Swyddi ar lein
Gweithiwr Cynnal Tiroedd
Gweler Hysbyseb Swydd | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27140
- Teitl swydd:
- Gweithiwr Cynnal Tiroedd
- Adran:
- Priffyrdd, Peirianneg a YGC
- Dyddiad cau:
- 07/05/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol
- Cyflog:
- Gweler Hysbyseb Swydd
- Gradd tâl:
- GS2
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Lleoliad: Dolgellau neu Tywyn
Oriau wythnosol: Gweler isod
Cyflog: £11.78 - £11.98 yr awr
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Clive Jones ar 0778 856 8285
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, 07/05/2024
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r
cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Oriau Gwaith
Byddwch yn gweithio ar gyfartaledd 37 awr yr wythnos(heb gynnwys amser prydau bwyd) dros flwyddyn gyda oriau Haf o 45 awr ac oriau Gaeaf o 29 awr fel a ganlyn.
Cyfnod yr Haf – 26 wythnos
45 awr yr wythnos (dyddiadau i’w gadarnhau gan eich Rheolwr Llinell)
Oriau gwaith 7.00 o’r gloch y bore tan 4.30 o’r gloch y prynhawn ddydd Llun i ddydd Gwener.
9 awr pob dydd x 5 diwrnod x 26 wythnos = 1170 awr
Cyfnod y Gaeaf – 26 wythnos
29 awr yr wythnos (dyddiadau i’w gadarnhau gan eich Rheolwr Llinell)
Oriau gwaith 8.00 o’r gloch y bore tan 3.45 o’r gloch y prynhawn o ddydd Llun i ddydd Iau.
7.25 awr pob dydd x 4 diwrnod x 26 wythnos = 754 awr
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Y gallu i weithio yn unigol ac fel rhan o dîm.
DYMUNOL
Y gallu i gyfathrebu gyda’r cyhoedd.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Bod yn berchen ar drwydded yrru gyfredol llawn.
DYMUNOL
Gwybodaeth o Gynnal Tiroedd / Amaethyddiaeth ac ardaloedd eraill.
Tystysgrif PA1, PA2, PA6
Trwydded Cerbyd Trwm gan gynnwys categoriau B ac E (trelars)
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Gwybodaeth o’r ardal, lleoliadau ac ati.
DYMUNOL
Profiad o weithio yn y maes Cynnal Tiroedd neu Amaethyddiaeth.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Ymwybyddiaeth o’r ardal.
DYMUNOL
Gwybodaeth o’r maes Cynnal Tiroedd neu Amaethyddiaeth.
ANGHENION IEITHYDDOLHANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir. Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.Darllen a Deall - Lefel Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.Ysgrifennu - Lefel Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu’n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Rôl• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
• Ymgymryd â gweithgareddau medrus mewn perthynas â chynnal a chadw tiroedd a pharatoadau beddi mewn dull effeithiol, effeithlon ac economaidd.
Cyfrifoldeb am Adnoddau
• Cyfrifoldeb am gerbydau, offer, peiriannau a nwyddau sy'n berthnasol â'r Gwasanaeth Cynnal Tiroedd
Prif Ddyletswyddau
Cyfrifoldebau i gynnwys:
• Gyrru a defnyddio peiriannau ac offer trwm / cymhleth sy'n gofyn am sgiliau arbenigol h.y. peiriant torri gwair ar eistedd, peiriannau malu coed, torwyr gwrychoedd, llifiau cadwyn a'r defnydd diogel o offer cynnal arbenigol (cynnal tiroedd) yn ystod gwaith agor beddi
• Gweithredu pympiau dŵr
• Rheoli traffig
• Ymgymryd â gweithgareddau medrus sy'n cynnwys adnabod gwaith cynnal tiroedd a dehongli gweithgareddau
Tasg
• Sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau mewn modd diogel ac yn unol â'r holl asesiadau risg a gweithdrefnau gweithredu diogel.
• Yn ystod tywydd garw ac mewn cydweithrediad gyda'r Uwch Arweinydd Tîm, cyfrifoldeb am benderfynu i unai parhau, newid neu wahardd gweithredoedd.
• Bod yn ymwybodol o ofynion Cyfoeth Naturiol Cymru a rheolyddion eraill o ran y defnydd o gemegolion lladd chwyn.
• Agor a chau’r depo a chyfrifoldeb am adrodd am unrhyw broblemau ar y safle.
