Swyddi ar lein
Peiriannydd Prosiectau
£37,336 - £39,186 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27119
- Teitl swydd:
- Peiriannydd Prosiectau
- Adran:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Gwasanaeth:
- Uned Darparu ac Arolygu
- Dyddiad cau:
- 26/04/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol
- Cyflog:
- £37,336 - £39,186 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS1
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Peiriannydd Prosiectau
CYFLOG: PS1 (SCP 29-31) £37,336 - £39,186
LLEOLIAD: un o’r swyddfeydd isod
Conwy, Helygain, Bangor, Llandrindod, Dre Newydd neu Aberaeron
Bydd y Peiriannydd Prosiectau a Rhaglenni yn gyfrifol am gynorthwyo'r Rheolwr Contract a Chaffael i oruchwylio a chydlynu holl brosiectau amlddisgyblaeth yr Asiantaeth mewn perthynas â sicrhau bod y gofynion cost, amser ac ansawdd yn cael eu cyflwyno.
Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r swydd cysylltwch â Mark McNamara ar 07833 400560.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swyddi hyn / For this post, the ability to communicate in English is essential.
Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu drwy ffonio 01286 679076.
Dyddiad Cau: 10.00yb, DYDD IAU 25 o Ebrill 2024
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu gweithio dan bwysau
Yn ymroddgar ac â’r gallu i'w gymell ei hun
Gallu derbyn, cydweddu a gwerthuso gwybodaeth o amryfal ffynonellau
Rhaid i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig a meddu ar y gallu i weithio gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
HNC neu gyfwerth mewn Peirianneg Sifil neu ddisgyblaeth briodol.
DYMUNOL
Aelod o gorff proffesiynol priodol
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad perthnasol wrth reoli a chyflawni cynlluniau gwella isadeiledd
DYMUNOL
Profiad o gydlynu a rheoli rhaglenni gwaith
Profiad o weinyddu contractau a chaffael prosiectau
Profiad o reoli contractwyr ac ymgynghorwyr allanol
Profiad o reoli cyllidebau i gyflawni prosiectau seilwaith
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu trefnu blaenoriaethau gwaith, cynllunio ymlaen llaw a chyflwyno rhaglenni gwaith yn brydlon gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosib
Gallu i weithio'n effeithiol i ddyddiadau cau cytunedig a chydlynu a rheoli eich gwaith eich hun a'i gyflwyno i gwrdd â'r rhaglenni a gytunwyd
Ymgymryd â dyletswyddau’n hyderus ac yn broffesiynol, gyda’r gallu i ddangos arloesedd a chreadigrwydd
Gallu derbyn, cydweddu a gwerthuso gwybodaeth o amryw o ffynonellau, a darparu argymhellion manwl
Dealltwriaeth o reoli prosiectau a phrosesau allweddol wrth gyflwyno prosiectau unigol mewn amgylchedd peirianyddol neu adeiladu
Trwydded yrru gyfredolDYMUNOL
Sgiliau rhyngbersonol da a sgiliau dadansoddi cryf
Sgiliau dadansoddi a rheolaeth ariannol.
Gwybodaeth drylwyr o ddeddfwriaeth, safonau a pholisïau eraill sy’n ymwneud â Rheoli Prosiect.
Dealltwriaeth o'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i weinyddu prosiectau adeiladu trwy ddulliau caffael cyfoes e.e. Trefniant Contractau NEC
Gwybodaeth am gyflwyno prosiectau adeiladu gan ddefnyddio cytundebau fframwaith.
GOFYNION IAITH
Gwrando a siarad
Cymraeg yn ddymunol
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd .
1. Cynorthwyo'r Rheolwr Contractau a Chaffael i oruchwylio a chydlynu holl brosiectau aml-ddisgyblaethol yr Asiant o ran sicrhau cyflawni'n unol â'r gofynion cost, amser ac ansawdd.2. Cynorthwyo gyda chydlynu a rhaglennu rhaglen flynyddol a phum mlynedd yr Asiantaeth o gynlluniau adnewyddu, uwchraddio a diogelwch.
3. Cynorthwyo Noddwyr Prosiect yr Asiant a swyddogion eraill yr Asiant drwy ddarparu cefnogaeth peirianneg traffig aml-ddisgyblaethol mewn perthynas â gwaith adnewyddu a chynnal a chadw'r priffyrdd.
