Pwrpas y Rôl
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
• Ymgymryd â gweithgareddau medrus mewn perthynas â chynnal a chadw tiroedd a pharatoadau beddi mewn dull effeithiol, effeithlon ac economaidd.
Cyfrifoldeb am Adnoddau
• Cyfrifoldeb am gerbydau, offer, peiriannau a nwyddau sy'n berthnasol â'r Gwasanaeth Cynnal Tiroedd
Prif Ddyletswyddau
Cyfrifoldebau i gynnwys:
• Gyrru a defnyddio peiriannau ac offer trwm / cymhleth sy'n gofyn am sgiliau arbenigol h.y. peiriant torri gwair ar eistedd, peiriannau malu coed, torwyr gwrychoedd, llifiau cadwyn a'r defnydd diogel o offer cynnal arbenigol (cynnal tiroedd) yn ystod gwaith agor beddi
• Gweithredu pympiau dŵr
• Rheoli traffig
• Ymgymryd â gweithgareddau medrus sy'n cynnwys adnabod gwaith cynnal tiroedd a dehongli gweithgareddau
Tasg
• Sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau mewn modd diogel ac yn unol â'r holl asesiadau risg a gweithdrefnau gweithredu diogel.
• Yn ystod tywydd garw ac mewn cydweithrediad gyda'r Uwch Arweinydd Tîm, cyfrifoldeb am benderfynu i unai parhau, newid neu wahardd gweithredoedd.
• Bod yn ymwybodol o ofynion Cyfoeth Naturiol Cymru a rheolyddion eraill o ran y defnydd o gemegolion lladd chwyn.
• Agor a chau’r depo a chyfrifoldeb am adrodd am unrhyw broblemau ar y safle.
• Defnydd o Dechnoleg i adrodd ar gynnydd tasgau a osodwyd ac adrodd am unrhyw wyriadau o'r atodlen waith i reolwr llinell
• Pob agwedd o gynnal tiroedd mewn ysgolion ynghyd â marcio ardaloedd chwarae caled a meddal
• Pob agwedd o gynnal tiroedd mewn Cartrefi Gofal gan gadw at brotocolau diogelwch llym er mwyn diogelu lles preswylwyr.
• Adrodd i reolwr llinell am unrhyw safleoedd chwyn newydd hysbysadwy a welir yn ystod gwaith cynnal a chadw ardaloedd. Sef, Llysiau’r Dial, Ffromlys Chwarennog a Llysiau'r Gingroen.
• Adrodd i reolwr llinell am unrhyw amrywiad mewn manylion safle o'r ymweliad blaenorol a allai newid manylion y gwaith sef, yn bennaf, gwaith sgaffaldiau, gwaith adeiladu, rhwystrau cyffredinol
• Bod yn hyderus i ail-werthuso'r dull mwyaf effeithlon i gwblhau'r llwybr / amserlen mewn ardal benodol pan fo angen er mwyn ymdopi gyda chau ffyrdd, tywydd garw a blaenoriaethu ceisiadau brys h.y. gwaith beddi.
• Cyfrannu at ddyluniad llwybrau a gweithrediad unrhyw batrwm gwaith llwybrau newydd
• Torri gordyfiant / chwyn mewn ardaloedd / lonydd trefol prysur gan weithio'n ddiogel a rheoli traffig a cherddwyr.
• Rheoli amser yn effeithiol i sicrhau bod y llwybr / amserlen yn cael ei chwblhau.
• Bod yn ymwybodol o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Bod yn wyliadwrus wrth ddiogelu bywyd gwyllt rhag gwaith Cynnal Tiroedd, yn enwedig adar sy'n nythu.
• Bod â lefel dda o ddealltwriaeth am ffawna naturiol mewn ardaloedd gwaith, i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth. Mae'r Gwasanaeth Cynnal Tiroedd yn cymryd rhan mewn treialon ac yn creu lleoliadau newydd i wella coridorau bywyd gwyllt naturiol i gefnogi bioamrywiaeth.
• Cynorthwyo gyda anwytho staff yn cynnwys mentora staff llawn amser a thymhorol newydd.
Ymgymryd â hyfforddiant ar ddefnydd diogel o'r offer / tasgau isod:
• Rheoli traffig (cymhwyster 12D M1)
• Defnyddio offer Reactec HAVS
• Defnyddio peiriant asglodi coed
• Defnyddio llif polyn telesgopig
• Gwaith llif gadwyn
• Lladd chwyn PA 1 a PA 6
• Trin llysiau'r dial
• Cynnal ffosydd ar gyfer beddi
Ymgymryd â'r gwaith isod yn ôl yr angen:
• Peintio ac atgyweirio meinciau ynghyd â thoiledau cyhoeddus ac offer chwarae
• Gosod dodrefn eistedd wedi'u hailgylchu
• Ffensio yn defnyddio dulliau amrywiol "Chain Link" "Post & Rail"
• Codi waliau cerrig "Dry Construction" neu gyda morter
• Creu a gosod concrid neu darmac ar gyfer llwybrau cerdded
• Atgyweirio tyllau yn y ffordd gyda Tharmac
• Gosod biniau sbwriel cyhoeddus newydd
Cerbydau a Pheiriannau
• Cydymffurfio gyda Pholisïau’r Awdurdod, gwneud gwiriadau cyn defnyddio i sicrhau bod cerbydau yn addas ar gyfer y ffordd fawr cyn eu defnyddio. Rhaid adrodd am unrhyw broblemau neu ddiffygion i'r rheolwr llinell ar unwaith.