• Defnydd o Dechnoleg i adrodd ar gynnydd tasgau a osodwyd ac adrodd am unrhyw wyriadau o'r atodlen waith i reolwr llinell
• Pob agwedd o gynnal tiroedd mewn ysgolion ynghyd â marcio ardaloedd chwarae caled a meddal
• Pob agwedd o gynnal tiroedd mewn Cartrefi Gofal gan gadw at brotocolau diogelwch llym er mwyn diogelu lles preswylwyr.
• Adrodd i reolwr llinell am unrhyw safleoedd chwyn newydd hysbysadwy a welir yn ystod gwaith cynnal a chadw ardaloedd. Sef, Llysiau’r Dial, Ffromlys Chwarennog a Llysiau'r Gingroen.
• Adrodd i reolwr llinell am unrhyw amrywiad mewn manylion safle o'r ymweliad blaenorol a allai newid manylion y gwaith sef, yn bennaf, gwaith sgaffaldiau, gwaith adeiladu, rhwystrau cyffredinol
• Bod yn hyderus i ail-werthuso'r dull mwyaf effeithlon i gwblhau'r llwybr / amserlen mewn ardal benodol pan fo angen er mwyn ymdopi gyda chau ffyrdd, tywydd garw a blaenoriaethu ceisiadau brys h.y. gwaith beddi.
• Cyfrannu at ddyluniad llwybrau a gweithrediad unrhyw batrwm gwaith llwybrau newydd
• Torri gordyfiant / chwyn mewn ardaloedd / lonydd trefol prysur gan weithio'n ddiogel a rheoli traffig a cherddwyr.
• Rheoli amser yn effeithiol i sicrhau bod y llwybr / amserlen yn cael ei chwblhau.
• Bod yn ymwybodol o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Bod yn wyliadwrus wrth ddiogelu bywyd gwyllt rhag gwaith Cynnal Tiroedd, yn enwedig adar sy'n nythu.
• Bod â lefel dda o ddealltwriaeth am ffawna naturiol mewn ardaloedd gwaith, i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth. Mae'r Gwasanaeth Cynnal Tiroedd yn cymryd rhan mewn treialon ac yn creu lleoliadau newydd i wella coridorau bywyd gwyllt naturiol i gefnogi bioamrywiaeth.
• Cynorthwyo gyda anwytho staff yn cynnwys mentora staff llawn amser a thymhorol newydd.
Ymgymryd â hyfforddiant ar ddefnydd diogel o'r offer / tasgau isod:• Rheoli traffig (cymhwyster 12D M1)
• Defnyddio offer Reactec HAVS
• Defnyddio peiriant asglodi coed
• Defnyddio llif polyn telesgopig
• Gwaith llif gadwyn
• Lladd chwyn PA 1 a PA 6
• Trin llysiau'r dial
• Cynnal ffosydd ar gyfer beddi
Ymgymryd â'r gwaith isod yn ôl yr angen:
• Peintio ac atgyweirio meinciau ynghyd â thoiledau cyhoeddus ac offer chwarae
• Gosod dodrefn eistedd wedi'u hailgylchu
• Ffensio yn defnyddio dulliau amrywiol "Chain Link" "Post & Rail"
• Codi waliau cerrig "Dry Construction" neu gyda morter
• Creu a gosod concrid neu darmac ar gyfer llwybrau cerdded
• Atgyweirio tyllau yn y ffordd gyda Tharmac
• Gosod biniau sbwriel cyhoeddus newydd
Cerbydau a Pheiriannau• Cydymffurfio gyda Pholisïau’r Awdurdod, gwneud gwiriadau cyn defnyddio i sicrhau bod cerbydau yn addas ar gyfer y ffordd fawr cyn eu defnyddio. Rhaid adrodd am unrhyw broblemau neu ddiffygion i'r rheolwr llinell ar unwaith.
• Dal trwydded i yrru cerbyd dosbarth BE mewn modd diogel a chwrtais yn unol â chyfyngiadau cyflymder ffordd ac o fewn gofynion y gyfraith. Gallai elfen o'r gwaith ofyn am dynnu trelar neu offer arall y gellir ei dynnu.
• Sicrhau bod y gweithdrefnau cywir yn cael eu dilyn mewn perthynas â gwneud gwiriadau dyddiol, gwaith cynnal a chadw a defnyddio peiriannau/offer, ac adrodd am ddiffygion a phroblemau ar unwaith.
• Mynychu hyfforddiant a bod â lefel dda o ddealltwriaeth am offer amrywiol /arbenigol megis peiriannau torri gwair ar eistedd, peiriannau asglodi coed ac unrhyw offer arall sydd ei angen i ymgymryd â dyletswyddau cynnal tiroedd.
