Pwrpas y swydd
•Asesu anghenion plant anabl a phlant sy’n wael a’u teuluoedd / gofalwyr yn unol â’r gofynion statudol perthnasol.
•Gweithio fel aelod o dîm aml-asiantaethol sirol.
•Cario allan dyletswyddau ar y cyd megis sefydlu cynlluniau gofal, eu monitro a’u adolygu i ateb yr anghenion.
•Cynorthwyo i ddatblygu gwasanaethau newydd ar gyfer plant anabl a phlant sy’n wael a’u teuluoedd o fewn y Sir.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Amherthnasol
Prif ddyletswyddau
•Bod yn aelod o dîm gwaith cymdeithasol o fewn gwasanaeth aml-asiantaethol y Gwasanaethau Arbenigol Plant.
•Cario allan ddyletswyddau perthnasol i ganllawiau a pholisiau’r gwasanaeth.
•Cymryd rhan mewn unrhyw grwpiau tasg perthnasol i’r swydd.
•Hyrwyddo amcanion y gwasanaeth drwy weithio’n glos gyda chyd aelodau o bob asiantaeth.
•Bod yn weithiwr cyswllt neu/ac (g)weithiwr allweddol i nifer o blant anabl a phlant sy’n wael yn dilyn trefn cyfeirio y gwasanaeth.
•Asesu anghenion y plant hyn yn ôl gofynion statudol perthnasol.
•Aesu anghenion gofalwyr / teuluoedd yn unol â’r gofynion statudol.
•Cario allan ddyletswyddau a thasgau gwaith cymdeithasol gyda’r plant a’r teuluoedd.
•Trefnu a darparu pecynnau gofal i gwrdd a’r anghenion a aseswyd mewn ymgynghoriad gyda’r plant, eu teuluoedd, a chydweithwyr.
•Cyflawni asesiadau risg perthnasol i’r uchod.
•Monitro ac adolygu cynlluniau gofal a ddarparwyd trwy drefn aml-asiantaethol.
•Bod yn rhan o drefn dyletswydd y tîm gwaith cymdeithasol
•Hybu cysylltiadau gyda darparwyr gwasanaeth a Mudiadau Gwirfoddol perthnasol.
•Cydweithio gyda grwpiau / fforymau rhieni
•Cydweithio gyda’r Tîm Amddiffyn Plant a’r Tîm Plant mewn Gofal mewn perthynas ag achosion amddiffyn plant a phlant sy’n derbyn llety.
•Cydweithio gyda thimau oedolion perthnasol o ran cynllunio ar gyfer oed trosglwyddo.
•Darparu gwybodaeth a chyngor i gydweithwyr fel bo’ n briodol.
•Dilyn hyfforddiant perthnasol i’r swydd ac at Gynllun Datblygu Staff yr Adran.
•Dilyn trefn Goruchwylio Staff.
•Bod yn ymwybodol at bolisïau perthnasol a threfniadaeth yr adrannau ar gyfer plant anabl a phlant sy’n wael.
•Datblygu gwybodaeth a medr arbenigol ym maes plant anabl a phlant sy’n wael.
•Bwydo gwybodaeth i mewn i’r drefn gwybodaeth megis cyfeiriadur gwasanaeth a thaflen newyddion i ddefnyddwyr gwasanaeth.
•Unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill yn ôl gofynion y Gyfarwyddwraig.
•Paratoi dogfennau perthnasol i ymateb i’r broses asesu, a darparu cynlluniau gofal cymdeithasol, asesiadau, ac unrhyw waith cofnodi a chadw ystadegau sy’n berthnasol i’r swydd.
•Bod yn ymwybodol o ddyletswyddau pethnasol statudol I blant anabl a phlant sydd yn wael.
•Bod yn ymwybodol o ddyletswyddau statudol iechyd diolgelwch a chanllawiau a pholisiau pethnasol I’r adran.
•Dilyn hyfforddiant perthnasol i’r swydd ac at Gynllun.
•Datblygu Staff yr Adran
•Dilyn trefn Goruchwylio Staff
•Bod yn ymwybodol o bolisïau perthnasol a threfniadaeth yr adrannau ar gyfer plant anabl a phlant sy’n wael.
•Datblygu gwybodaeth a medr arbenigol ym maes plant anabl a phlant sy’n wael.
•Cario allan ddyletswyddau perthnasol i Gofrestr Plant Anabl Gwynedd.
•Bwydo gwybodaeth i mewn i’r drefn gwybodaeth megis Cyfeiriadur Gwasanaeth a’r Newyddlen i ddefnyddwyr gwasanaeth.
•Unrhyw ddyletswyddau perthnasol eraill yn ôl gofynion y Pennaeth Gwasanaeth.
•Bod yn ymwybodol o ofynion Deddfau Iechyd a Diogelwch a chydweithio gyda Swyddog Iechyd a Diogelwch a Sicrwydd Ansawdd y Gyfadran i sicrhau ein bod yn cydymffurfio gyda’r gofynion Iechyd a Diogelwch perthnasol.
•Mae’r Cyngor yn gweithredu rhaglen barhaus o hyfforddiant a datblygu sgiliau personol ynghyd a phroses Gwerthuso sydd yn cyfrannu tuag at hyn, disgwylir i deilydd y swydd cydymffurfio a hyn
•Rhestr ddarluniol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn rhan o’r broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd a gweithredu ar unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â natur y swydd a’i graddfa yn unol â chais y Pennaeth Gwasanaeth/Rheolwr neu’r Cyfarwyddwr Stratego
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Angen gweithio oriau hyblyg ar adegau.