Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Prif bwrpas y rôl yw darparu amgylchedd diogel y tu allan i oriau gweithio arferol mewn eiddo llety â chymorth sydd ym mherchnogaeth y Cyngor (e.e. Hosteli).
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• -
Prif Ddyletswyddau.
• Goruchwylio pwy sy'n mynd i mewn ac allan o'r adeiladu, er diben diogelwch a bod yn bwynt cyswllt cyntaf am gyngor a diogelwch i gleientiaid yn ystod y nos.
• Rheoli'r adeiladau dros nos, gan sicrhau bod cleientiaid yn arwyddo wrth fynd i mewn ac allan yn ôl y gofyn a bod ymholiadau yn cael eu trin yn broffesiynol gan gyfeirio at staff cefnogol yn ôl yr angen; sicrhau bod pob ymwelydd i'r hostel yn arwyddo wrth gyrraedd a gadael.
• Ymateb i sefyllfa o argyfwng neu wagio adeilad a darparu cefnogaeth i eraill drwy gymryd camau priodol ar unwaith wrth gysylltu â'r gwasanaethau brys a dilyn camau gweithredu pellach os oes angen o fewn cyfyngiadau awdurdodi.
• Os bydd angen ymateb i ddigwyddiad sy'n ymwneud â diogelwch, gofyn am gymorth gan y swyddog ar alwad sydd ar ddyletswydd neu gan y gwasanaethau brys yn ôl y gofyn (gan ddilyn y canllawiau a ddarparwyd)
• Adrodd digwyddiadau a rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n effeithio ar yr adeiladau neu'n achosi risg i ddiogelwch cymunedol a chofnodi negeseuon yn gywir, gwneud galwadau ffôn dilynol, diweddaru llyfrau cofnodi ac adroddiadau trosglwyddo ac ati lle bo'n briodol.
• Adrodd wrth warden dydd yr hostel rhag ofn y bydd unrhyw ddiffyg disgyblaeth neu gamymddwyn gan breswylwyr.
• Patrolio safle/tir y safle yn rheolaidd
• Diogelu'r holl adeiladau ar ddiwedd pob sifft, gan sicrhau bod yr holl ffenestri wedi cau a bod goleuadau wedi'u diffodd.
• Monitro TCC tri lleoliad arall i gynnal goruchwyliaeth gyson o ddiogelwch, gan sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn broffesiynol, effeithiol a sensitif yn unol â Pholisi Diogelu Data'r Cyngor.
• Adnabod diffygion adeiladau a diogelwch a'u hadrodd yn briodol.
• Cofnodi materion cynnal a chadw neu iechyd a diogelwch gan ddefnyddio gwaith papur a/neu ddulliau electronig priodol fel y rhai a nodir mewn canllawiau gweithdrefnol.
• Sicrhau diogelwch yr holl letywyr bob amser a chynnal disgyblaeth tu mewn ac o gwmpas yr Hosteli.
• Bod ar gael i ddarparu diogelwch dros nos (dyddiau'r wythnos a phenwythnos) ar sail rota, patrwm sifft: gweithio am 3 diwrnod, 6 diwrnod i ffwrdd.
• Mynychu hyfforddiant fel sy'n ofynnol gan reolwyr i ddarparu'r Gwasanaeth mwyaf effeithiol a phriodol.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill a ystyrir yn angenrheidiol i gyflawni gofynion y Gwasanaeth.
• Cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau ac adrodd am unrhyw bryderon, gan gynnwys rhai sy'n ymwneud â Diogelu ac Amddiffyn Plant.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• -