• Ymgymryd â newidiadau i osodiadau offer a mân waith trwsio yn unol â'r hyfforddiant a dderbyniwyd.
• Cyfrifoldeb am gynnal a chadw'r offer hynny bob dydd, olew peiriannau, dŵr, math/lefelau tanwydd, pwyseddau teiars.
• Sicrhau digon o stoc o rannau / rhannau sbâr peiriannau drwy ddiweddaru'r rheolwr llinell am lefelau stoc (Strimmer Cord 2- stroke oil, strimmer heads ac ati)
• Rheoli'r rhyngwyneb gyda'r Gwasanaeth Fflyd o ran amserlenni sydd wedi'u sefydlu ar sail dydd i ddydd a threfnu i gerbydau gael eu cyflwyno i'r gweithdy ar amser ar gyfer chwech archwiliad wythnosol, MOT ac atgyweiriadau.
Iechyd a Diogelwch• Cyfrifoldeb i warchod hunan ddiogelwch, diogelwch cydweithwyr ac aelodau o'r cyhoedd.
• Gweithio'n unol â'r holl weithdrefnau gweithio'n ddiogel, asesiadau risg a pholisïau'r Cyngor yn unol â chyfrifoldebau gweithwyr a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch 1974.
• Gwisgo offer gwarchod personol yn cynnwys siacedi adlewyrchol, trowsusau balistig, esgidiau diogelwch ac unrhyw ddillad gwarchod neu ddillad perthnasol.
• Cymryd rhan mewn archwiliadau Iechyd a Diogelwch ac arddangos dealltwriaeth o risg a chydymffurfiaeth.
• Adrodd a chynorthwyo i gwblhau HS11 damwain / digwyddiad treisgar / digwyddiad agos / digwyddiadau amgylcheddol yn ogystal ag unrhyw ffurflenni yswiriant.
• Cyfrannu at asesiadau risg a gweithdrefnau gweithio ac arddangos ymwybyddiaeth o risg a chydymffurfiaeth.
• Hybu diwylliant gweithio diogel.
Gweinyddiaeth
• Gweinyddiaeth gyffredinol sy'n berthnasol i'r gwasanaeth. Llenwi amserlenni cyflogau a cheisiadau gwyliau.
• Sicrhau bod ffurflenni gwaith dydd yn cael eu cwblhau'n gywir er dibenion anfonebu.
• Adrodd ar gynnydd gwaith drwy daflenni gwaith / cadarnhad ffôn symudol a ffotograffig ar y gwaith a gwblhawyd h.y. cyn ac ar ôl er mwyn diweddaru systemau TG. Rhaid i adroddiad fod yn gywir a manwl er mwyn cynhyrchu adroddiadau cwsmer.
Gofal Cwsmer
• Sicrhau bod y lefel uchaf o ofal cwsmer yn cael ei gynnal - Ymgysylltu'n hyderus a brwdfrydig gyda'r cyhoedd a busnesau, gallu trafod amryw o elfennau cynnal tiroedd wrth weithio i safon uchel a bod yn wybodus am fanylion contract (Cynghorau Cymuned, Cynghorau Tref, Byw'n Iach, Adra)
• Ymdrin ag aelodau o'r cyhoedd sydd wedi cael profedigaeth mewn modd barchus ac empathetig a'u cynorthwyo wrth ymgymryd â dyletswyddau mynwentydd.
• Cynnal pob trafodaeth gydag aelodau o'r cyhoedd, adrannau eraill a chwsmeriaid allanol mewn modd cyfeillgar.
Corfforaethol• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Mae’r uchod yn amlinelliad o’r dyletswyddau yn unig, er mwyn rhoi syniad o lefel y cyfrifoldeb sydd ynghlwm â’r swydd. Nid yw’r swydd ddisgrifiad yn gyflawn o ran y manylion, a gall dyletswyddau’r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid natur a lefel cyfrifoldeb sylfaenol y swydd.
Amgylchiadau Arbennig e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
Gallai staff gael eu dirprwyo i gynorthwyo gyda'r Adran Priffyrdd i gynorthwyo gyda gwaith cynnal a chadw brys yn y gaeaf; gallai hyn gynnwys gweithio mewn tywydd garw i glirio rhew, eira a llifogydd.Bydd angen i ddeilydd y swydd weithio goramser o bryd i'w gilydd.