Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo'r Rheolwr Diogelwch a Gwaith Rhaglenedig i sicrhau fod gweithdrefnau Cydymffurfiaeth a pholisïau Iechyd a Diogelwch y Cyngor yn cael eu dilyn i sicrhau fod adeiladau corfforaethol y Cyngor yn addas yw defnyddio.
•Sicrhau bod gan y Cyngor ddarlun llawn a dealltwriaeth o gyflwr ei adeiladau.
•Cefnogi rheolwyr safle i gyflawni eu dyletswyddau o ran rheoli a chynnal adeiladau’r Cyngor.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Offer - Offer mesur, camera, ffôn symudol a.y.y.b.
Prif ddyletswyddau
•Cynorthwyo i reoli a datblygu gweithdrefnau’r Cyngor i sicrhau Cydymffurfiaeth gyda deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch mewn perthynas ag eiddo’r Cyngor.
•Cynnal archwiliadau Eiddo manwl o adeiladau’r Cyngor, mewn ymgynghoriad â defnyddwyr yr adeiladau.
•Dehongli canlyniadau adroddiadau gwasanaethau a defnyddio’r wybodaeth i helpu llunio’r archwiliadau Eiddo.
•Dehongli data galwadau am waith a defnyddio’r wybodaeth i helpu llunio’r archwiliadau cyflwr.
•Cefnogi paratoi rhaglenni gwaith rhaglenedig cynnal a chadw.
•Diweddaru a dadansoddi data cyflwr y stoc adeiladau yn gyson.
•Prisio a chreu briff ar gyfer comisiynu gwaith rhaglenedig a chydymffurfiaeth.
•Arwain a chynghori ar drefn hawl i weithio'r Cyngor.
•Sicrhau fod rheolwyr safle yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau cynnal a chadw fel sydd wedi ei gytuno yn y Cytundeb lefel Gwasanaeth.
•Sicrhau fod rheolwyr safle yn ymwybodol o’r materion a adnabyddir yn yr archwiliadau cyflwr sy’n gyfrifoldeb arnyn nhw i’w gweithredu a monitro eu bod yn ymgymryd â’r gwaith yn safonol ac amserol.
•Sicrhau bod sustemau gwybodaeth eiddo’r Cyngor yn cael eu diweddaru wedi i unrhyw waith gael ei wneud ar adeilad, fel eu bod yn gyfredol.
•Comisiynu gwaith, gan dimau eraill o fewn y Cyngor a gan ymgynghorwyr allanol.
•Paratoi manylebau gwaith, dyluniadau ac apwyntio contractwyr a neu ymgynghorwyr, yn unol â rheoliadau ariannol y Cyngor.
•Comisiynu ymgynghorwyr i ychwanegu gwerth pan fo’r angen. Dadansoddi argymhellion yr ymgynghorwyr, dod i gasgliadau a gweithredu’n briodol.
•Archwilio gwaith i sicrhau ei fod yn cwrdd â safonau, yn unol â rheoliadau iechyd a diogelwch ac yn cynrychioli gwerth am arian gan gynnwys ymgymryd â rôl clerc gwaith ar rhai cynlluniau.
•Dilyn canllawiau’r Cyngor o ran comisiynu a rheoli contractwyr.
•Cynghori gweithwyr ar safleoedd ynglŷn â beth i’w wneud pan fo problemau hefo’r adeiladau.
•Dehongli gwybodaeth a phenderfynu ar y trywydd gorau o ran gweithredu.
•Comisiynu contractwyr gan ddilyn canllawiau’r Cyngor o ran comisiynu a rheoli contractwyr.
•Tynnu ar gefnogaeth sy’n ychwanegu gwerth os nad ydy’r sgiliau a’r wybodaeth ganddo’ch i ddatrys y materion eich hun.
•Dod i ddeall y galw am y gwasanaeth drwy dystiolaeth.
•Gweithredu ar y dystiolaeth i wella a datblygu’r system a newid natur y galw.
•Adnabod rhwystrau i ddarparu gwasanaeth effeithiol a chost effeithlon a chefnogi cael gwared á’r rhwystrau.
•Sicrhau bod ansawdd yn rhan greiddiol o bob cam o’r gwaith.
•O bryd yw gilydd ymdrin ag anfonebau gan gontractwyr a dilyn prosesau gweithredu cyllidol y Cyngor.
•Cymryd penderfyniadau ar sail arbenigedd yn y gwaith.
•Sicrhau bod gwaith yn cael ei gynllunio a’i gyflawni i safon uchel o ran diogelwch.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gofyn i weithio o swyddfeydd eraill y Cyngor yn ôl yr angen. Mae’r gwasanaeth cynnal a chadw yn wasanaeth 24/7 a bydd aelodau’r tim yn rhan o rota i ddarparu gwasanaeth tu allan i oriau swyddfa arferol.