Swyddi ar lein
Rheolwr Ardal De
£38,830 - £40,754 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 23-27000
- Teitl swydd:
- Rheolwr Ardal De
- Adran:
- Byw'n Iach
- Dyddiad cau:
- 26/04/2024 02:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £38,830 - £40,754 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS1
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cwmni Byw’n Iach becyn cyflogaeth deniadol.
Mae Cwmni Byw’n Iach yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r cwmni i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Amanda Davies, RHEOLWR GYFARWYDDWR, Byw’n Iach - 01286 679170
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 25/04/2024
Bydd y cwmni’n gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu ysgogi tîm o staff, trwy eu cymell i weithio ar lefel gyson ac uchel, wrth ymddwyn mewn modd proffesiynol bob amser
Gallu delio â phobl mewn modd adeiladol a diplomyddol, gan greu amgylchedd cadarnhaol, lle mae barn pawb yn cael ei pharchu
Gonest, hyderus, adeiladol a hyblyg
Gallu derbyn cyfrifoldeb
Gallu cyfathrebu'n effeithiol a dewis dulliau priodol ar gyfer cyfleu gwahanol negeseuon
Gallu meithrin perthynas waith da ag eraill i gyflawni perfformiad a chael canlyniadau
Gallu ymateb i nifer o ofynion gwaith, blaenoriaethu'n briodol a chadw at derfynau amser
Gallu gweithio dan bwysau ac fel rhan o dîm ac o fewn terfynau amser tynn
Dibynadwy, gyda'r gallu i weithio ac ymateb yn effeithiol i sefyllfaoedd o argyfwngDYMUNOL
-CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cymhwyster rheoli cydnabyddedig priodol (e.e. ILM 3 neu gyfwerth)
neu
Addysg hyd at lefel Gradd mewn maes perthnasol
neu
NVQ 5
Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhausDYMUNOL
Cymhwyster ôl-raddedig mewn maes perthnasol
Cymhwyster IOSH neu gyfwerth
Cymhwyster neu Hyfforddiant Rheoli SaflePROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o reoli staff a chyllidebau yn llwyddiannus mewn amgylchfyd heriol a chystadleuol.
Profiad o weithio o fewn y sector Hamdden/ Chwaraeon/ Llesiant.DYMUNOL
Profiad o weithredu a rheoli cyfleusterau hamdden
Profiad o ddatblygu chwaraeon a/neu brosiectau ymgysylltu cymunedol
Profiad o reoli prosiectau
Profiad o ddatblygu achosion busnes a chynhyrchu ceisiadau llwyddiannus am gyllidSGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Sgiliau arwain effeithiol
Sgiliau pobl ragorol gyda gwybodaeth helaeth a manwl o arfer da o ran rheoli pobl.
Sgiliau cyfathrebu cryf – llafar ac ysgrifenedig
Sgiliau rheoli cyllideb
Sgiliau TG cryf gan gynnwys y gallu i ddefnyddio ystod o becynnau meddalwedd cyffredin.
Agwedd gadarnhaol ac arloesol tuag at heriau a newid
Gwybodaeth am yr ardal leol a'i nodweddion demograffig, diwylliannol, iechyd a lles
Gwybodaeth am ddarparwyr gwasanaeth eraill a phartneriaid posibl yn yr ardal leol.
Dealltwriaeth o faterion iechyd a diogelwch a pharhad gwasanaeth.
Gwybodaeth am dueddiadau perthnasol ac arfer da ym meysydd iechyd, ffitrwydd a chwaraeon
Dealltwriaeth o brosesau diogelu priodol o fewn sefydliad hamddenDYMUNOL
Gwybodaeth dechnegol am weithrediad pyllau nofio a’r offer perthnasol
Profiad o ddefnyddio data a mewnwelediad i ddatblygu cynlluniau busnes
ANGHENION IEITHYDDOLHANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth a wnawn.
Arwain a rheoli gwasanaethau yn ne'r sir yn unol â chenhadaeth gorfforaethol Byw'n Iach.
Pwrpas Byw'n Iach yw "cynnig gweithgareddau hamdden a ffitrwydd cynaliadwy o'r safon uchaf i'n cymunedau, er mwyn gwella iechyd, lles, ffitrwydd a sgiliau pawb."
Ein gweledigaeth yw "Pob trigolyn yn gwsmer - pob teulu yn gwella eu hiechyd a'u lles - pob cymuned yn elwa".
