Pwrpas y Swydd
Bydd deilydd y swydd yn gweithio gyda timau bugeiliol yr ysgol i hyrwyddo presenoldeb da drwy ddefnyddio data, gweithio gyda disgyblion unigol a’u teuluoedd a chysylltu â gwasanaethau cymorth allanol, gan gynnwys y Swyddog Lles Addysg.
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol yn uniongyrchol i’r Pennaeth, ac yn gweithio’n rhagweithiol mewn partneriaeth â’r Uwch Dim Rheoli i sicrhau gwasanaethau cymorth effeithiol ac effeithlon i gyflawni blaenoriaethau’r ysgol.
2 Prif Gyfrifoldebau
2.1 Cyfrannu tuag at yr agenda o wella presenoldeb disgyblion Ysgol Godre’r Berwyn.
2.2 Gweithio gyda timau bugeiliol yr ysgol i hyrwyddo presenoldeb drwy ddefnyddio data,
gweithio gyda disgyblion unigol a’u teuluoedd a chysylltu â gwasanaethau cymorth allanol,
gan gynnwys y Swyddog Lles Addysg.
2.3 Cynghori a chynorthwyo teuluoedd i sicrhau bod eu plant yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd a
chyfathrebu gweithdrefnau presenoldeb a disgwyliadau'r ysgol yn glir.
2.4 Tracio presenoldeb disgyblion trwy gasglu a dadansoddi data/tueddiadau presenoldeb.
2.5 Cynorthwyo disgyblion i gyrraedd eu potensial academaidd drwy gyflwyno pecynnau cymorth
megis Agored Cymru drwy adeiladu ar y profiadau addysgol yn yr ystafell ddosbarth a thu
allan.
3. Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
3.1 Cyfleu pryderon presenoldeb i rieni a gofalwyr.
3.2 Cadw cofnodion priodol gan ddefnyddio systemau rheoli gwybodaeth yr ysgol, gan gynnwys
tracio presenoldeb disgyblion drwy gasglu a dadansoddi data a thueddiadau presenoldeb a
phrydlondeb.
3.3 Monitro gweithredu yn dilyn anfon llythyrau presenoldeb a phrydlondeb i rieni.
3.4 Trefnu cyfarfodydd cyswllt i ddisgyblion sy’n dychwelyd i'r ysgol yn dilyn gwaharddiad.
3.5 Trefnu cyfarfodydd gyda rhieni pan mae pryder am bresenoldeb a/neu brydlondeb.
3.6 Ymweld â chartrefi disgyblion er mwyn canfod ffordd i wella canran presenoldeb.
3.7 Ymweld â chartrefi i drafod agweddau o les y disgybl all fod yn achosi pryder i’r ysgol.
3.8 Sicrhau cyswllt cryf rhwng ysgol a chartref.
3.9 Cydgysylltu ag athrawon pwnc pan fo'n briodol, gan goladu adnoddau a chael gwybodaeth
allweddol am raglenni astudio er mwyn paratoi ar gyfer cefnogi disgyblion yn ystod eu diwrnod.
3.8 Ymgyfarwyddo â gwaith ar-lein a chefnogi disgyblion i gael mynediad i wersi neu waith arall y
cytunwyd arno
3.9 Rhoi adborth ac anogaeth i ddisgyblion mewn perthynas â'u cynnydd.
3.10 Cefnogi goruchwylio disgyblion sy'n cael eu gwahardd yn fewnol amser egwyl ac amser cinio.
3.11 Hyrwyddo gwerthoedd, agweddau ac ymddygiad cadarnhaol bob amser.
3.12 Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth
3.13 Cefnogi ac enghreifftio safonau uchel o ymddygiad personol mewn cytgord â Chod Ymddygiad yr
ysgol a sicrhau bod gan ddisgyblion fynediad at yr holl offer sydd eu hangen arnynt i weithio'n
dawel.
4 Diogelu
4.1 Bod yn ymwybodol a chydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud â diogelu plant
(e.e. Cadw Plant yn Ddiogel mewn Addysg, Atal), ein polisïau diogelu ac amddiffyn plant yn ogystal ag iechyd, diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data.
4.2 Gweithio gyda'r UDA i hyrwyddo buddiannau gorau disgyblion, gan gynnwys rhannu pryderon lle bo angen.
4.3 Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
4.4 Hyrwyddo diogelu holl ddisgyblion yr ysgol.
5 Llywodraethwyr
5.1 Paratoi adroddiadau tymhorol ar bresenoldeb a thriwantiaeth mewn ymgynghoriad ag Ysgolion ar gyfer Cyrff Llywodraethwyr ac unrhyw gorff arall ar gais y pennaeth.
5.2 Cofnodi cyfarfodydd staff yr ysgol ar gais y pennaeth.