4. Cynorthwyo Noddwyr Prosiect yr Asiant yn eu rôl fel gweinyddwyr y contract ac arbenigwyr caffael y prosiect.
5. Sicrhau bod y gwaith o weinyddu contractau ar gyfer prosiectau ar y rhwydwaith yn cydymffurfio â gofynion LlC.
6. Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau caffael prosiectau, gan gynnwys datblygu a gweithredu system rheoli prosiectau SharePoint a’r gronfa ddata gysylltiedig.
7. Gweithredu fel Noddwr Prosiect a Chleient CDM ar brosiectau fel y cytunwyd.
8. Caffael a bod yn rheolwr prosiect ar wasanaethau dylunio a chontractio'r ymgynghoriaeth yn unol â gweithdrefnau’r Asiantaeth, gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion perfformiad.
Cyfrifoldeb am swyddogaethau . e.e. staff, cyllidebau, offer
• Rheoli darparwyr gwasanaethau allanol (darparwyr gwasanaethau LlC, Awdurdodau Partner ac ymgynghorwyr a chontractwyr sector preifat).• Rheoli system a chronfa ddata SharePoint yr Asiantaeth.
Prif Ddyletswyddau .
Cynorthwyo'r Rheolwr Contractau a Chaffael a'r Rheolwyr Prosiect a Rhaglen wrth ymgymryd â'r swyddogaeth o oruchwylio a chydlynu pob prosiect aml-ddisgyblaethol yr Asiant o ran sicrhau y cyflawnir yn unol â'r gofynion cost, amser ac ansawdd, gan gynnwys:• Cynorthwyo gyda chynnal a chadw a monitro uwch raglen o holl brosiectau'r Asiantaeth, gyda phwyslais benodol ar sicrhau cyflawniad
• Cynghori a gweithio’n agos gyda Noddwyr Prosiect a swyddogion eraill yr Asiantaeth yng nghyswllt paratoi brîff prosiect, mân weithdrefnau tendro cystadleuaeth, rhaglenni/cynlluniau rheoli prosiect, a chyflawni prosiectau.
• Arddel egwyddorion system rheoli prosiect PRINCE2.
• Cynghori ar faterion peirianneg yn ôl yr angen.
• Cysylltu gyda darparwyr yr Awdurdodau Partner a sector breifat ynghylch prosiectau, gan gynnwys darparu Dangosyddion Perfformiad Allweddol
• Cysylltu gyda’r Uned Fusnes yng nghyswllt rheoli perfformiad prosiectau
• Cynorthwyo Noddwyr Prosiect i ddod â phrosiectau i ben, gan gynnwys comisiynu, cofnodion ‘fel y'u hadeiladwyd’ a diweddaru’r rhestr eiddo.
• Sicrhau bod y gwaith o weinyddu contractau ar gyfer prosiectau ar y rhwydwaith yn cydymffurfio â gofynion LlC.
Gweithredu fel Noddwr Prosiect ar brosiectau peirianneg aml-ddisgyblaethol fel y cytunwyd arnynt. I’r perwyl hwn, ymgymryd â’r swyddogaethau a ganlyn:
• cysylltu â staff perthnasol LlC a pharatoi Dogfennau Dechrau Prosiect
• bidio am gyllid prosiect a pharatoi briff prosiect.
• sicrhau y caiff pob comisiwn ei ddyrannu yn unol â Phrotocol Gwasanaeth Ymgynghorol yr Awdurdod Partner.
• cytuno ar raglen a brîff y prosiect
• cymeradwyo ffioedd ymgynghori a chynigion y tîm cyflawni
• cysylltu â staff perthnasol LlC
• bod yn gyfrifol am gyflawni’r prosiect yn ei gyfanrwydd a rheoli’r gyllideb
• cytuno ar iawndal a’i gymeradwyo
• adolygu a chytuno ar gyflwyno taliadau’n fisol
• derbyn, adolygu, addasu a chymeradwyo Dangosyddion Perfformiad Allweddol y prosiect.
• cychwyn prosesau diffyg perfformiad.
• adrodd ar y gwariant cyfredol, a phroffil gwariant y dyfodol i Uned Fusnes yr Asiantaeth.
• trefnu a chadeirio cyfarfodydd cynnydd prosiect.