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am ddefnydd diogel a phriodol o'r holl adeiladau, cerbydau, offer, arian ac ati o fewn yr ardal penodol, gydag agweddau penodol wedi'u dirprwyo i'r Dirprwy Reolwr Ardal a'r Rheolwyr ar Dyletswydd.
•Cyfrifoldeb am reoli 50-80 o staff.
Prif ddyletswyddau
Arweinyddiaeth a Rheolaeth
•Bod yn esiampl i eraill trwy fod yn rhagweithiol, yn onest ac yn gyson a thrwy gymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd eich hun. Sicrhau cydymffurfiaeth â safonau proffesiynol.
•Cynllunio a monitro i sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel a gwelliant parhaus. Darparu gwerth am arian drwy flaenoriaethu, rheoli a monitro’r defnydd effeithiol o adnoddau a chydnabod bod gwybodaeth, gallu a sgiliau hefyd yn adnoddau.
•Gwneud i bethau ddigwydd trwy wneud penderfyniadau ystyrlon a thrwy ymateb yn effeithiol i flaenoriaethau wrth iddynt newid.
•Cefnogi'r broses o adnabod a gweithredu newid mewn cydweithrediad â'r Rheolwr Gyfarwyddwr.
•Trwy ddirprwyo priodol i'r Dirprwy Reolwr Ardal, cadw gorolwg o faterion gweithredol o fewn ardal penodol, gan sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu'n effeithiol ac yn unol â disgwyliadau'r cwmni.
•Cymell, annog a grymuso eich staff trwy ddirprwyo gwaith yn effeithiol a thrwy greu diwylliant o barch, cydweithio a chymryd risgiau priodol. Rhoi cyfeiriad ac adborth i'ch staff trwy drosglwyddo'r weledigaeth yn effeithiol wrth ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth.
•Cyfathrebu'n effeithiol gyda'r holl staff o fewn yr ardal penodol.
•Rhannu a gwrando ar wybodaeth, safbwyntiau a syniadau, heb ragfarn, gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol. Cynyddu cymhelliant trwy ddefnyddio cyfathrebu cynhwysol sy'n ystyried teimladau pobl eraill.
•Ysgogi staff, gan gynnwys nodi a chydnabod arfer gorau.
•Arwain ar un maes cyfrifoldeb corfforaethol o fewn Tîm Rheoli’r cwmni e.e. Iechyd a Diogelwch, Eiddo, Diogelu, Adnoddau Dynol neu Faterion Data. Bydd disgwyl i Reolwyr Ardal weithio ar draws ffiniau i sicrhau gwasanaethau effeithiol ac effeithlon.
Cyllid a Pherfformiad
•Sicrhau bod gwariant ar wasanaethau o fewn yr ardal o fewn y gyllideb.
•Cefnogi'r agenda gwerth gorau drwy gynnig syniadau ar sut y gellid darparu gwasanaethau'n fwy effeithlon.
•Sicrhau bod adroddiadau perfformiad ac ariannol priodol ar gael a bod materion ariannol yn cael sylw dyledus mewn cyfarfodydd staff.
•Sicrhau bod datrysiadau a phenderfyniadau priodol yn cael eu gwneud er mwyn cadw o fewn cyllidebau a chwrdd â thargedau.
•Grymuso staff rheng flaen/safle i gymryd perchnogaeth ac atebolrwydd am eu perfformiad.
•Cyfrannu'n effeithiol at brosesau Monitro ac Archwilio Mewnol a gweithredu unrhyw welliannau perthnasol
•Rheoli cyllid grant yn effeithlon a chyflawni'r holl ofynion monitro ac adrodd.
Adnoddau Dynol
•Sicrhau fod gan Ganolfannau o fewn yr ardal benodol staff priodol i ddarparu'r gwasanaethau angenrheidiol.
•Sicrhau bod gan y staff ardal y sgiliau priodol i ddarparu gwasanaethau o'r safon uchaf.
•Sicrhau bod materion sy’n ymwneud ag Adnoddau Dynol o fewn y maes (e.e. gwerthuso, goruchwylio, penodi a recriwtio) yn addas i’r diben ac yn unol â pholisïau’r Cwmni.
•Nodi cryfderau a meysydd datblygu ar gyfer eich staff trwy oruchwyliaeth reolaidd a phroses arfarnu'r Cwmni. Canolbwyntio ar wella perfformiad trwy reoli a datblygu effeithiol a thrwy fesur, monitro ac arfarnu perfformiad. Gweithredu a datblygu cynlluniau busnes i adlewyrchu hyn.
