NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Brwdfrydig ac ymroddgar ac yn gallu gweithio’n dda fel aelod o dîm
Ymrwymedig i welliant parhaus.
Ymgorffori gweledigaeth Polisi Iaith Gwynedd.
Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.
DYMUNOL
Profiad ac ymwybyddiaeth dda o Fframwaith y Siarter Iaith
Profiad ac ymwybyddiaeth o weithredu gofynion y Siater a gwaith clwstwr.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd Anrhydedd.
Statws athro/athrawes wedi cymhwyso.
DYMUNOL
Gradd Uwch neu gymhwyster cyfwerth.
Tystiolaeth o ddatblygiadau proffesiynol parhaus perthnasol.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o ddatblygu strategaethau ysgol gyfan mewn meysydd allweddol megis addysgu a dysgu a neu lles a chynhwysiad.
Profiad o sefydlu ac adeiladu partneriaethau gyda rhieni, y gymuned a gyda phartneriaid eraill.
DYMUNOL
Tystiolaeth o brofiad cyson a pherthnasol o arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol.
Tystiolaeth o weithio’n effeithiol gyda rhanddeiliaid Ysgol
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
- Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol.
- Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sector cynradd.
- Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o brosesau gwella’r ysgol.
- Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy’n sicrhau safonau uchel o ymddygiad a phresenoldeb.
- Gallu paratoi strategaethau ar gyfer sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, amrywiaeth a mynediad.
- Meddu ar wybodaeth dda o rôl y corf llywodraethol ac yn gallu gweithredu strategaethau gwelliant parhaus ac atebolrwydd.
- Meddu ar wybodaeth dda o’r cwricwlwm ehangach tu hwnt i’r ysgol a’r cyfleoedd ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol.
- Dangos brwdfrydedd personol at y defnydd o’r Iaith Gymraeg yn yr ysgol.
- Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau diweddaraf addysg yn genedlaethol.
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad – Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi’i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall – Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni’r swydd.
Ysgrifennu – Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnoleg ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae’n bosibl cael cymorth i wirio’r iaith).