• adolygu a chymeradwyo cyflwyniadau sy’n gysylltiedig â'r prosiect cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru
• sicrhau y caiff prosiectau eu terfynnu'n briodol ac yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
Gweithredu fel Cleient CDM ar brosiectau fel y cytunwyd. Cynghori a chynorthwyo Noddwyr Prosiect ar rôl y Cleient CDM.
Rheoli’r holl gyllidebau prosiect priffyrdd perthnasol sy’n gysylltiedig â’r uchod.
Dyletswyddau Technegol Eraill
Sicrhau bod egwyddorion Rethinking Construction yn cael eu hyrwyddo gan yr Asiantaeth yn ei gweithdrefnau caffael.
Datblygu ac adolygu prosesau fel rhan o raglen wella barhaus i sicrhau bod dyraniadau cyllidebol yn cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon, ac y cwblheir gwaith ar amser ac yn unol â gofynion costau ac ansawdd, heb ymateb diangen gan y cyhoedd neu’r cyfryngau.
Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion deddfwriaethol sy’n berthnasol i’r swydd.
Sicrhau bod darparwyr gwasanaeth yr Asiantaeth, yr Awdurdodau Partner a’r Fframwaith yn cydymffurfio â pholisïau a safonau y DU / LlC, yn cynnwys:
• Canllaw Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd
• Manyleb ar gyfer Gwaith ar Briffyrdd
• Dull Mesur Gwaith ar Briffyrdd
• Pennod 8, Canllaw Arwyddion Traffig
• Canllaw Cynnal a Chadw Cefnffyrdd LlC
• Contractau NEC3
• Gorchmynion Sefydlog Cyngor Gwynedd
• Dogfennau perthnasol eraill y cyfeirir atynt yn y cytundeb WAGMA
Rheoli Perfformiad
Sicrhau y gweithredir systemau a gweithdrefnau er mwyn archwilio, monitro a rheoli perfformiad y gadwyn gyflenwi wrth gyflawni’r prosiectau.
Gweithredu dulliau o arolygu perfformiad a gweithio mewn partneriaeth er mwyn darparu gwelliant parhaus.
Mynd i’r afael â meysydd lle ceir diffyg perfformiad ar ran y darparwr gwasanaeth.
Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd
Mae pob gweithiwr yr Asiantaeth yn gyfrifol am gydymffurfio â’r polisïau Iechyd a Diogelwch, amgylcheddol ac ansawdd fel y cânt eu diffinio yn System Rheoli Busnes Integredig yr Asiantaeth.
Sicrhau y glynir yn gaeth at bolisïau a deddfwriaethau amgylcheddol a Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Cymryd cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch personol bob amser.
Cyffredinol
Cysylltu, fel bo’n briodol, â swyddogion yr Asiantaeth, Swyddogion LlC, Awdurdodau Partner a chyrff perthnasol eraill.
Meithrin diwylliant o arloesedd a gwelliant parhaus. Yn y cyd-destun hwn, monitro datblygiadau technolegol, cytundebol a datblygiadau eraill yn y diwydiant, gan gynnwys dulliau newydd, gyda’r nod o fabwysiadu’r arfer gorau pan fo hynny’n briodol.
Cynorthwyo a chefnogi’r Tîm Rheoli Busnes. Darparu cefnogaeth i swyddogion eraill yr Asiantaeth wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.
Cynrychioli buddiannau’r Asiantaeth yn gyffredinol mewn cyfarfodydd gyda budd-ddeiliaid.
Dyletswyddau rheolaethol, gweinyddol, technegol a phroffesiynol sy’n gymesur ag awdurdod y swydd.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau y cedwir gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau y cedwir gwybodaeth bersonol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Amlinelliad yn unig yw’r rhestr uchod o ddyletswyddau. Disgwylir i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i natur a graddfa’r swydd, yn unol â cheisiadau rhesymol gan y Rheolwr Llinell.
Amgylchiadau Arbennig e.e. yr angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig ac ati
• Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol er mwyn diwallu gofynion y Gwasanaeth.
• Ymweld â safleoedd adeiladu.
• Mynychu cyfarfodydd mewn mannau eraill o'r DU (e.e. Llandrindod, Caerdydd).
Dim ond amlinelliad o’r dyletswyddau yw'r uchod i roi syniad o lefel y cyfrifoldeb sydd ynghlwm â’r swydd. Nid yw’r swydd ddisgrifiad yn gyflawn o ran y manylion, a gall dyletswyddau’r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid natur a lefel cyfrifoldeb sylfaenol y swydd.