•Sicrhau bod materion disgyblu a medusrwydd yn cael eu gweithredu yn unol â pholisïau'r cwmni.
•Sicrhau bod yr ardal yn ymateb i achosion absenoldeb mewn modd effeithiol
Materion Iechyd a Diogelwch ac Eiddo
•Sicrhau bod Materion Iechyd a Diogelwch yn cael sylw teilwng o fewn y maes, gan sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau'r Cwmni a chyfrifoldebau rheoleiddio a chyfreithiol ehangach.
•Cefnogi'r Rheolwr perthnasol gyda materion parhad gwasanaeth a chynllunio at argyfwng.
•Sicrhau bod materion eiddo ac adeiladau yn destun rheolaeth gadarn ac effeithiol gan gynnwys gwiriadau rheolaidd ac adrodd yn amserol ar faterion cynnal a chadw.
•Ynghyd â'r Dirprwy Reolwr Ardal a'r Rheolwyr ar Ddyletswydd, gweithredu trefniadau rheoli safle effeithiol ar draws yr ardal.
•Datblygu achosion busnes a cheisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau datblygu ar safleoedd yr ardal.
Gofal Cwsmer a Sicrhau Ansawdd
•Sicrhau ymatebion priodol i gwynion a chanmoliaeth unigol a rhannu unrhyw ddysgu perthnasol o fewn y cwmni.
•Sicrhau bod gwasanaethau'n canolbwyntio ar y cwsmer.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â pholisi'r cwmni yn y maes hwn.
Rheoli Perfformiad a Sicrhau Ansawdd
•Sicrhau bod yr ardal yn canolbwyntio'n briodol ar ganlyniadau ac yn gweithio tuag at y deilliannau a'r targedau sydd wedi eu gosod yn y cynllun busnes.
•Cynnig mewnbwn a chyfrifoldeb am y broses cynllunio busnes drwy sicrhau bod materion lleol yn cael eu hamlygu o fewn y broses gynllunio.
•Cefnogi datblygiad Cynlluniau Gwella lleol ar gyfer pob cyfleuster, gan sicrhau eu bod yn cadw at egwyddorion “SMART” er mwyn cwrdd ag amcanion ehangach y Cynllun Busnes.
•Os oes angen, sicrhau bod unrhyw faterion tanberfformio yn cael sylw priodol.
•Cyfrannu at gyflwyno ceisiadau a phrosesau asesu ar gyfer cynlluniau Sicrhau Ansawdd perthnasol.
Data /Technoleg Gwybodaeth
•Sicrhau bod y defnydd o dechnoleg gwybodaeth a data o fewn timau yn unol â gofynion a pholisïau’r cwmni.
Cyfathrebu a Marchnata
•Arwain ar drefniadau ymgysylltu ar lefel leol ar gyfer y cyfleusterau, ac annog trigolion lleol i rannu eu barn
•Gweithio gyda staff Marchnata'r Cwmni i sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau lleol yn cael eu hyrwyddo'n effeithiol.
•Sicrhau bod trefniadau cyfathrebu staff priodol yn eu lle o fewn yr ardal fel bod staff yr ardal yn glir ynghylch yr hyn a ddisgwylir ganddynt.
•Cynrychioli'r cwmni ar lefel ardal, gan sicrhau perthnasoedd gwleidyddol, cymunedol, rhanddeiliaid a phartneriaid priodol.
•Cyfathrebu'n effeithiol gyda swyddogion a rheolwyr eraill o fewn y Cwmni a chyfrannu at waith y Timau Rheoli, Paneli'r Cwmni a'r Bwrdd, yn ôl yr angen.
Cyfrifoldebau Eraill:
•Yn gyfrifol am hunanddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cwmni.
•Gweithredu o fewn polisïau cyfle cyfartal a chydraddoldeb y Cwmni.
•Yn gyfrifol am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cwmni. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cwmni yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon, ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau Ôl Troed Carbon y Cwmni;
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd resymol arall sy'n cyfateb i lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Yn gyfrifol am adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn agored i niwed yn cael ei gam-drin
-
Amgylchiadau arbennig
•Ar adegau, bydd yn anochel y bydd gofyn i ddeiliad y swydd fynychu cyfarfodydd a digwyddiadau y tu allan i oriau gwaith arferol.
•Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ymateb i geisiadau y tu allan i oriau, i agor Canolfannau Gorffwys mewn ymateb i ddigwyddiadau lleol.