ddyletswyddau
•Sefydlu, datblygu a chynnal systemau cofnodi mewn perthynas â chyllideb a gweithgareddau'r Tim Cefnogi Busnes.
•Cynnal ymweliadau monitro
•Cyfrifoldeb am ddarparu data perfformiad a helpu efo hawliadau ariannol a thystiolaeth
•Cynnal systemau rheoli ariannol
•Monitro cyllideb y rhaglen yn unol â phroffiliau
•Creu a pharatoi adroddiadau ariannol a pherfformiad
•Darparu gwybodaeth am fanylion ariannol o ran ceisiadau am arian / grant.
•Darparu gwasanaeth gweinyddiaeth gyllidol i'r tîm - archebion, anfonebu, trosglwyddiadau a'r holl gyfarwyddiadau ariannol eraill.
•Sefydlu a chynnal systemau monitro ar gyfer allbynnau a chanlyniadau gwahanol ffrydiau gwaith.
•Cofnodi llwyddiannau'r rhaglen yn unol â’i dangosyddion, targedau, mesuryddion perfformiad a chanlyniadau, gan gasglu astudiaethau achos a ffurflenni bodlonrwydd cwsmer.
•Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn ymwybodol o ofynion deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a chydweithredu gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch y Gyfadran er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyda'r gofynion perthnasol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Disgwylir i ddeilydd y swydd weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau ambell waith.
•Dylai deilydd y swydd feddu ar drwydded yrru lawn a defnydd car preifat.