Nodweddion personol
Hanfodol
Un sy’n medru cyfathrebu ag ystod o swyddogion mewnol, Aelodau a swyddogion allanol.
Un sy’n rhoi sylw i fanylion.
Un sy’n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo’r angen, dangos blaengaredd ac yn cwrdd â therfynau amser penodol.
Y gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
Y gallu i weithio a chymysgu yn hawdd â phobl.
Gallu i ddelio a phobol yn hyderus, pwyllog a chwrtais.
Agwedd hyblyg gyda’r gallu i weithio ar ei phen/ben ei hun.
Ymwybyddiaeth uchel o bwysigrwydd diogleu data
Brwdfrydedd a dyfalbarhad.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cyfwerth a NVQ lefel 2 mewn gweinyddu.
Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol a phersonol parhaus.
Sgiliau ieithyddol a chyflwyno gwybodaeth a chyfathrebu da.
Dymunol
Cyfwerth a NVQ lefel 3 mewn gweinyddu.
Cymhwyster Technoleg Gwybodaeth
Cymwyster Diogelu data.
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o:
weithio ym maes addysg.
weithio gyda gwahanol asiantaethau / grwpiau o bob sector.
gofnodi mewn cyfarfodydd
sefydlu systemau gweinyddol
ddefnyddio systemau rheoli gwybodaeth megis ONE
weithio mewn swyddfa prysur
Dymunol
Cynghori a darparu arweiniad ar faterion yn ymwneud â’r maes ADY a
Chynhwysiad.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gwybodaeth ynglŷn â’r datblygiadau diweddaraf yn y maes ADY a Chynhwysiad.
Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth a chynhyrchu adroddiadau.
Sgiliau cofnodi cryf.
Sgiliau gofal cwsmer ardderchog .
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar, wrth drin pobl, ac ar bapur, a pharchu’r angen i fod yn gyfrinachol.
Gallu i ddefnyddio cyfrifiadur ynghyd â gwybodaeth am becynnau Microsoft Office e.e. Word, Excel, Powerpoint
Sgiliau trefnu a blaenoriaethu.
Gallu i weithio’n annibynol heb oruchwyliaeth
Gallu i weithio i amserlen dyn.
Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn.
Dymunol
-
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)