Nodweddion personol
Hanfodol
•Gallu gweithio’n hyderus mewn tîm ac ar liwt ei hun.
•Brwdfrydedd ag egni i ddatrys problemau.
•Llygad am fanylder a chywirdeb.
•Gonestrwydd, hunan hyder pendant a hyblyg.
•Gallu i dderbyn cyfrifoldebau a chyfathrebu’n effeithiol.
•Gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
•Personolaeth ddiplomataidd.
•Perchen ar drwydded yrru ddilys ynghy â defnydd o gar.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
•Wedi derbyn addysg hyd lefel gradd neu’n dangos profiad perthnasol ar lefel uwch.
Dymunol
•Gradd neu cymhwyster cyffelyb mewn pwnc sy’n berthnasol i ofynion y swydd.
•Aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol.
•ECDL neu cymhwyster cyffelyb mewn defnyddio cyfrifaduron.
•Cymhwyster mewn rheoli prosiect e.e. PRINCE2
Profiad perthnasol
Hanfodol
•Dealltwriaeth a phrofiad o faterion datblygu economaidd, datblygu cymunedol a mentergarwch.
•Profiad o ddatblygu a chynllunio cynlluniau gweithredu a symud ymlaen a gweithrediad y cynlluniau gweithredu.
•Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Gynllun y Cyngor a’r cyd-destun strategol ac effaith posib ei gyflwyno.
•Profiad o reoli contractau trydydd parti ble yn berthnasol.
•Profiad o fonitro a gwerthuso prosiectau/cynlluniau.
•Profiad o gefnogi ymrwymiad y gymuned mewn prosiectau a phrofiad o weithio gyda chyrff y sector cyhoeddus, cyrff statudol a sefydliadau cymunedol bychan.
•Profiad o reoli prosiectau/cynlluniau.
•Profiad o grynhoi a monitro cyllidebau a gweithio o fewn rheoliadau ariannol, yn cynnwys rhai Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.
•Rhaid i’r ymgeisydd fod yn greadigol a bod â’r gallu i ddatrys problemau er mwyn creu syniadau newydd ac arloesol ac er mwyn gweithredu ar yr atebion.
•Profiad o weithio oddi fewn amserlen dynn ac o dan bwysau.
•Dealltwriaeth o fodelau busnes a chynllunio.
•Y gallu i ddatblygu, meithrin a chadw perthynas weithio dda gyda rhan ddeiliad, busnesau, cynrychiolwyr o gynmunedau a’r Llywodaeth ar bob lefel.
•Dealltwriaeth gref o arloesedd a hwyluso – gyd’ar nod o greu amodau fydd yn denu cyfranogiad a chreadigrwydd.
•Sgiliau rheolaethol/trefniadaeth yn hanfodol.
Dymunol
•Profiad o reoli staff.
•Gwybodaeth a phrofiad o’r gofynion sy’n berthnasol o fewn amgylchedd Llywodraeth leol.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu gwych yn cynnwys yn gallu i gyfathrebu’n effeithiol ag amrediad eang o gynulleidfaoedd.
•Gallu cyflwyno adroddiadau a gwybodaeth yn ysgrifenedig ac ar lafar
•Gallu gweithio ar liwt ei hun.
•Unigolyn egniol, ymroddgar, creadigol ac sydd â chymhellaint, gweledigaeth a phendantrwydd.
•Meddu ar drwydded yrru lawn a bod â char y gellir ei ddefnyddio ar gyfer y gwaith.
•Medrus â TG.
•Bod ag ymroddiad o ran egwyddorion ac arferion cyfle cyfartal sy’n tanategu Cynllun Strategol y Cyngor.
•Gallu i siarad a chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn angenrheidiol.
Dymunol
•Dealltwriaeth a gwybodaeth am yr ardal ac amcanion Cyngor Gwynedd.
•Dealltwriaeth am becynnau meddalwedd cyfrifiadurol Windows.
•Sgiliau adeiladu tîm.
•Gwybodaeth ynglŷn ag amrediad o grwpiau, sefydliadau ac rhydweithiau sydd yn ymwneud a gweithgaredau economaidd cymdeithasol yng Ngwynedd.
•Gwybodaeth ynglŷn â sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol sydd ynghlwm a gweithredu prosiectau
•Gwybodaeth a phrofiad ynglŷn â gofynion gweinyddol a chyllidol gwahanol cronfeydd nawdd
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)