• Dal trwydded i yrru cerbyd dosbarth BE mewn modd diogel a chwrtais yn unol â chyfyngiadau cyflymder ffordd ac o fewn gofynion y gyfraith. Gallai elfen o'r gwaith ofyn am dynnu trelar neu offer arall y gellir ei dynnu.
• Sicrhau bod y gweithdrefnau cywir yn cael eu dilyn mewn perthynas â gwneud gwiriadau dyddiol, gwaith cynnal a chadw a defnyddio peiriannau/offer, ac adrodd am ddiffygion a phroblemau ar unwaith.
• Mynychu hyfforddiant a bod â lefel dda o ddealltwriaeth am offer amrywiol /arbenigol megis peiriannau torri gwair ar eistedd, peiriannau asglodi coed ac unrhyw offer arall sydd ei angen i ymgymryd â dyletswyddau cynnal tiroedd.
• Ymgymryd â newidiadau i osodiadau offer a mân waith trwsio yn unol â'r hyfforddiant a dderbyniwyd.
• Cyfrifoldeb am gynnal a chadw'r offer hynny bob dydd, olew peiriannau, dŵr, math/lefelau tanwydd, pwyseddau teiars.
• Sicrhau digon o stoc o rannau / rhannau sbâr peiriannau drwy ddiweddaru'r rheolwr llinell am lefelau stoc (Strimmer Cord 2- stroke oil, strimmer heads ac ati)
• Rheoli'r rhyngwyneb gyda'r Gwasanaeth Fflyd o ran amserlenni sydd wedi'u sefydlu ar sail dydd i ddydd a threfnu i gerbydau gael eu cyflwyno i'r gweithdy ar amser ar gyfer chwech archwiliad wythnosol, MOT ac atgyweiriadau.
Iechyd a Diogelwch
• Cyfrifoldeb i warchod hunan ddiogelwch, diogelwch cydweithwyr ac aelodau o'r cyhoedd.
• Gweithio'n unol â'r holl weithdrefnau gweithio'n ddiogel, asesiadau risg a pholisïau'r Cyngor yn unol â chyfrifoldebau gweithwyr a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch 1974.
• Gwisgo offer gwarchod personol yn cynnwys siacedi adlewyrchol, trowsusau balistig, esgidiau diogelwch ac unrhyw ddillad gwarchod neu ddillad perthnasol.
• Cymryd rhan mewn archwiliadau Iechyd a Diogelwch ac arddangos dealltwriaeth o risg a chydymffurfiaeth.
• Adrodd a chynorthwyo i gwblhau HS11 damwain / digwyddiad treisgar / digwyddiad agos / digwyddiadau amgylcheddol yn ogystal ag unrhyw ffurflenni yswiriant.
• Cyfrannu at asesiadau risg a gweithdrefnau gweithio ac arddangos ymwybyddiaeth o risg a chydymffurfiaeth.
• Hybu diwylliant gweithio diogel.
Gweinyddiaeth
• Gweinyddiaeth gyffredinol sy'n berthnasol i'r gwasanaeth. Llenwi amserlenni cyflogau a cheisiadau gwyliau.
• Sicrhau bod ffurflenni gwaith dydd yn cael eu cwblhau'n gywir er dibenion anfonebu.
• Adrodd ar gynnydd gwaith drwy daflenni gwaith / cadarnhad ffôn symudol a ffotograffig ar y gwaith a gwblhawyd h.y. cyn ac ar ôl er mwyn diweddaru systemau TG. Rhaid i adroddiad fod yn gywir a manwl er mwyn cynhyrchu adroddiadau cwsmer.
Gofal Cwsmer
• Sicrhau bod y lefel uchaf o ofal cwsmer yn cael ei gynnal - Ymgysylltu'n hyderus a brwdfrydig gyda'r cyhoedd a busnesau, gallu trafod amryw o elfennau cynnal tiroedd wrth weithio i safon uchel a bod yn wybodus am fanylion contract (Cynghorau Cymuned, Cynghorau Tref, Byw'n Iach, Adra)
• Ymdrin ag aelodau o'r cyhoedd sydd wedi cael profedigaeth mewn modd barchus ac empathetig a'u cynorthwyo wrth ymgymryd â dyletswyddau mynwentydd.
• Cynnal pob trafodaeth gydag aelodau o'r cyhoedd, adrannau eraill a chwsmeriaid allanol mewn modd cyfeillgar.
Corfforaethol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Mae’r uchod yn amlinelliad o’r dyletswyddau yn unig, er mwyn rhoi syniad o lefel y cyfrifoldeb sydd ynghlwm â’r swydd. Nid yw’r swydd ddisgrifiad yn gyflawn o ran y manylion, a gall dyletswyddau’r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid natur a lefel cyfrifoldeb sylfaenol y swydd.
Amgylchiadau Arbennig e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
Gallai staff gael eu dirprwyo i gynorthwyo gyda'r Adran Priffyrdd i gynorthwyo gyda gwaith cynnal a chadw brys yn y gaeaf; gallai hyn gynnwys gweithio mewn tywydd garw i glirio rhew, eira a llifogydd.
Bydd angen i ddeilydd y swydd weithio goramser o bryd i'w gilydd.