Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Paratoi bwyd, arolygu a gweinyddu mewn cegin yn paratoi a gweini bwyd. Anwytho a hyfforddi staff cegin.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyllid
•Staff
•Offer
Prif ddyletswyddau
•Darparu bwyd – gan gynnwys cynllunio bwydlen, archebu bwyd, rheoli maint prydau, paratoi bwydydd a choginio.
•Cydymffurfio o ddydd i ddydd a gofynion Iechyd a Diogelwch a Diogelwch Bwyd sy’n effeithio ar staff, a phobl eraill a all fod yn defnyddio neu ymweld â’r safle.
•Sicrhau fod holl staff Arlwyo yn dilyn arferion gwaith da ac y cedwi’r at ofynion unrhyw Ddarpariaeth Statudol a pholisiau Cyngor Gwynedd.
•Trefnu ag arolygu’r gwasanaeth bwyd, yn cynnwys gweini’r bwyd.
•Arolygu staff y gegin. Pennu dyletswyddau, trefniadau gwaith a hyfforddiant.
•Sicrhau fod pob aelod o staff y gegin wedi derbyn hyfforddiant anwytho, Iechyd a Diogelwch a Diogelwch Bwyd cyn cychwyn gwaith.
•Arolygu a rheoli glanweithdra, iechyd a diogelwch.
•Diogelwch y gegin a’i chyffiniau drwy gloi ac agor y gegin.
•Sicrhau bod offer yn cael ei gynnal a’i gadw.
•Dyletswyddau clercyddol (e.e. archebu cyflenwadau, cadw cyfrif stoc bwyd, llenwi ffurflenni adrodd misol, sicrhau fod y llyfr cofnodion y gegin wedi ei gwblhau bob dydd).
•Unrhyw ddyletswydd arall yn ôl cais rhesymol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Bydd amgylchiadau yn codi yn gofyn am baratoi lluniaeth tu allan i oriau gwaith e.e. cyfarfod athrawon, hyfforddiant mewn swydd.
•Bydd disgwyliad cyd weithio gyda threfniadau argyfwng Cyngor Gwynedd i fwydo pobl mewn argyfwng ac i symud i gegin arall i helpu allan mewn argyfwng.
•I symud i geginau eraill lle mae angen cymorth.