Nodweddion personol
Hanfodol
Gallu gweithio ag eraill i gyflawni dyletswyddau tîm.
Gallu gweithio ar adegau heb gyfarwyddyd na oruchwyliaeth ffurfiol.
Gallu gweithio i safon gyson o gywirdeb.
Gallu ymdrin â’r cyhoedd a’u hasiantwyr mewn modd cwrtais, cywir a
phroffesiynol; yn aml iawn dan amgylchiadau trist a theimladwy.
Gallu gweithio dan bwysau rhesymol ar adegau pan fo gwaith i’w gwblhau yn ôl y gofyn a osodwyd gan amserlen gaeth.
Dymunol
Gallu blaenoriaethu elfennau o’r gwaith beunyddiol.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cymwysterau o arholiadau TGAU, neu safon gyfatebol.
Dymunol
Cymhwyster o gwrs NVQ, neu safon debyg arall, yn ymwneud â gofal cwsmer a/neu gweinyddiaeth
Profiad perthnasol
Hanfodol
Wedi gweithio mewn swyddfa a delio â’r cyhoedd.
Dymunol
Wedi gweithio fel aelod o dîm bychan sydd ar adegau yn cyflawni dyletswyddau i amserlen gaeth.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gallu defnyddio ystod o raglenni cyfrifiadurol megis prosesu geiriau, taenlenni a basdata ynghyd â holi gwefannau.
Dymunol
Gallu ymdopi â sustemau gweinyddol gyffredinol a berthyn i swyddfa yn darparu gwasanaeth rheng flaen i’r cyhoedd a’u hasiantwyr.
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)